Jump to content
Gweithlu sydd â chymwysterau, gwybodaeth a sgiliau addas

Gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sydd â chymwysterau, gwybodaeth a sgiliau addas, gyda'r gwerthoedd, yr ymddygiad a'r ymarfer cywir.

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn o'n cynllun strategol yn ystod 2022 i 2023.

Rydyn ni wedi cefnogi pobl sy'n cael eu cyflogi ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau a gwella’u gallu er mwyn helpu pobl yn effeithiol a darparu gofal.

Rydyn ni wedi gwrando ar y sector ac wedi gweithio gyda phartneriaid i wneud newidiadau i rai cymwysterau.

Canfyddiad y cyhoedd o sgiliau'r gweithlu

Ym mis Mawrth 2023, datgelodd arolwg Omnibus y cyhoedd yng Nghymru bod:

  • 67 y cant o'r cyhoedd yn cytuno bod y gweithlu (gweithwyr gofal preswyl, gweithwyr gofal cartref a gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant) bob amser yn fedrus ac yn broffesiynol wrth eu gwaith
  • 67 y cant yn credu y dylai pobl dderbyn gofal yn Gymraeg, os mai dyna fyddai'n well ganddyn nhw.

Mae ein data'n awgrymu bod tua 29 y cant o'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn deall Cymraeg i ryw raddau ac rydyn ni’n parhau i edrych ar ffyrdd o helpu'r gweithlu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Buddsoddi yn y gweithlu

Talwyd £7,144,856 i awdurdodau lleol drwy'r Grant Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, gydag arian cyfatebol o £3,062,081 gan awdurdodau lleol, i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Newidiadau i gymwysterau

Cyflwynwyd newidiadau i gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chymwysterau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ar ôl adborth.

Cyflwynwyd newidiadau i'r asesiadau ac ychwanegu mwy o unedau.

Diogelu

Ym mis Tachwedd 2022, fe wnaethon nihelpu i lansio safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu cenedlaethol cyntaf Cymru.

Mae'r safonau'n nodi'r sgiliau, agweddau, gwybodaeth a gwerthoedd sydd eu hangen ar bobl sy'n gweithio gydag oedolion a phlant sy’n agored i niwed.

Cofrestr sy’n seiliedig ar gymwysterau

Fe wnaethon ni gyhoeddi ein dadansoddiad o gymwysterau'r gweithlu cofrestredig cofrestredig sy'n darparu gofal a chymorth. Mae cofrestr sy’n seiliedig ar gymwysterau yn hanfodol i sicrhau bod gan weithwyr cofrestredig sgiliau a gwybodaeth addas.

Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Ionawr 2024
Diweddariad olaf: 18 Ionawr 2024
Diweddarwyd y gyfres: 18 Ionawr 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (34.4 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (99.2 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch