Mae iaith yn llawer mwy na dull ar gyfer cyfathrebu. Pan fydd rhywun yn siarad yn ei iaith ei hun, mae'n haws iddyn nhw fynegi eu teimladau a disgrifio eu hemosiynau. Yn yr adran hon rydym yn clywed gan ymarferwyr sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant, a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.
Yn y clip hwn rydym yn clywed gan weithwyr allweddol a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn Antur Waunfawr, sy'n sôn am pam mae siarad Cymraeg yn bwysig iddyn nhw, a pha wahaniaeth mae hyn yn ei wneud.
-
1
00:00:09,503 --> 00:00:11,271
Doeddwn i erioed wedi gwneud gwaith gofal
2
00:00:11,271 --> 00:00:13,505
cyn dod i Antur a wnai byth sbio yn ôl.
3
00:00:13,505 --> 00:00:15,272
Dwi'n rili enjoio be' dwi'n gwneud dyddiau yma.
4
00:00:15,272 --> 00:00:17,573
Ydy'r Gymraeg yn bwysig yn dy rôl di?
5
00:00:17,573 --> 00:00:20,575
Yndi, mae'n bwysig i ni fel staff a hefyd i'r unigolion,
6
00:00:20,575 --> 00:00:26,477
achos mae'n haws iddyn nhw siarad efo ni yn eu hiaith cyntaf nhw,
7
00:00:26,477 --> 00:00:29,078
ac mae'n iaith cyntaf i ni hefyd. Pan dwi'n siarad Saesneg,
8
00:00:29,078 --> 00:00:32,079
dwi methu cael y geiriau allan. Dipyn bach o 'Wenglish',
9
00:00:32,079 --> 00:00:35,914
nai gyfaddef, ond dydy siarad Saesneg ddim yn dod yn hawdd.
10
00:00:35,914 --> 00:00:39,716
Mae'r Gymraeg yn hollbwysig yn fy rôl i, yn bob rhan ohono.
11
00:00:39,716 --> 00:00:46,052
O ran cyfathrebu efo yr unigolion, staff, y gwaith dwi'n rhoi allan yn allanol hefyd.
12
00:00:46,052 --> 00:00:50,687
Bob dim 'da ni'n ei greu, mae'n iaith Gymraeg gyntaf a wedyn
13
00:00:50,687 --> 00:00:52,321
yn Saesneg.
14
00:00:55,722 --> 00:00:57,923
Dwi yma dydd Mercher a dydd Iau
15
00:00:57,923 --> 00:01:00,391
a dwi'n Cibyn dydd Llun a dydd Mawrth.
16
00:01:00,391 --> 00:01:02,892
Dwi'n licio, dim yn y tywydd oer,
17
00:01:02,892 --> 00:01:06,527
ond mae'r haul yn gwneud o'n rhy boeth so dwi'n licio bod allan.
18
00:01:06,694 --> 00:01:09,428
Dyma pam dwi'n licio Tracey gymaint ydy
19
00:01:09,428 --> 00:01:13,063
achos mae hi'r step-mum gorau i fi yn y caffi.
20
00:01:13,330 --> 00:01:16,364
Bwyd da! Bob tro mai'n gwneud bwyd da i fi
21
00:01:16,364 --> 00:01:19,365
dwi'n dweud wrthi ‘ti'n edrych ar 100 allan o 100 am y bwyd!’
22
00:01:25,301 --> 00:01:26,201
Llyr dwi.
23
00:01:26,201 --> 00:01:27,035
A lle ti'n byw, Llyr?
24
00:01:27,035 --> 00:01:28,302
Llanllyfni.
25
00:01:28,302 --> 00:01:29,836
Wyt ti'n gallu siarad Saesneg?
26
00:01:29,836 --> 00:01:34,838
Nacdw. Dwi ddim yn gallu siarad Saesneg, nacdw, achos dim ond Cymraeg.
27
00:01:34,838 --> 00:01:36,439
Wyt ti'n licio siarad Cymraeg?
28
00:01:36,439 --> 00:01:37,273
Yndw tad.
29
00:01:37,273 --> 00:01:38,507
Ydy o'n bwysig i chdi?
30
00:01:38,507 --> 00:01:41,208
Yndi. Dwi'n licio siarad Cymraeg bob tro.
31
00:01:45,776 --> 00:01:51,178
Rhywbeth arall mewn Cymraeg ydy, dwi'n mynd, 'Dyma fi'.
32
00:01:53,146 --> 00:01:57,914
'Paid a bod ofn agor dy galon. Paid a bod ofn'.
33
00:01:59,015 --> 00:02:01,616
A wedyn, dwi'n mynd trwy hwna.
34
00:02:02,216 --> 00:02:04,250
Michael Bublé, 'feeling good'.
35
00:02:04,417 --> 00:02:07,418
'I am feeling good!'
Alison Roberts
Mae Alison yn wreiddiol o'r Alban Mae hi'n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hi'n byw ar Ynys Môn gyda'i gwr, Siôn a saith o blant.
Yn 2023, enillodd Alison wobr Dysgwr y flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma ei stori am pam fe wnaeth hi ddysgu Cymraeg a pam ei bod hi'n meddwl ei fod yn bwysig i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal allu cyfathrebu yn y Gymraeg.
-
1
00:00:07,200 --> 00:00:10,560
Dwi'n dod o'r Alban, a mae'r
iaith Gaeleg bron â marw.
2
00:00:10,560 --> 00:00:11,920
Yn y pentre' o lle dwi'n dod,
3
00:00:11,920 --> 00:00:16,680
does 'na neb yn siarad yr iaith
Gaeleg, a pan
4
00:00:16,680 --> 00:00:19,480
dwi wedi symud i Gymru, i Sir Fôn,
5
00:00:19,480 --> 00:00:22,960
dwi ddim yn gwybod bod na iaith
Cymraeg. Felly nes i
6
00:00:22,960 --> 00:00:28,680
benderfynu bod hi'n bwysig i mi
ddysgu'r iaith a chadw'r iaith i
7
00:00:28,680 --> 00:00:33,840
fynd yn gryf, a dwi ddim isho iddi farw fel mae'r
iaith yn yr Alban.
8
00:00:34,520 --> 00:00:36,240
Dim ond ar yr ynysoedd rili
9
00:00:36,240 --> 00:00:38,680
ti'n clywed Gaeleg.
10
00:00:38,680 --> 00:00:40,520
So dwi jest wedi penderfynu, iawn
11
00:00:40,520 --> 00:00:45,400
dwi'n byw yng Nghymru, mae 'na iaith, a
hon ydy'r iaith
12
00:00:45,400 --> 00:00:46,800
dwi eisiau dysgu.
13
00:00:48,320 --> 00:00:52,520
Dwi wedi cyfarfod Siôn, fy ngŵr
a'i iath gyntaf oedd Cymraeg
14
00:00:52,520 --> 00:00:55,240
a dwi wedi gweld ei
bod hi'n anodd iddo siarad
15
00:00:55,320 --> 00:00:56,400
Saesneg efo fi.
16
00:00:56,960 --> 00:01:02,760
So dwi wedi penderfynu, dwi'n mynd i ddysgu
Cymraeg. A 'dan ni wedi gwneud bach
17
00:01:02,760 --> 00:01:05,440
o hwyl allan o'r peth achos dwi
byth wedi cael gwers Cymraeg.
18
00:01:05,440 --> 00:01:09,000
Da ni jest wedi rhoi sticky
notes o gwmpas y tŷ efo pethau
19
00:01:09,000 --> 00:01:11,800
dwi'n defnyddio bob dydd.
20
00:01:11,800 --> 00:01:15,920
Dwi wedi dysgu'r wyddor, sut ti'n
dweud y llythrennau.
21
00:01:15,920 --> 00:01:21,440
Gwylio S4C, trio defnyddio'r
subtitles efo S4C.
22
00:01:22,240 --> 00:01:24,880
A jest siarad efo pobl,
jest i drio cael bach o hyder
23
00:01:24,880 --> 00:01:26,960
i gael sgwrs efo nhw.
24
00:01:27,720 --> 00:01:31,800
Dwi wedi mwynhau dysgu'r
iaith a dwi dal yn dysgu rŵan.
25
00:01:34,440 --> 00:01:38,040
Dwi wedi magu saith o blant
yn Gymraeg.
26
00:01:38,040 --> 00:01:40,880
Mae teulu ni i gyd yn Gymraeg.
27
00:01:40,880 --> 00:01:45,560
Dwi jest yn gweld ei bod hi'n bwysig
iawn, mae'n iaith y wlad ac mae' n
28
00:01:45,560 --> 00:01:48,880
bwysig i drïo cadw yr
iaith i fynd ymlaen.
29
00:01:49,120 --> 00:01:51,560
Dwi'n gweld pan dwi'n mynd
mewn i'r gwaith yn y bore,
30
00:01:51,560 --> 00:01:55,720
dwi'n medru eistedd lawr efo pobl
lle mae iaith gyntaf nhw yn Gymraeg
31
00:01:55,720 --> 00:01:58,080
ac maen nhw'n agor mwy i chdi.
32
00:01:58,080 --> 00:02:00,280
Maen nhw'n ymlacio mwy efo chdi.
33
00:02:00,280 --> 00:02:04,680
Maen nhw'n medru cael mwy o sgwrs
bersonol efo chdi achos dydyn nhw
34
00:02:04,680 --> 00:02:09,280
ddim yn poeni am sut maen nhw'n
medru troi eu Cymraeg i Saesneg
35
00:02:09,400 --> 00:02:11,400
a dwi'n gweld hyn yn bwysig iawn.
36
00:02:11,400 --> 00:02:16,080
Mae'n bwysig os ti'n mynd mewn i tŷ
rhywun ac mae iaith nhw'n Gymraeg,
37
00:02:16,080 --> 00:02:20,520
pam mae rhywun yn gorfod mynd
mewn i tŷ nhw
38
00:02:20,520 --> 00:02:23,560
a wedyn maen nhw'n gorfod
newid eu hiaith nhw i Saesneg?
39
00:02:23,680 --> 00:02:28,080
Dwi'n cael ymateb positif ac maen
nhw wrth eu bodd achos dwi wedi
40
00:02:28,080 --> 00:02:32,520
dysgu Cymraeg a mae o'n beth mawr
iddyn nhw, ti jest yn gweld llygaid
41
00:02:32,520 --> 00:02:35,360
nhw yn agor mwy, a "be, rili?"
42
00:02:35,360 --> 00:02:38,400
Mae pobl jest yn falch ac yn
hapus.
43
00:02:41,400 --> 00:02:43,280
Dwi'n gwneud shifft yn Betsi
44
00:02:43,280 --> 00:02:49,520
Cadwaladr a dwi'n cofio bod 'na ddyn
i fod wedi mynd adra y diwrnod yna,
45
00:02:49,520 --> 00:02:52,760
a wedyn maen nhw wedi cael problem
efo transportation neu rhywbeth
46
00:02:52,760 --> 00:02:54,080
ac mae 'na nyrs Saesneg
47
00:02:54,080 --> 00:02:57,400
wedi mynd mewn i ddeud wrtho,
"Ti ddim yn mynd adra heddiw."
48
00:02:57,400 --> 00:03:02,560
Dyn Cymraeg oedd o, a dydy
o ddim yn dallt yn iawn pam,
49
00:03:04,560 --> 00:03:08,480
pam dydy o ddim yn medru
mynd adra. Ac wedyn mae o wedi mynd
50
00:03:08,480 --> 00:03:10,880
yn wallgo yn ei ystafell.
51
00:03:10,880 --> 00:03:16,240
Wedyn maen nhw wedi gofyn i fi fynd
mewn i egluro iddo pam dydy o ddim,
52
00:03:16,240 --> 00:03:20,480
a wedyn mae o wedi dechrau setlo
lawr a dallt pam.
53
00:03:20,480 --> 00:03:24,040
A jest meddwl, os maen
nhw wedi rhoi rhywun sy'n
54
00:03:24,040 --> 00:03:26,320
siarad ei iaith gyntaf fo a
55
00:03:26,320 --> 00:03:30,120
dweud wrtho pam, jest esbonio iddo'n iawn,
56
00:03:30,120 --> 00:03:35,000
mae'r sefyllfa'n hollol wahanol
dwi'n meddwl.
57
00:03:37,120 --> 00:03:39,920
Dim ots os wyt ti'n gwneud camgymeriad.
58
00:03:39,920 --> 00:03:43,360
Dwi'n meddwl jest mynd amdani.
59
00:03:43,360 --> 00:03:45,000
Fel dwi'n dweud i bobl,
60
00:03:45,000 --> 00:03:48,600
dwi dal yn cael problemau efo
treiglio a pethau fel yna, dwi
61
00:03:48,600 --> 00:03:50,000
dal ddim yn cael pen fi rownd.
62
00:03:50,000 --> 00:03:50,600
Ond dim ots.
63
00:03:50,600 --> 00:03:53,560
Dwi dal yn medru cael
sgwrs efo pobl bob dydd.
64
00:03:54,840 --> 00:03:58,520
Dwi'n licio gweld fy hun
yn mynd yn ôl i'r gymuned
65
00:03:58,600 --> 00:04:00,720
achos mae'n bwysig iawn i fi
66
00:04:00,720 --> 00:04:04,360
i drio cael mwy o bobl yn iechyd
a gofal
67
00:04:04,360 --> 00:04:06,360
i siarad Cymraeg.
68
00:04:06,360 --> 00:04:09,160
Felly mae'n bwysig i fi
fod yn ysbrydoli
69
00:04:09,160 --> 00:04:13,480
pobl a trio cael mwy o
bobl i weld
70
00:04:13,480 --> 00:04:15,480
sut dwi wedi dysgu Cymraeg,
71
00:04:15,480 --> 00:04:19,280
a cael mwy o bobl i fod fel fi
72
00:04:19,280 --> 00:04:23,520
a dallt bod y pobl maen nhw'n edrych ar ôl,
73
00:04:23,520 --> 00:04:29,400
eu hiaith cyntaf nhw ydy Cymraeg, a
parchu hynny.
74
00:04:29,400 --> 00:04:35,080
Dwi jest yn licio cael mwy o bobl
yn siarad Cymraeg.
Stori Keneuoe
Dyma Keneuoe yn siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn ei swydd hi.
-
1
00:00:08,433 --> 00:00:10,077
Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn
2
00:00:10,077 --> 00:00:11,729
darparu gwasanaeth gofal
3
00:00:11,729 --> 00:00:13,760
drwy gyfrwng y Gymraeg
4
00:00:13,760 --> 00:00:16,350
os yw pobl yn dewis gwneud hynny.
5
00:00:16,350 --> 00:00:19,930
Mae lle rydyn ni'n byw a gweithio
6
00:00:19,930 --> 00:00:20,930
yng Ngwynedd
7
00:00:20,930 --> 00:00:23,494
yn lle Cymreig iawn
8
00:00:23,494 --> 00:00:25,700
lle mae'r rhan fwyaf o bobl
9
00:00:25,700 --> 00:00:28,304
rydyn ni'n edrych ar eu hôl a gofalu amdanynt
10
00:00:28,304 --> 00:00:32,000
wedi byw eu bywydau nhw
11
00:00:32,000 --> 00:00:33,639
drwy gyfrwng y Gymraeg
12
00:00:33,639 --> 00:00:35,315
ers blynyddoedd.
13
00:00:36,050 --> 00:00:38,588
Dyma sy'n naturiol iddyn nhw.
14
00:00:38,588 --> 00:00:44,921
Felly dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn
15
00:00:44,921 --> 00:00:46,476
gallu helpu nhw
16
00:00:46,476 --> 00:00:48,309
i gario ymlaen efo'u bywydau
17
00:00:48,309 --> 00:00:49,760
fel maen nhw'n gwybod
18
00:00:49,760 --> 00:00:50,955
a'r ffordd maen nhw'n gyfarwydd â hi.
19
00:00:51,163 --> 00:00:53,828
Fe ddaeth Keneuoe drosodd i fyw yn y Bala
20
00:00:53,828 --> 00:00:55,418
yn ôl yn 1997
21
00:00:55,418 --> 00:00:58,430
a hithau'n gwbl ddi-gymraeg.
22
00:00:58,430 --> 00:01:00,070
Yn ei swydd bresennol
23
00:01:00,070 --> 00:01:02,059
mae hi'n ysbrydoliaeth
24
00:01:02,059 --> 00:01:04,520
ac mae wedi parhau i ddatblygu
25
00:01:04,520 --> 00:01:08,267
a chadw i ddefnyddio a hyrwyddo'r iaith.
26
00:01:09,065 --> 00:01:10,979
Dim ond pum mlynedd yn ôl
27
00:01:10,979 --> 00:01:13,493
ymunodd Keneuoe â'r maes gofal
28
00:01:13,493 --> 00:01:14,562
ac yn ei geiriau ei hun
29
00:01:14,562 --> 00:01:15,909
mae'n difaru ei bod heb ddod
30
00:01:15,909 --> 00:01:17,603
llawer iawn yn gynt.
31
00:01:18,262 --> 00:01:19,921
Maen nhw'n gwybod y galla i siarad Cymraeg
32
00:01:19,921 --> 00:01:22,748
ac maen nhw wedi setlo i lawr yn dda
33
00:01:22,748 --> 00:01:24,439
achos fy mod i'n rhoi amser iddyn nhw,
34
00:01:24,439 --> 00:01:26,679
eistedd lawr i siarad efo nhw
35
00:01:26,679 --> 00:01:34,820
ac mae hyn wedi eu galluogi i fynegi
36
00:01:34,820 --> 00:01:37,197
unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw
37
00:01:37,197 --> 00:01:41,229
neu dim ond rhannu hanes
38
00:01:41,229 --> 00:01:45,029
a chael sgwrs fwy manwl efo nhw
39
00:01:45,029 --> 00:01:47,429
trwy'u hiaith nhw,
40
00:01:47,429 --> 00:01:49,289
trwy'r iaith maen nhw wedi dewis.
41
00:01:49,289 --> 00:01:52,498
Felly mae hynny'n bwysig yn fy marn i.
42
00:01:52,498 --> 00:01:54,370
Dwi'n falch fy mod i'n
43
00:01:54,370 --> 00:01:55,240
gwneud gwahaniaeth.
Straeon Morfydd a Will
Mae Morfydd a Will yn siarad am pa mor bwysig ydy hi iddyn nhw gallu siarad Cymraeg yn eu cartref gofal.
-
0:04
Fues i fyw yng Ngharmel am dros 50 years a wedyn yn Cilgwyn oedd fy nechra i.
0:12
Da iawn, a da chi'n Plas Gwilym rŵan.
0:15
Yndw dwi'n Plas Gwilym rŵan.
0:16
Ac mi o'n i adra yn Cilgwyn a dwi adra yn fama hefyd cofiwch.
0:21
Yndw.
0:22
Siarad Cymraeg ydych chi erioed?
0:23
Cymraeg, ia.
0:25
Ddweda i wrthych chi, South Walian oedd mam a fy nhad o Benygroes 'ma.
0:30
Es i i'r ysgol yn bedair oed a mi ges i slap ar fy llaw am siarad Cymraeg.
0:40
A siarad Cymraeg mam o'n i,
0:43
"tefe", "dan staer" am 'dan y grisiau' ond doeddwn i'm yn gwybod bo fi'n rong.
0:52
Ac mi es i adra a dweud a dyma fy nhad yn dweud, "Ar lle ges di slap?"
0:57
"Ar fy llaw yn fama."
1:00
A dyma fo'n gwylltio.
1:01
Dyma fo'n troi atom ni, oeddem ni'n bedwar o blant, a mam yna.
1:06
"Does 'na ddim gair o Gymraeg yn y tŷ yma o hyn allan."
1:12
"Da chi'n siarad Saesneg i gyd."
1:16
Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd o'n ei feddwl a dweud y gwir, yn bedair oed.
1:19
Doeddwn i ddim i fod mae'n siŵr nag oeddwn.
1:22
A dyma fo'n dweud "Allan efo'r plant mi gewch chi siarad Cymraeg fel 'da chi'n medru ac fel
1:28
"ydych chi eisiau, ond mae'n rhaid i Morfydd gael dysgu Cymraeg iawn."
1:34
"Dydi hi ddim yn cael slap eto."
1:37
Ac mi wnes i chwarae efo'r plant ac mi godais i o ar fy union.
1:41
Ac ydych chi'n siarad Cymraeg efo pawb bob dydd yn fama?
1:44
Yndw, yndw.
1:46
Cofiwch, os oes 'na rhywun Saesneg yna ac eisiau i mi ateb, mi ydw i'n gwneud ond
1:53
mi fysa'n well gen i o'n Gymraeg.
1:56
Mi fyswn i yn siarad Saesneg, dwi'n medru, achos mi drodd Mam i Saesneg adeg hynny o
2:04
iaith y 'south'.
2:06
Wedyn mae Saesneg ar dop y list yn y ffordd dwi'n medru, ond mae Cymraeg yn ei guro.
2:14
Ond dwi ddim yn gwybod, os fyswn i'n fama a bob man yn Saesneg, dwi ddim yn meddwl byswn i'n
2:22
gallu aros yn hir.
2:24
Na.
2:25
fysa'n dda i ddim byd i mi.
2:28
Ydych chi'n gwybod pan ydych chi'n mynd i weld Dr Britto rŵan a'ch bod chi'n gwybod
2:31
bod chi am orfod siarad Saesneg efo fo.
2:33
Sut ydych chi'n teimlo am hynny?
2:37
Wel, mae gen i ryddid yn does.
2:42
Mi fedrai i ddweud yn Saesneg wrtho, "I'm sorry, I can't speak English, only that."
2:50
Ac mi fysa fo yn nôl un o'r genod i siarad efo fi ac iddi hi ddweud wrtho be o'n i'n
2:56
ei ddweud.
2:58
Ond dydw i ddim angen hynny, mi fedrai siarad Saesneg dros fy hun.
3:04
Ond, dwi ddim yn gwybod, dydy o ddim yn gartrefol.
3:11
I ni'r Cymry, tydi o ddim.
3:14
Ydych chi'n teimlo'n fwy hyderus yn Gymraeg?
3:17
Wel, yndw.
3:19
Y peth ydy, pan da chi'n Gymraeg da chi'n teimlo, yn enwedig yn ganol Cymru,
3:25
"O, dwi adra."
3:28
"Mae gen i'r hawl i siarad fel fynnai".
3:31
Da chi'n gweld, mae o'n dod yn ei ôl i mi be wnaeth y teacher yna, rhoi slap i mi am
3:37
mod i heb siarad yn iawn.
3:40
Mewn ffordd dwi wedi bod yn ofalus erioed sut ydw i'n siarad.
3:46
Mae'n rhaid i'r geiriau fod yn iawn.
3:54
Ydych chi'n siarad Cymraeg yn fama bob dydd, Will?
3:56
Bob dydd, dim byd arall ond Cymraeg.
3:59
Sut ydych chi'n teimlo am y Gymraeg, Will?
4:03
Wel, dyna'r iaith ges i fy ngeni efo.
4:05
Fy mam a nhad, taid a nain.
4:11
Cymraeg ydw i yn bob dim.
4:15
Well gen i siarad Cymraeg na Saesneg.
4:17
Ydych chi'n meddwl bysa fo'n gwneud gwahaniaeth, Will, i'r ffordd ydych chi'n byw a'ch gofal
4:22
chi os fysech chi ddim yn gallu siarad Cymraeg bob dydd efo pobl?
4:27
Bysa, mae'n siŵr.
4:30
Fyswn i ddim yn teimlo'n hapus.
4:34
Dwi'n hapus yn fama, Cymraeg ydy pawb yma.
4:37
Pawb, staff a residents.
4:43
Mae'n gwneud lot o wahaniaeth.
4:46
Lot fawr.
4:47
Ym mha ffordd?
4:49
Wel, dyna ydy fy iaith i - Cymraeg.
4:51
Dwi'n mynd i language arall pan dwi'n siarad Saesneg.
4:56
A dydw i ddim yn gwybod sut i roi pethau drosodd o Gymraeg i Saesneg yn aml.
5:01
Reit.
5:02
Ydych chi'n gwybod be' dwi'n feddwl?
5:04
Ia.
5:06
Os ydw i eisiau dweud rhywbeth yn Gymraeg mi fedrai ei ddweud o, ond os ydw i eisiau
5:08
dweud o mewn Saesneg yr un peth, dwi'n gorfod meddwl.
5:12
Ydych chi dal yn medru siarad Saesneg?
5:15
Yndw tad.
5:16
Dim Saesneg da, ond mi fedrai gomiwnicatio.
5:23
Ydych chi'n gwybod pan wnaethoch chi ddewis dod i fyw i Blas Gwilym, oedd o'n bwysig i
5:27
chi fod o'n gartref Cymraeg?
5:30
Oedd tad, pwysig iawn.
Stori Mari: Mwy na geiriau - More than just words
Ar ôl colli ei thad, Mari Emlyn sy'n siarad yn onest am eu profiad gofal. Mae'r ffilm wedi ei gynhyrchu gan Theatr Bara Caws i Llywodraeth Cymru.
-
0:01
Pan gaeth Dad diagnosis o Multiple Systems Atrophy nôl yn 2011,
0:07
mi gaethon byd ni wir ei droi wyneb i waered.
0:10
Mi ro’n ni’n gwybod i ni fynd i golli o, a byd na nhw’n neb yn gallu gwneud.
0:15
Roedd celloedd yr ymennydd sy’n rheoli ei system nerfol yn marw ac yn cau i lawr.
0:20
Oedd yn gyflwr prin iawn, ac yn un erchyll o greulon.
0:25
Wedi i wneud ymchwil i’r cyflwr, oeddem ni’n gwybod i ryw raddau be’i ddisgwyl ar hyd taith.
0:31
Mae’r cerdded yn dod yn anodd.
0:32
Felly roedd rhaid cerdded efo ffon, yna efo ffrâm,
0:36
ac yn y diwedd doedd ei modd i symud o gwbl heb gael cymorth hoist ac yn y blaen.
0:40
Mi roedd e’n gaeth yn ei gorff ei hun, heb allu gwneud dim drosto fo ei hun.
0:45
Yn fuan iawn yn y gwaeledd ni oedd cyfathrebu’n anodd.
0:49
Roedd y cyflwr yn wneud yn amhosib iddo siarad.
0:52
Roedd e’n cymryd ei holl egni i siarad efo ni, ac er bod ni’n barod am hynny,
0:57
roedd e’n hefyd yn erchyll o anodd i weld ond brwydrau cyfathrebu efo ni.
1:01
Un peth wnaethon ni erioed o ystyried ydy bydden ni’n cael anhawsterau ieithyddol.
1:07
Pan ddych chi’n siarad yn eich mamiaith dych chi’n meddwl yn yr un iaith,
1:12
ond mynd yn dechrau’n siarad efo rhywun sy ddim yn medru’r iaith
1:16
yna dych chi’n meddwl yn Gymraeg yn eich pen ac yn cyfieithu ar y pryd i Saesneg yn eich pen cyn ymateb,
1:23
mae’r proses hon yn anodd i berson sy’n holliach heb sôn am rywun sy’n mewn gwaeledd.
1:28
Pan bod y doctoriaid, nyrsys a gofalwyr Saesneg yn dod i weld a thrin Dad
1:33
o’n i’n gallu gweld yn syth roedd hi’n cymryd gymaint dwywaith o egni o,
1:37
a fo yn aml iawn yn torri i lawr a chrio, ac mi o’n teimlo’n mor rhwystredig.
1:43
A hwn yn peri gymaint o loes sy’n ei weld teulu’n gwybod fod hynny jyst yn ychwanegu lot mawr o boen iddo fo,
1:50
a ni mewn cyfnod eisoes mor erchyll ohono.
1:55
Er ein bod ni’n sylweddoli nad oes modd i fod meddyg, nyrs a gofalwr fedru siarad Cymraeg,
2:02
oedd ymateb ambell un i rwystredigaeth Dad a ninnau fel teulu’n cwbl yn annerbyniol.
2:09
Fe faswn nhw’n ystyried na chydnabod pa mor anodd oedd hyn.
2:15
Roedd hynny yn creu di hon hynod o drist.
2:18
Cwbl gefynnu yn ei wneud wrth geisio ei dyddiau, wythnosau, misoedd ôl ei fywyd e mor hawdd â phosib
2:27
ac oedd gweld yn torri calon oherwydd nad oedd yn gallu cyfathrebu’n hawdd, ond yn fwy na hynny dim ond yn gallu
2:34
gwneud hynny yn yr unig iaith roedd o wedi siarad erioed.
2:38
Pan daeth hi’n amhosib i ni ddallt o gwbl oedd e’n rhaid dod o hyd i beiriant fyddai’n siarad drosto fo.
2:47
Y bwriad oedd mewnbynnu brawddegau ac atebion oedden ni’n meddwl bydda Dad yn ei defnyddio, a’r cwbl byddai’n rhaid i Dad
2:57
wneud oedd pwyso frawddeg a fyddai’r peiriant yn ateb drosto fo.
3:02
Roedd meddwl am hyn yn dorcalonnus, ond o leia’, oedd yn galluogi cyfathrebu efo fo.
3:09
Ond yn fwy buan iawn yn y proses o ddod o hyd i beiriant wnaeth yn amlwg
3:16
nad oedd modd cael un oedd yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
3:19
Oedd hyn yn ergyd mawr i ni. Roedden unrhyw un neb i yn union ond wedi siarad Cymraeg yn yr aelwyd erioed
3:29
i ddechrau cyfathrebu mewn iaith estron.
3:33
Roedd ei wyth o wyrion ar y pryd ddim yn gallu siarad Saesneg.
3:39
Felly roedd yn drist iawn. Oedd y salwch yn dwyn popeth oedd e arno fo yn raddol ac i ni ddwyn o oddi wrthon ni,
3:49
ac yn dwyn ein hiaith ni.
3:52
Beth yn brifo fwy na dim oedd nad y swyddogion oedd yn darparu’r adnodd yn deall be’ oedd y broblem nai malu o chwaith
4:01
ar yr effaith oedd hyn y gael ar Dad, ar Dad a’r gweddill ohonon ni.
4:08
Y fam wedi rhoi ei holl i sicrhau nad oedd Dad wedi cael unrhyw fath o gam i fyny’r pwynt yma,
4:14
ac roedd hi’n benderfynol o wneud siŵr bod modd cael adnodd oedd yn galluogi ni cyfathrebu trwy’r cyfrwng y Gymraeg.
4:23
Fuon ni’n frwydr am fisoedd. Oedd e’n ychwanegu gymaint o loes a blinder mewn cyfnod oedd eisoes mor anodd.
4:34
Llwyddon ni yn y diwedd sicrhau meddalwedd oedd yn Gymraeg,
4:38
ac er bod ni’n hynod falch roeddwn ni’n hefyd yn drist ac yn flin fod yn rhaid i ni gwffio am rywbeth fel fe fod ar gael.
4:48
Mae gannom i gyd yr hawl i siarad y famiaith yn enwedig ar ein gwely angau.
4:56
Dw i ddim yn disgwyl i bob meddyg, nyrs, gofalydd fynd allan a dysgu’r Gymraeg,
5:02
ond efallai mae’r peth pwysica’ ydych fod eich rili’n dallt ac yn ystyried ei fod yn hollbwysig i’r un sydd yn profi gwaeledd
5:12
a’r teulu a’r ffrindiau’n ehangach.
5:15
Allwn i gyfleu faint o wahaniaeth oedd e’n wneud i Dad pan oedd e’n clywed y Gymraeg.
5:22
Mi oeddem ni’n hynod ffodus fod y meddyg y teulu oedd yn dod i weld Dad yn wythnosol,
5:29
ac oedd e’n egluro’r broses diwedd bywyd iddo fo.
5:35
Oedd e wedi dysgu’r iaith ac er nad er yn gwbl rugl,
5:39
oedd e’n gallu cynnal sgwrs ac yn gwneud i dad yn llacio, ac yna fe fod yn troi yn Saesneg i egluro’r proses.
5:47
Allwn i ddim dweud wrthoch chi pa mor amhrisiadwy oedd hyn i Dad ac i ni na.
5:54
Plîs, os dych chi’n fyth yn dod ar draws y sefyllfa yma, byddwch yn sensitif,
6:00
hyd yn oed os dych chi ond yn gallu llwyddo dweud ond bach gair yn y Gymraeg mae o wir, wir yn werthfawr i unigolyn.
6:08
Mae fy Nhad farw 2019 wedi blynyddoedd o frwydro,
6:14
ond dyn ni’n trysori’r ffaith iddo fo wedi cael marw fel y Cymro fe oedd erioed.
I wylio’r fideo gydag isdeitlau Cymraeg, cliciwch ar yr opsiwn ‘Settings’ ar waelod y fideo a dewisiwch ideitlau Cymraeg.
Stori Wyn
Mae Wyn yn esbonio pa mor bwysig ydy hi i ddeall bod rhai pobl yn ei chael hi’n haws i esbonio pethau yn eu mamiaith.