Jump to content
Ymlaen: Y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol 2024 i 2029

Mae’r ymgynghoriad ar y strategaeth hon bellach wedi dod i ben.

Diolch am roi o’ch amser i rannu eich safbwyntiau â ni.

Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaethau sy'n gwella canlyniadau i bobl Cymru. Drwy gefnogi unigolion a theuluoedd ym mhob cymuned, mae'r sector gofal cymdeithasol yn amddiffyn plant, oedolion ac oedolion hŷn a’u helpu i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Nod y strategaeth hon yw helpu pobl sy'n arwain, datblygu a dosbarthu gofal cymdeithasol.

Mae hynny oherwydd ein bod ni’n gwybod y gall ymchwil, arloesi a gwella cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yn erbyn cefndir o anghydraddoldeb cynyddol, galw cynyddol, costau cynyddol a phwysau recriwtio.

Mae’r system gymorth wedi bod yn gyfyngedig ar gyfer gofal cymdeithasol o'i gymharu â'r hyn a welwn mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill fel addysg ac iechyd. Mae cynnydd i’w weld ym maes gofal cymdeithasol diolch i waith amryw o sefydliadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd mwy o gyfleoedd yn y dyfodol drwy ymrwymiad partneriaid a datblygiadau polisi gan gynnwys y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal Cymdeithasol.

Felly mae'n amserol i ni gael dull strategol ar y cyd i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i gyflawni'r dyheadau sy’n cael ei nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i'r broses gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol, a lle mae pobl yn teimlo ysbrydoliaeth a chefnogaeth i roi cynnig ar bethau newydd.

Ymlaen yw’r strategaeth rydyn ni wedi’i datblygu gyda’n gilydd i gyflawni’r nodau hynny.

Ein gweledigaeth

Mae pobl sy’n arwain, yn datblygu ac yn darparu gofal cymdeithasol yn teimlo’n hyderus, a’u bod yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i ddefnyddio tystiolaeth ac arloesedd i wneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru.

I gyflawni’r weledigaeth hon, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i wneud y canlynol:

  • Pennu cyfeiriad: nodi blaenoriaethau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella fel y gallwn gyfeirio sylw, adnoddau a chamau gweithredu i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
  • Cysylltu: ‘uno’r dotiau’ rhwng gwahanol fathau o gymorth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella ym maes gofal cymdeithasol.
  • Galluogi: creu amodau sy’n galluogi newid positif a pharhaol ym maes gofal cymdeithasol
  • Cefnogi: rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i annog ymchwil, arloesi a gwella.
  • Amharu: ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.

Cyd-destun

Yn 2018, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol 2018 i 2023 mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dyma'r tro cyntaf i ni osod nodau a chamau clir i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol gwell ac i ddatblygu ymarfer sydd wedi’i gyfoethogi gan dystiolaeth ar lefel genedlaethol.

Rydyn ni wedi cyflawni llawer gyda'n partneriaid yn ystod oes y strategaeth gyntaf:

  • mae ymchwil newydd wedi'i ariannu
  • rydyn ni wedi gweithio gydag ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gofal a chymorth i bennu blaenoriaethau ymchwil
  • rydyn ni wedi ei gwneud hi’n haws cael mynediad at ddata gofal cymdeithasol drwy ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn un lle
  • rydyn ni wedi cefnogi pobl i wneud synnwyr o ymchwil a'i roi ar waith.

Ledled Cymru, mae ystod eang o sefydliadau wedi bod yn cefnogi ymarfer wedi’i gyfoethogi gan ymchwil a thystiolaeth , gwella ac arloesedd ym maes gofal cymdeithasol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu strategaeth ar y cyd gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru sy'n ceisio datblygu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Ymlaen yn ategu'r strategaeth hon.

Ond rydyn ni’n gwybod bod llawer i'w wneud o hyd i helpu i gyflawni'r dyheadau ar gyfer gofal a chymorth sy’n cael eu hamlinellu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae'r Ddeddf yn nodi gweledigaeth lle mae gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda phlant ac oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr, i ddiogelu unigolion sy’n agored i niwed, hybu ataliad, ac i gefnogi llesiant unigol a llesiant ar y cyd.

Datgelodd gwerthusiad o'r Ddeddf (2023) fod cefnogaeth gref iddi o hyd ymhlith dinasyddion a phobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ond mae yna rwystredigaeth nad yw'r gweithredu wedi bod mor llwyddiannus â’r disgwyl.

Wrth ddatblygu'r strategaeth hon, fe wnaethon ni glywed bod pobl eisiau i ni, ynghyd â’n partneriaid, fynd i'r afael â'r bwlch rhwng polisi, deddfwriaeth a strategaeth a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol. Maen nhw am i'r Ddeddf gael ei chyflwyno i bawb, ac i'n strategaeth newydd gyfrannu at y nod hwnnw. Mae angen rhoi gwella bywydau pobl wrth galon popeth, gan sicrhau ein bod yn cydbwyso anghenion y dyfodol â'r hyn sydd ei angen heddiw - fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae polisïau dilynol fel Cymru Iachach, Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol a Cymru’n Arloesi, wedi atgyfnerthu ein huchelgeisiau ar gyfer llesiant, cynaliadwyedd amgylcheddol, atal, a chefnogi pobl yn eu cymunedau eu hunain. Mae hyn yn golygu cynyddu ein gallu o ran ailalluogi, adsefydlu a gofal canolraddol, trawsnewid y ffordd rydyn ni i gyd yn cefnogi plant a theuluoedd, gwell integreiddio rhwng ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol, a chefnogi'r sector i gyflawni sero net erbyn 2030.

Mae datblygu a gweithredu'r strategaeth hon hefyd yn gyfle i helpu i wireddu ein dyheadau ar y cyd i Gymru fod yn wlad decach i bawb. Mae'r strategaeth hon yn cefnogi gwaith ystod eang o bartneriaid i fynd i’r afael â gwahaniaethu drwy gyfrannu at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, yn ogystal â chynllun y Gymraeg Mwy na Geiriau, i wneud newid mesuradwy i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae gwaith gwych yn digwydd ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni am gefnogi hyn drwy sefydlu dull ymchwil, arloesi a gwella sy'n canolbwyntio ar gydweithio. Mae cytuno ar flaenoriaethau gyda'n gilydd yn ein helpu i benderfynu ble y dylen ni ganolbwyntio ein hymdrechion unigol ac ar y cyd.

Rydyn ni hefyd eisiau cryfhau'r 'llais' gofal cymdeithasol. Dywedodd pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wrthon ni nad ydyn nhw'n teimlo bod eu buddiannau'n cael eu cynrychioli'n dda yn y sector cyhoeddus. Gyda’n gilydd, byddwn yn llais awdurdodol sydd wedi’i seilio ar ymgysylltiad a thystiolaeth, i hyrwyddo gofal cymdeithasol a sicrhau bod eu buddiannau'n cael eu hystyried a'u clywed.

Mae newid yn dod â risgiau a chyfleoedd. Mae rheoli risg yn hanfodol a dylai gefnogi'r hyn sy'n bwysig i'r person, nid bod yn rhwystr iddo.

Beth rydyn ni’n ei olygu wrth ymchwil, arloesi a gwella

Rydyn ni wedi cyfuno ymchwil, arloesi a gwella yn ein strategaeth newydd gan nad ydyn ni o reidrwydd yn meddwl amdanyn nhw fel pethau gwahanol. Rydyn ni’n fwy tebygol o feddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau, gwneud rhywbeth sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, neu ddeall beth sy'n gweithio.

Mae ymchwil yn golygu ceisio casglu gwybodaeth newydd drwy fynd i'r afael â chwestiynau wedi’u diffinio gyda dulliau systematig a thrylwyr. Mae’r strategaeth yn defnyddio diffiniad eang o ymchwil sy'n cynnwys ymchwil academaidd ond sydd hefyd yn cwmpasu ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar ymarfer. Rydyn ni eisiau i bobl deimlo'n hyderus i wneud eu hymchwil eu hunain yn eu dewis iaith, i werthuso eu ffyrdd o weithio, a defnyddio tystiolaeth i lywio eu hymarfer. Rydyn ni hefyd eisiau cefnogi ein partneriaid ymchwil academaidd i wneud ymchwil o ansawdd uchel, a byddwn yn hyrwyddo hyn ar draws y maes gofal cymdeithasol.

Mae arloesi’n ymwneud â defnyddio gwybodaeth newydd i wella sut mae pethau'n cael eu gwneud mewn ffordd sy'n newydd i leoliad penodol, neu i ofal cymdeithasol. Mae arloesi’n digwydd mewn gwahanol ffyrdd, ac ar raddfeydd gwahanol. Gall fod yn fater o system sy’n haws gweithio ynddi, newid y ffordd mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu, creu technolegau digidol newydd, neu gyflwyno ffyrdd newydd o fynd i'r afael ag ymarfer. Mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yn arloesi yn eu gwaith bob dydd, i ymateb i'r hyn sy'n bwysig i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi. Mae cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau gyda'r hyn sy'n bwysig i bobl yn rhan allweddol o'u rôl.

Mae gwella’n fwy anodd i’w ddiffinio ac yn golygu llawer o bethau i wahanol bobl. Mae'n cynnwys newid positif sy’n cynyddu fesul cam, a chwilio am wahanol ffyrdd o gynllunio, rheoli a darparu gofal a chymorth. Mae'n wahanol i arloesi oherwydd ei fod yn cynnwys parhad - mae'r ffyrdd newydd o wneud pethau’n seiliedig ar fodelau sy'n bodoli’n barod.

Ein nod yw ymwreiddio prosesau gwneud penderfyniadau wedi'u cyfoethogi gan dystiolaeth ar draws pob lefel o ofal cymdeithasol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi tystiolaeth o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys:

  • ymchwil, gan ymarferwyr ac ymchwilwyr arbenigol
  • profiad a doethineb pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth a gofalwyr
  • data a deallusrwydd
  • gwybodaeth a doethineb ymarferwyr.

Siart yn dangos y wahanol ffynonellau o dystiolaeth.

Dywedodd pobl eu bod nhw eisiau diwylliant lle mae ymchwil, arloesi a gwella yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ganolog i'r broses gyflawni.

Gweithio gyda phartneriaid

Er mwyn gwireddu gweledigaeth y strategaeth hon ar gyfer pobl sy'n arwain, datblygu a darparu gofal cymdeithasol, bydd angen cydweithio cryf ar draws ystod eang o sefydliadau partner. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn arwain y strategaeth newydd hon ac yn gweithio gyda phartneriaid i'w chyflawni.

Datblygwyd y strategaeth gyntaf gan Ofal Cymdeithasol Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ar gyfer y strategaeth newydd, mae set ehangach o bartneriaid ar draws ymchwil, arloesi a gwella wedi cydweithio. Gyda'n gilydd, rydyn ni’n gweithio ar gynllun gweithredu a fydd yn amlinellu'r gweithgareddau y bydd pob un ohonom yn ymrwymo iddyn nhw. Rydyn ni eisiau ymdeimlad cryf o berchnogaeth ar y cyd ar gyfer y strategaeth a'r ffordd mae’n cael ei chyflawni.

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cadw golwg ar y gweithredu ac yn dod â phartneriaid a rhanddeiliaid at ei gilydd yn rheolaidd i rannu cynnydd ac i gytuno ar ein gwaith yn y dyfodol. Rydyn ni am i hon fod yn strategaeth 'fyw', gyda'r hyblygrwydd i ymateb i anghenion gofal cymdeithasol. Mae angen i'r gweithredu fod yn sgwrs barhaus, nid rhywbeth y byddwn yn adrodd arno yn achlysurol.

I wneud hyn, byddwn yn creu grwpiau o'n sefydliadau partner ac yn cynnwys y bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol rydyn ni’n ceisio eu cefnogi. Dyma fydd y grwpiau:

  • grŵp goruchwylio o uwch arweinwyr i roi cyngor, helpu i oruchwylio’r cynnydd a effaith y strategaeth, ac i ddileu rhwystrau i gynnydd ar draws ein sefydliadau partner. Bydd y grŵp hwn hefyd yn blaenoriaethu camau gweithredu os bydd y capasiti neu’r adnoddau ariannol ym maes gofal cymdeithasol yn golygu na allwn fwrw ymlaen â’r holl gamau gweithredu fel y cynlluniwyd
  • cymunedau o 'weithredwyr' ar draws partneriaid, i greu amgylchedd o rannu, dysgu a gwneud gweithredol.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru mewn sefyllfa dda i ysgogi'r gwaith hwn oherwydd ein bod yn arwain ar ymchwil, datblygu'r gweithlu, gwella, arloesi a rheoleiddio'r gweithlu ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni eisoes yn gwneud llawer i helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gysylltu, datblygu sgiliau a gwybodaeth, a chael mynediad at ymchwil a data mewn ffyrdd sy'n gweithio iddyn nhw.

Nod ein strategaeth newydd yw gwneud cyfraniad pob partner yn gliriach o ran cymorth ymchwil, arloesi a gwella. Mae’n gyfle i bob un ohonon ni 'uno'r dotiau' i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac i wneud y gwaith caled o ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i wneud gwahaniaeth i sut maen nhw’n darparu cymorth.

Sut fyddwn ni’n gweithio

Ar y cyd â’n partneriaid, rydyn ni wedi cytuno ar rai egwyddorion allweddol o ran sut byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i roi’r strategaeth ar waith.

Byddwn yn hyrwyddo ac yn gwrando ar yr ystod lawn, gyfoethog ac amrywiol o leisiau sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwn yn tynnu sylw at leisiau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth ac nad ydyn nhw’n aml yn cael eu clywed neu’n cael blaenoriaeth. Byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn eirioli dros systemau, strwythurau ac arferion gwrth-hiliaeth.

Byddwn yn cyd-gynllunio ein cymorth gyda phobl sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Ein prif bwyslais yw’r bobl sy'n arwain, datblygu a darparu gwasanaethau, oherwydd dyna sut rydyn ni’n credu y gallwn gyflawni ein gweledigaeth ar y cyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad ymarferwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig ac i sicrhau newid sy'n gweithio'n ymarferol i bobl sy'n cael mynediad at ofal a chymorth.

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i gymryd camau ar y cyd, lle mae eu hangen fwyaf, i gael yr effaith fwyaf. Byddwn yn osgoi dyblygu ac yn ceisio 'uno'r dotiau'.

Byddwn wastad yn dysgu drwy ein gwaith o ddatblygu a chyflawni'r strategaeth hon. Byddwn yn dysgu gyda'n partneriaid ac oddi wrthyn nhw i greu system gymorth sy'n gweithio'n dda ac sy'n gallu addasu i newidiadau. Byddwn hefyd yn dysgu gan bobl sy'n gweithio mewn gofal a chymorth ac yn defnyddio’r gwasanaethau hyn, ac yn dysgu o ymchwil a data.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i fanteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau technolegol a digidol i gefnogi gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau. Bydd hyn yn cynnwys archwilio moeseg a phriodoldeb defnyddio technolegau digidol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, i ddatblygu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Byddwn yn addasu ac yn ymateb i amgylchiadau ac anghenion newidiol, a gwybodaeth newydd. Byddwn yn ymwybodol o flaenoriaethau a phwysau newidiol a brofir gan y rhai sy'n darparu gwasanaethau ac yn ymateb iddyn nhw. Byddwn yn gwerthuso'r strategaeth wrth iddi gael ei datblygu a'i rhoi ar waith, a byddwn yn chwilfrydig ac yn agored am ffyrdd newydd a chynaliadwy o wneud pethau.

Mae angen i'r strategaeth gyfrannu at newid cadarnhaol i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac ar ofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni am hyrwyddo diwylliant cynhwysol o wneud penderfyniadau wedi’u cyfoethogi gan dystiolaeth. Yn yr adran olaf, rydyn ni’n nodi sut byddwn ni’n gwybod os yw'r strategaeth wedi llwyddo ac os yw’n cael yr effaith rydyn ni’n anelu ato.

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’n partneriaid

Pennu cyfeiriad

Cysylltu

Galluogi

Cefnogi

Amharu

Crisialu ac adrodd y stori am ein heffaith

Mae ein strategaeth wedi'i chynllunio i gael ei chyflawni ar y cyd â'n partneriaid. Byddwn yn gwybod bod hyn yn wir os yw:

  • partneriaid yn deall eu cyfraniad i'r strategaeth ac yn cymryd perchnogaeth ar y cyd dros gyflawni'r weledigaeth gyffredin
  • partneriaethau newydd a phartneriaethau gwell yn deillio o'r strategaeth drwy rannu gwybodaeth, dysgu ac adnoddau
  • pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn cael mynediad at y cymorth sydd ar gael drwy bartneriaid.

Byddwn yn gwybod bod y strategaeth wedi bod yn llwyddiannus, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol os oes:

  • mwy o gyfleoedd i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal i rannu, myfyrio a dysgu gyda'i gilydd
  • mentrau arloesol yn cael eu rhannu a phocedi o arferion addawol yn lledaenu ac yn tyfu
  • gan bobl sy'n gweithio mewn ac yn arwain gofal cymdeithasol yr hyder a'r sgiliau i:
    • ddefnyddio tystiolaeth wrth ymarfer a gwneud penderfyniadau
    • arwain a chyfrannu at welliannau ac arloesedd mewn arferion bob dydd, datblygu gwasanaethau a newid trawsnewidiol
    • werthuso eu cyfraniad a dangos y gwahaniaeth y mae eu gwaith wedi'i wneud
    • arwain diwylliannau sy'n ei gwneud yn bosib cymryd risgiau positif, ystyriol.
  • gan bobl ym maes gofal cymdeithasol y sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer eu gwaith
  • gennym ni brosesau hygyrch ac effeithiol i gefnogi arloesi digidol
  • gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wybodaeth am le i gael gafael ar dystiolaeth ymchwil
  • camau i adnabod a mynd i’r afael â’r bylchau mewn data ac ymchwil
  • camau i gasglu a rhannu tystiolaeth o werthusiad
  • gwell argaeledd a defnydd o ddata gofal cymdeithasol.

Mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth well o effaith ein gwaith. Mae angen i ni hefyd ddysgu’n barhaus ac addasu beth rydyn ni’n ei wneud i wneud y gorau o’r effaith positif gallwn ni ei chael ar bobl sy'n darparu gofal a chymorth.

Byddwn ni’n defnyddio dull sy’n cael ei alw’n ddadansoddiad o gyfraniad i grisialu ein heffaith ac adrodd stori’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni gyda'n gilydd drwy'r strategaeth hon. Mae hynny'n golygu edrych ar sut mae'r hyn rydyn ni wedi'i wneud yn cyfrannu at ein nod.

Byddwn ni’n gwerthuso ein heffaith wrth fynd ymlaen a byddwn yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r hyn sy'n gweithio a’r hyn nad yw'n gweithio. Byddwn ni’n hyblyg, gan ddefnyddio'r hyn rydyn ni’n ei ddysgu i addasu ein ffordd o weithredu lle bo angen.

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Hydref 2023
Diweddariad olaf: 17 Mai 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (86.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch