Trosolowg o’n gweithgareddau bydd yn cyfrannu at gyflawni Ymlaen.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisoes wedi ymrwymo i wneud gwaith a fydd yn cyfrannu at y broses o gyflawni Ymlaen.
Mae'r camau hyn wedi'u rhestri yn ein cynllun busnes drafft ar gyfer 2023 i 2024.
Yma, rydyn ni wedi grwpio rhai o’r gweithgareddau hynny ochr yn ochr â’r pum prif thema sydd wedi’u cynnwys yn Ymlaen - y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol.
Pennu cyfeiriad
- Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu strategaeth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella.
- Rheoli a gweinyddu grant rhaglen datblygu gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) a’r grant hwyluso rhanbarthol.
- Gweithio gyda a chefnogi phartneriaid ar yr agenda dileu elw ym maes gwasanaethau preswyl i blant fel rhan o’r agenda i drawsnewid gwasanaethau plant.
- Cyflwyno prosiect i archwilio aeddfedrwydd data awdurdodau lleol a'u parodrwydd i gysylltu â'r Adnodd Data Cenedlaethol.
- Datblygu a hyrwyddo ein harlwy arloesi.
Cysylltu
- Gweithio gyda phobl ar draws y sector i gyflwyno seremoni Y Gwobrau, sy’n cydnabod llwyddiannau pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
- Cydlynu a chyflwyno'r fframwaith datblygu arweinyddiaeth cenedlaethol.
- Cefnogi pobl gyda mewnwelediad i’r gweithlu drwy gyfuno ein data ar y gweithlu a'n ymchwil, a chynnal digwyddiadau rheolaidd i rannu ein canfyddiadau.
- Datblygu cymunedau, ar-lein ac all-lein, sy'n rhoi cyfle i bobl gysylltu, dysgu a chydweithio ar heriau cyffredin.
- Trosi ymchwil a data i fformatau sy'n addas i'n cynulleidfaoedd.
- Gweithredu fel llysgennad ar gyfer ADR Cymru, Banc Data SAIL a chysylltiadau data â rhanddeiliaid a chefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau ymchwil data cysylltiedig.
Galluogi
- Gweithredu camau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
- Gweithio gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu diwylliannau gweithle dwyieithog positif, a gweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu cyrsiau Cymraeg sy’n benodol i ofal cymdeithasol.
- Lansio gwelliannau i’r fersiwn newydd o Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.
- Cynllunio proses ymgysylltu ystyriol gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ddefnyddio data ym maes iechyd a gofal.
- Datblygu cynnwys ar-lein newydd i gefnogi arloesedd, gwella a gweithgarwch cysylltiedig.
- Datblygu digwyddiadau ac adnoddau dysgu i wella sgiliau’r gweithlu mewn perthynas â darparu modelau therapiwtig ym maes gofal preswyl i blant.
Cefnogi
- Cyflwyno mentrau newydd i gefnogi llesiant y gweithlu fel rhan o’r broses o hyrwyddo ac adolygu ein fframwaith iechyd a llesiant.
- Cynnig cymorth i gyflogwyr a darparwyr dysgu o ran gweithrediad parhaus y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol.
- Hyrwyddo dealltwriaeth a mabwysiadu arweinyddiaeth dosturiol.
- Gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu safle ar y cyd sy’n cefnogi rheolwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn eu dewisiadau datblygu proffesiynol.
- Mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, datblygu a chyhoeddi casgliad o ddogfennau hyfforddi ategol i'w defnyddio ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cefnogi a gweithio gyda thimau, darparwyr a rheolwyr gwaith cymdeithasol i ymwreiddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau neu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Cefnogi’r broses o weithredu porth llywodraethu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol.
- Datblygu sgiliau a galluoedd arloesi drwy roi cefnogaeth anogaeth a gwerthuso i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
- Cefnogi cymunedau drwy’r prosiect Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar.
Amharu
- Parhau i ddylanwadu ar grwpiau o randdeiliaid cenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, awdurdodau lleol, byrddau partneriaeth rhanbarthol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y trydydd sector ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Lansio cymuned gweithredu i gefnogi Unigolion Cyfrifol awdurdodau lleol a rheolwyr gwasanaethau i herio a chytuno ar ddatblygiad ymarfer, mewn perthynas â thrawsnewid yr agenda gwasanaethau plant.
- Parhau i weithredu ein cynnig tystiolaeth gyda Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ac archwilio ffyrdd o weithio.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ymlaen@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r prosiectau a restrir.
Byddwn ni hefyd wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych yn teimlo y gallai gwaith eich sefydliad ein helpu i gyflawni'r strategaeth.
Cyhoeddwyd gyntaf: 6 Hydref 2023
Diweddariad olaf: 21 Mai 2024
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch