Jump to content
Gwasanaethau sy’n ymgorffori ac yn darparu dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau

Gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n ymgorffori ac yn darparu dulliau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar gryfderau.

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn o'n cynllun strategol yn ystod 2022 i 2023.

Mae rhoi'r unigolyn a'i anghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddyn nhw dros y canlyniadau sy'n eu helpu i gyflawni llesiant yn egwyddor allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Pobl yw'r arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, ac wrth gydweithio â gweithwyr proffesiynol, nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthym beth fydd yn cefnogi eu llesiant.

Rydyn ni wedi bod yn darparu offer ac adnoddau ymarferol i helpu gweithwyr proffesiynol defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar gryfderau yn eu hymarfer.

Yn 2022 i 2023, fe wnaethon ni ddarparu hyfforddiant i fwy na 260 o Unigolion Cyfrifol yng Nghymru am:

  • y cyd-destun deddfwriaethol yng Nghymru
  • ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau
  • sut i roi sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' wrth wraidd y ddarpariaeth gofal a chymorth.

Fe wnaethon ni redeg rhwydwaith o fentoriaid i hyrwyddo'r dull seiliedig ar gryfderau yn eu sefydliad. Mae'r aelodau'n cynnwys staff o 19 awdurdod lleol a'r sefydliad gofalwyr di-dâl Credu Cymru.

Rhaglenni rheoli ac arwain

Rydyn ni’n goruchwylio nifer o raglenni rheoli ac arweinyddiaeth. Hyd yma, mae:

  • 751 o bobl wedi mynychu'r Rhaglen Datblygu Rheolwr Tîm
  • 90 o bobl wedi dilyn y Rhaglen Datblygu Rheolwyr Canol.

Roedd 99 y cant o'r bobl a fynychodd yn teimlo ei fod yn berthnasol iddyn nhw a’u sefydliad, a’u bod yn diwallu eu hanghenion.

Buom ni hefyd yn gweithio gyda'r sector i ddatblygu dwy raglen newydd – un ar gyfer darpar reolwyr canol ac un ar arweinyddiaeth ar y cyd a thosturiol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Ionawr 2024
Diweddariad olaf: 18 Ionawr 2024
Diweddarwyd y gyfres: 18 Ionawr 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (32.0 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (99.2 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch