Jump to content
Gwybodaeth ar gyfer asiantaethau recriwtio

Mae asiantaethau recriwtio yn chwarae rhan hanfodol o ddarparu staff gofal cymdeithasol i weithio yng Nghymru. Fel rhan o'r rôl hon, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod staff gofal cymdeithasol sydd yn gweithio i chi wedi cofrestru gyda ni yn Ofal Cymdeithasol Cymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am pam ein bod ni’n cofrestru, pwy sy’n gallu cofrestru a manteision cael gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yma.

Dyma rai rolau y mae angen cofrestru ar eu cyfer:

  • gweithwyr gofal cymdeithasol - rhaid cofrestru o fewn 6 mis o weithio yn y sector gofal
  • gweithwyr cymdeithasol - rhaid iddyn nhw fod wedi cofrestru cyn dechrau gweithio fel gweithwyr cymdeithasol
  • rheolwyr gofal cymdeithasol - rhaid iddyn nhw gofrestru yn y rôl hon pan fyddant yn dechrau yn eu swydd.

Gallwch wirio cofrestriad rhywun ar ein Cofrestr.

Gwneud cais i gofrestru

Mae angen i’r holl staff sy'n gorfod cofrestru feddu ar gymhwyster sy'n berthnasol i'w swydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cymwysterau gofynnol a'r cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer gwahanol swyddi ar gael yma.

Mae canllawiau hefyd ar sut i wneud cais i gofrestru.

Pan fydd gweithiwr yn gwneud cais i gofrestru gyda ni, mae gofyn iddyn nhw ddewis eu prif gyflogwr. Os ydyn nhw'n gweithio gydag asiantaeth recriwtio, dylen nhw ddewis yr asiantaeth fel eu prif gyflogwr. Os yw gweithiwr wedi eich rhestru chi fel ei brif gyflogwr, bydd gennych chi rai cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'i gofrestriad.

Rhaid i bob gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru feddu ar dystysgrif gyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sydd â gwiriad 'Manwl gyda Rhestr Gwaharddiadau' ar gyfer y maes gwaith perthnasol (plant neu oedolion). Bydd angen i chi nodi dyddiad ar gyfer y DBS, a ddylai fod o fewn y 3 blynedd diwethaf, fel rhan o gais gweithiwr i gofrestru neu adnewyddu ei gofrestriad. Os nad oes gwybodaeth DBS ar gael, gofynnir i chi gadarnhau bod y gwiriad DBS ar y gweill a rhoi cadarnhad pan fyddwch chi wedi'i dderbyn. Os yw eich aelod o staff wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru gallwch ei ddefnyddio i wirio ei DBS.

Cymeradwyo

Bydd angen i chi cymeradwyo cais eich gweithiwr asiantaeth i gofrestru, ac mewn rhai achosion, ei ffurflenni adnewyddu. Ceir manylion am sut i ddod yn gymeradwywr a beth mae hyn yn ei olygu yma.

Ar ôl i chi ddod yn gymeradwywr ar gyfer eich asiantaeth recriwtio, byddwch chi’n gallu mewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein. Yma fe welwch chi lawer o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu, gan gynnwys rhestr o weithwyr sydd wedi rhestru eich sefydliad fel eu prif gyflogaeth ac unrhyw dasgau y bydd angen i chi eu cwblhau, fel cymeradwyo cais. Byddwch chi hefyd yn gweld dyddiadau cofrestru, adnewyddu a thalu blynyddol eich gweithwyr.

Asesiad gan gyflogwr

Efallai bydd angen i chi gwblhau asesiad o aelod o staff os nad oes ganddyn nhw gymhwyster perthnasol i ymuno â’r Gofrestr. Defnyddir Asesiad gan gyflogwr i benderfynu a yw gweithiwr gofal cymdeithasol yn addas i ymarfer ac a oes ganddyn nhw'r ddealltwriaeth briodol i wneud cais i gofrestru gyda ni.

Gan ei bod yn annhebygol y byddwch chi’n gweld ymarfer gweithiwr yn uniongyrchol, dylech chi weithio gyda safle’r lleoliad i drafod elfennau perthnasol y broses asesu gan gyflogwr.

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n defnyddio'r llwybr asesu gan gyflogwyr i gofrestru gwblhau un o’r cymwysterau cyfredol a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Rydyn ni’n disgwyl i'r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol ennill y cymhwyster hwn o fewn eu cyfnod cofrestru tair blynedd cyntaf, ond mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i'w gwblhau.

Rydyn ni’n argymell bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) o fewn y 6 mis cyntaf. Bydd angen i chi weithio gyda'r cyflogwr sy'n lleoli i gymeradwyo gwahanol rannau'r fframwaith.

Cynnal cofrestriad

Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i gynnal ei gofrestriad ei hun. Mae hyn yn cynnwys talu'r ffi flynyddol ac adnewyddu eu cofrestriad bob tair blynedd.

Mae angen i chi gefnogi eich staff i gwblhau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) perthnasol. Mae'n bwysig eich bod chi’n trafod ac yn cynllunio gyda'ch staff sut mae eu DPP yn helpu i wella'r ffordd maen nhw'n darparu gofal a chymorth.

Os bydd person cofrestredig yn methu â thalu ei ffi neu adnewyddu ei gofrestriad, bydden nhw’n cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr. Rydyn ni'n rhoi gwybod i'w prif gyflogwr, felly byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am eu tynnu nhw oddi ar y Gofrestr. Os caiff person cofrestredig ei dynnu oddi ar y Gofrestr, ni fydden nhw mwyach yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol sy'n gofyn am gofrestru yng Nghymru.

Addasrwydd i ymarfer

Os byddwch chi’n cael gwybod am bryderon am weithiwr cofrestredig, dylech chi weithio gyda safle’r lleoliad i ymchwilio i'r pryderon hyn, a gwneud atgyfeiriad i'r tîm addasrwydd i ymarfer os yw'n briodol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses addasrwydd i ymarfer a sut i wneud atgyfeiriad, ar ein gwefan.