Diweddariadau, gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr ar gymwysterau a safonau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae, dysgu a datblygu.
Diweddariad i gyflogwyr a rheolwyr: cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, a blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Yn gynharach eleni, fe wnaethom ddweud wrthych am y gwaith a wnaethom gyda chyrff dyfarnu (City & Guilds a CBAC) a Cymwysterau Cymru i ddelio â heriau cymwysterau o safbwynt cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, a blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y gweithlu yn gymwys, yn ddiogel ac yn broffesiynol, ac mae gan gymwysterau ran fawr iawn i’w chwarae yn hyn. Ond, rydych chi wedi dweud wrthym yn gyson fod rhai o’r gofynion o ran yr asesiadau a’r prosesau yn ychwanegu pwysau i’r sector.
Rydyn ni’n awyddus i brosesau a dulliau asesu cymwysterau fod yn hwylus i’r gweithlu ac yn syml i’w cyrchu a’u cwblhau, felly mae’n bleser gennym ddweud wrthych ein bod wedi cymryd camau breision ymlaen i ddelio â’r heriau hyn.
1. Beth ddywedoch chi
Roedd yna oedi cyn bo staff yn cael eu tystysgrifau ar ôl iddyn nhw gwblhau eu cymhwyster. Roedd hyn yn effeithio ar eu gallu i gofrestru gyda ni, ac mewn rhai achosion roedd yr oedi yn effeithio ar gyflog yr aelodau staff.
Beth wnaethon ni:
Cyfyngiad ansawdd a elwid yn system Hawlio Uniongyrchol oedd yn achosi’r oedi. Rhoddai’r cyrff dyfarnu’r cyfyngiad dros dro hwn ar yr holl ddarparwyr dysgu tra bo canolfannau yn magu hyder i gyflwyno’r cymwysterau newydd.
Ddiwedd gwanwyn 2023, dechreuodd y cyrff dyfarnu godi’r cyfyngiadau Hawlio Uniongyrchol ar gyfer darparwyr dysgu a fodlonai’r meini prawf y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn golygu bod y canolfannau hyn yn awr yn gallu hawlio tystysgrifau’n uniongyrchol pan fo dysgwr yn cwblhau ei gymhwyster, gan leihau’r oedi. Nid oes gan bob canolfan statws Hawlio Uniongyrchol, ond mae’r cyrff dyfarnu yn gweithio gyda’r canolfannau nad ydynt eto’n bodloni’r meini prawf.
2. Beth ddywedoch chi:
Mae asesiadau’r cymwysterau yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau. Dywedodd rheolwyr fod problemau staffio yn ei gwneud hi’n anodd rhyddhau staff o’r gwaith i fynychu sesiynau a addysgir, yr asesiadau dan reolaeth ar astudiaethau achos a’r profion cwestiynau aml-ddewis. Roedd nifer yr arsylwadau yn achosi problemau i leoliadau.
Beth wnaethon ni:
Buom yn gweithio gyda’r cyrff dyfarnu i gyflwyno cynnig i Cymwysterau Cymru i newid y ffordd y caiff cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant eu hasesu. Derbyniwyd y cynnig a buom yn gweithredu llai o asesiadau er mis Mawrth 2023.
Efallai y gwelwch fod:
- yr asesiad terfynol ar gyfer cymhwyster Craidd Lefel 2 wedi gostwng o dair astudiaeth achos a chwestiynau aml-ddewis i un astudiaeth achos a phrawf cwestiwn aml-ddewis. O 1 Ionawr 2024 ymlaen, bydd yr asesiad hwn yn brawf cwestiynau aml-ddewis yn unig. Caiff yr astudiaethau achos eu dileu o’r asesiad terfynol ac ni chânt ond eu defnyddio wrth addysgu a dysgu
- Mae nifer yr arsylwadau gorfodol ar gyfer cymwysterau Ymarfer Lefel 2 a Lefel 3 wedi mynd o chwech i bedwar. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi llai o bwysau ar y dysgu ac arnoch chi fel y cyflogwr.
3. Beth ddywedoch chi:
Mae gofynion y cymwysterau ar gyfer cofrestru yn achosi problemau i rai rhannau o’r gweithlu, er enghraifft gweithwyr rhan amser. Gan eu bod yn gweithio llai o oriau, mae’n anos cwblhau’r tasgau arsylwi ac asesu o fewn y cyfnod adnewyddu cofrestriad.
Beth wnaethon ni:
Rydyn ni wedi ymgynghori gyda’r sector ynglŷn â chynyddu’r amser sy’n ofynnol i gwblhau cymhwyster, o dair blynedd i chwe blynedd dros ddau gyfnod cofrestru. Nod y cynnig hwn oedd cymryd y pwysau oddi ar weithwyr gofal cymdeithasol, yn enwedig rhai sy’n gweithio’n rhan amser. Daeth yr ymgynghoriad i ben, a bydd gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol nawr chwe blynedd i gwblhau ei gymhwyster.
Beth arall sy’n digwydd?
1. Beth ddywedoch chi:
Nid yw darparwyr dysgu bob amser yn defnyddio tystiolaeth y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (FfSCG) yn y cymhwyster Craidd, felly caiff y dysgu ei ddyblygu, ac mae hynny’n cael effaith ar wasanaethau ac ar gostau i reolwyr.
Beth wnaethon ni:
Mae’r FfSCG yn adlewyrchu’r cymhwyster Craidd. Anogir darparwyr dysgu i gydnabod dysgu blaenorol sy’n gysylltiedig â’r Craidd a dylent ystyried unrhyw dystiolaeth FfSCG sydd gan y dysgwr. Ond, dylid hefyd gydnabod mai dechrau siwrnai ddysgu yw’r FfSCG, ac y dylai’r disgwyliadau am wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth unigolyn adlewyrchu ei brofiad a lle maen nhw ar y siwrnai honno.
Mae’r cyfarfod cychwynnol rhwng y rheolwr, y darparwr dysgu a’r dysgwr yn bwysig i sicrhau bod unrhyw ddysgu blaenorol yn cael ei nodi a’i gydnabod yn y broses asesu.
Rydyn ni’n dal i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng yr FfSCG a’r cymhwyster Craidd drwy gyfrwng sesiynau misol. Yr FfSCG yw ein rhaglen sefydlu o hyd, ac fe’i cydnabyddir yng Nghanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru i ddarparwyr gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol.
2. Beth ddywedoch chi:
Mae gofynion Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) y fframwaith Prentisiaethau yn rhoi pwysau ychwanegol ar ddysgwyr. Mae’r adborth yn awgrymu bod dysgwyr yn cael SHC mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu yn anodd, gan nad yw’r dysgu yn berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol na’r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae rhai cyflogwyr wedi tynnu eu staff yn ôl oddi ar raglenni cymwysterau gan fod y staff yn ei chael yn anodd astudio a chwblhau’r sgiliau hanfodol.
Beth wnaethon ni:
Byddwn ni'n adolygu’r adnoddau addysgu a dysgu a ddefnyddir i gyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru i ddysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chwarae, Dysgu a Datblygu Gofal Plant. Nod yr adolygiad fydd casglu a rhannu â darparwyr dysgu, esiamplau arfer gorau o adnoddau sgiliau hanfodol a ddatblygwyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Byddwn yn sicrhau bod y dysgu yn fwy perthnasol i rôl yr unigolyn ac yn lleihau rhywfaint o’r pryder ynglŷn â sgiliau hanfodol i’r dysgwr.
3. Beth ddywedoch chi:
Fe all y gofynion academaidd a gofynion yr asesiadau ar gyfer cymwysterau Lefel 4/5 cyfredol fod yn heriol i staff. Mae rhai cyflogwyr a dysgwyr nad ydynt yn dal i ddeall yn llawn ofynion a disgwyliadau academaidd lefel uwch y dyfarniadau hyn.
Beth wnaethon ni:
Buom yn gweithio â’r cyrff dyfarnu a’r darparwyr dysgu i ddeall yn well y problemau a wyneba dysgwyr sy’n astudio’r cymwysterau Lefel 4/5 presennol. Rydym yn cydnabod bod y cymwysterau hyn yn newydd a’u bod yn dal mewn cyfnod sefydlu naturiol. Rydyn ni’n falch o weld cynnydd cadarn mewn dysgwyr sy’n cwblhau’r dyfarniadau’n llwyddiannus. Ond, mae rhai rhannau o’r strategaeth asesiadau yn dal i achosi pryder, yn enwedig o safbwynt gofynion ailsefyll/ailgymryd ar Lefel 4.
Rydyn ni wedi dal i weithio gyda’r corff dyfarnu (City & Guilds) a’r darparwyr dysgu i ddod i hyd i atebion priodol. Mae City & Guilds yn datblygu adnoddau i helpu dysgwyr gyda’r pwyslais ar basio’r tro cyntaf. Bydd yr adnoddau hyn yn cynnwys rhestr gyfeirio i sicrhau bod yr holl dystiolaeth angenrheidiol wedi’i chynnwys, geirfa, arweiniad ar yr iaith asesu a ddefnyddir ynghyd â chyfrif geiriau awgrymedig. Caiff yr adnoddau eu hadolygu a’u monitro fel eu bod yn effeithiol ac yn cefnogi dysgwyr i gyflawni.
Rydyn ni hefyd yn bwriadu cynnal sesiynau ymgysylltu â chyflogwyr Lefel 4/5 o fis Ionawr 2024 ymlaen, i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, felly chwiliwch am y dyddiadau hynny.
Beth nesaf?
Rydyn ni’n dal i weithio ar sut i ymateb i’r adborth ar gymwysterau lefel 4 a 5 yn ogystal ag yn monitro effaith y newidiadau a wnaed ac a wneir i’r holl gymwysterau ac felly byddwn yn rhoi’r diweddaraf ichi ar hyn wrth i bethau fynd rhagddynt.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad i ddweud wrthych chi am ein gwaith gyda chyrff dyfarnu, Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Fe wnawn roi gwybod i chi sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod cymwysterau yn hwylus i’r gweithlu ac yn syml i’w cyrchu a’u cwblhau.
Byddem hefyd yn hoffi clywed gennych chi am storïau newyddion da neu esiamplau o arferion da y gallwn ni eu rhannu gyda chydweithwyr ar draws y sector. Neu, rhowch wybod inni oes unrhyw faterion y dylem ddal i weithio arnynt gyda’n partneriaid yn y Consortiwm.
Cysylltwch â ni ar qualsandstandards@socialcare.wales.
Newidiadau asesu cymwysterau Craidd Lefel 2
Yn dilyn adborth gan y sector, mae newidiadau wedi'u gwneud i asesiadau'r cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
Mae’r newidiadau i’w gweld ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.
Newidiadau asesu cymwysterau Ymarfer Lefel 2 a Lefel 3
Mae newidiadau hefyd wedi’u gwneud i gymwysterau Ymarfer Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Cewch fwy o wyboaeth ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.
Safle Fframwaith sefydlu Cymru gyfan yn cau ar 31 Hydref
Bydd gwefan y safle gweithlyfrau digidol ar gyfer y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (FfSCG) ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a elwid y ‘Dyfarniad egwyddorion a gwerthoedd’ gynt yn cau 31 Hydref.
Beth mae hyn yn ei olygu
Os oes gennych chi gyfrif ar y safle yn barod, o nawr hyd at 31 Hydref gallwch lawrlwytho a chadw unrhyw weithlyfrau sydd wedi’u cwblhau'n llawn a’u cymeradwyo, er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
Ni fydd gennych chi fynediad i’ch cyfrif ar ôl 31 Hydref.
Pam fod hyn yn newid?
Rydyn ni’n cau’r safle fis Hydref gan nad ydy gweithwyr gofal cymdeithasol bellach yn defnyddio’r FfSCG i gofrestru â ni.
Nawr, gall gweithwyr gofal cymdeithasol gofrestru os oes ganddynt y cymhwyster gofynnol neu os ydy eu cyflogwr wedi asesu eu bod yn gymwys i gofrestru. Mae asesiad cyflogwr yn caniatáu i gyflogwyr gymeradwyo cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl eu hasesu yn erbyn rhestr o gymwyseddau.
Rydyn ni wrthi’n datblygu adnodd digidol newydd i gefnogi’r llwybr asesiad gan gyflogwr. Gobeithio bydd hwn ar gael yn hwyrach yn y flwyddyn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar induction@socialcare.wales
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.