Jump to content
Adroddiad effaith: 2022 i 2023

Neges gan Sue a Mick

Cafodd y meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar flwyddyn heriol iawn arall yn 2022 i 2023. Aethom i gyfnod newydd o'r pandemig a welodd lai o gyfyngiadau maes o law, ond a oedd yn cyd-fynd â'r argyfwng costau byw ac effaith Brexit gan arwain at broblemau dybryd o safbwynt recriwtio a chadw staff.

Nid ydyn yn tanbrisio'r heriau, ond credwn fod gennym ni gyfleoedd sylweddol i gefnogi gwelliannau i bobl Cymru. Rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor angerddol a phroffesiynol yw'r gweithlu am y gwaith maen nhw'n ei wneud a faint mae'n ei olygu iddyn nhw cefnogi'r rhai sydd dan eu gofal i fyw'r bywydau sy'n bwysig iddyn nhw.

Ni allwn gyflawni’r newidiadau hyn ar ein pennau ein hunain. Mae gweithio gydag eraill yn ganolog i'n ffordd o weithio, a bydd partneriaeth yn dal i fod yn rhan ganolog i’r ffordd y byddwn ni’n cyflawni’n canlyniadau. Byddwn ni’n parhau i gefnogi cydweithio ar draws gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar, addysg, iechyd a phartneriaid ehangach, yn lleol ac yn genedlaethol.

Er gwaethaf heriau sylweddol yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud cynnydd ac mae angen i ni ddathlu hyn a'r gwelliannau a wnaed gan y sector. Mae gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yn wynebu heriau aruthrol i'r gweithlu ac mae'n anodd denu pobl newydd i'r sector a chadw'r gweithlu presennol. Rydyn ni’n gwneud popeth a allwn, o fewn ein cylch gwaith, i gefnogi’r sector.

Dyma ein hadroddiad effaith cyntaf yn erbyn y canlyniadau a nodwyd yn ein cynllun strategol pum mlynedd. Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni'r uchelgeisiau hyn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth yng Nghymru ar gyfer plant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Hoffem ddiolch o galon i bawb sy'n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar am eu gwaith caled, ymrwymiad a phroffesiynoldeb parhaus yn y cyfnod heriol hwn.

Diolch yn fawr

Sue Evans, ein Prif Weithredwr, a Mick Giannasi, ein Cadeirydd

Cynnwys

  1. Llesiant gwell ar gyfer y gweithlu
  2. Gweithlu sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr
  3. Gweithlu sydd â hyder y cyhoedd
  4. Gweithlu sydd â chymwysterau, gwybodaeth a sgiliau addas
  5. Denu, recriwtio a chadw pobl â'r gwerthoedd cywir
  6. Ymarfer a pholisi sy'n seiliedig ar arloesi, ymchwil a data
  7. Gwasanaethau sy’n ymgorffori ac yn darparu dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau
  8. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy o'r radd flaenaf
Diweddarwyd y gyfres: 18 Ionawr 2024
Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (99.2 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch