Gall y rhestr hon o adnoddau gefnogi cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau i fodloni rheoliadau safonau gwasanaeth
Sut all yr adnoddau helpu
Gall y rhestr hon o adnoddau gefnogi cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau i:
"sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi gan niferoedd priodol o staff sydd â’r gwybodaeth, cymhwysedd, sgiliau a chymwysterau i ddarparu’r lefelau o ofal a chymorth sydd eu hangen i alluogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol."
Gofynion ar Ddarparwyr Gwasanaethau o ran Staffio, Rhan 10 o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.
Fframweithiau sefydlu Cymru gyfan
- Mae adrannau o’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF) yn nodi’r themâu y disgwyliwn i weithwyr eu gwybod a'u deall.
- Gellir defnyddio adrannau o’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol i gefnogi rheolwyr sy'n newydd i'r rôl.
Cymwysterau Craidd ac Ymarfer
- Mae cynnwys y cymwysterau craidd ac ymarfer yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn disgwyl i weithwyr ei wybod, ei ddeall a'i roi ar waith.
- Mae Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn adlewyrchu cynnwys yr AWIF.
- Mae'r unedau ymarfer craidd o fewn Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) aLefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) yn seiliedig ar yr egwyddorion a'r gwerthoedd a ddisgwylir. mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Mae unedau arbenigol yn y cymwysterau ymarfer i adlewyrchu rolau gweithwyr.
- Rydyn ni’n annog rheolwyr i edrych ar yr unedau hyn, sydd ar gael ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru, a bod yn rhan o ddewis y rhai perthnasol gyda'u gweithwyr fel rhan o'r broses gymhwyso.
Cod Ymarfer Proffesiynol
- Mae'r Cod Ymarfer Proffesiynol yn set o reolau, neu safonau y mae'n rhaid i weithwyr gofal proffesiynol weithio yn unol â nhw, i helpu i'ch cadw'n ddiogel ac yn iach.
Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cofrestredig
- Mae'r canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cofrestredig yn cynnwys adrannau sy'n amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan gweithwyr cartref gofal i oedolion sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant a reoleiddir yng Nghymru
- Mae'r fframwaith cymhwyster yn egluro’r cymwysterau gofynnol a'r gofynion sefydlu ar gyfer rolau swyddi o fewn gofal cymdeithasol
Cofrestru gweithiwr gofal cymdeithasol
- Disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol y mae'n ofynnol iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru gyflawni 45 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus dros eu cyfnod cofrestru o dair blynedd.
- Mae canllawiau ar ein tudalennau cofrestru am yr hyn a ystyrir yn ddatblygiad proffesiynol parhaus derbyniol ac mae cefnogaeth i weithwyr gofal proffesiynol i adnewyddu eu cofrestriad
- Dylai goruchwyliaeth a gwerthusiadau unigol helpu i nodi anghenion dysgu a datblygu sy'n benodol i bob gweithiwr.
Digwyddiadau cymwysterau a safonau
Gallwch weld unrhyw ddigwyddiadau cymwysterau a safonau yma.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau, drwy iwqueries@socialcare.wales
Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Ebrill 2023
Diweddariad olaf: 3 Ebrill 2023
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch