Jump to content
Gweithlu sydd â hyder y cyhoedd

Gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig sydd â hyder y cyhoedd.

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn o'n cynllun strategol yn ystod 2022 i 2023.

Rydyn ni’n diogelu'r cyhoedd drwy sicrhau bod y gweithlu a reoleiddir wedi'i gofrestru ac yn addas i ymarfer.

Gall pobl sy'n dibynnu ar ofal a chymorth fod yn sicr bod gweithiwr cofrestredig yn gymwys ac wedi cytuno i fodloni'r safonau proffesiynol rydyn ni wedi'u gosod ar gyfer y sector.

Dangosodd arolwg diweddaraf Omnibus o’r cyhoedd yng Nghymru ym mis Mawrth 2023 fod gan bobl canfyddiad cadarnhaol yn sgiliau a phroffesiynoldeb y gweithlu. Dywedodd:

  • 72 y cant o'r rhai a holwyd fod ganddyn nhw hyder yn y rhai sy'n gweithio ym maes gofal
  • 82 y cant a holwyd eu bod yn gwybod beth oedd safon dderbyniol o ofal.

Gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig

  • Roedd 53,537 o weithwyr gofal cymdeithasol wedi cofrestru gyda ni erbyn 31 Mawrth 2023
  • Mae hyn 18,000 yn fwy nag ym mis Mawrth 2022
  • Mae'r rhan fwyaf o'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cofrestru gyda ni erbyn hyn.

Addasrwydd i ymarfer

Yn 2022 i 2023:

  • cafodd 394 o weithwyr gofal cymdeithasol eu cyfeirio at ein tîm addasrwydd i ymarfer
  • fe wnaethon ni gynnal 50 gwrandawiad terfynol
  • cafodd 36 o bobl (0.07 y cant o'r Gofrestr) eu tynnu oddi ar y Gofrestr, fel na allant weithio mewn rôl gofal cymdeithasol gofrestredig yng Nghymru mwyach.

Mae cymryd rhan mewn ymchwiliad addasrwydd i ymarfer yn gallu bod yn gyfnod dryslyd ac yn ofidus. Felly fe wnaethon ni sefydlu llinell gymorth llesiant i helpu unrhyw un sy'n mynd drwy'r broses gwrandawiadau:

  • cysylltodd 10 o bobl
  • cynhaliwyd 25 o sesiynau cwnsela.
Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Ionawr 2024
Diweddariad olaf: 18 Ionawr 2024
Diweddarwyd y gyfres: 18 Ionawr 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (32.8 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (99.2 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch