Jump to content
Atal a rheoli heintiau

Mae arfer da sy'n seiliedig ar atal a rheoli heintiau (IP&C) yn hanfodol ar gyfer cynnal amgylchedd diogel i bawb tra'n lleihau'r risg o ledaenu heintiau a chlefydau heintus.


Mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym wedi datblygu Fframwaith Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Atal a Rheoli Heintiau Cymru Gyfan ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.


Mae’r fframwaith yn nodi’r safonau y dylid eu defnyddio i lywio ymarfer yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, a blynyddoedd cynnar a gofal plant.


I gefnogi'r fframwaith, mae set o adnoddau dysgu yn cael eu datblygu.

Modiwlau dysgu digidol

Rydym wedi datblygu set o fodiwlau dysgu digidol i helpu unrhyw un sy’n ymwneud â’r sector gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant i wybod sut i ymddwyn i leihau lledaeniad heintiau.

Mae 3 modiwl ar gael:


Lefel 00: Ymwybyddiaeth ragarweiniol

Beth yw'r modiwl dysgu hwn?

Mae'n rhoi cyflwyniad i atal a rheoli heintiau y gellir ei ddefnyddio i lywio ymddygiad o ddydd i ddydd i leihau lledaeniad heintiau a chlefydau heintus.

Gyda phwy y dylid ei ddefnyddio?

Dyma rai enghreifftiau o’r bobl y gallai’r modiwl fod o gymorth iddynt:

  • Teuluoedd, ffrindiau neu wirfoddolwyr sy'n debygol o ymweld ag unigolion neu blant a phobl ifanc mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant
  • Gofalwyr anffurfiol (pobl sy'n darparu gofal a chymorth i ffrindiau neu berthnasau yn eu cartrefi eu hunain)
  • Pobl sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Lefel 01: Gwybodaeth a chymhwysiad sylfaenol

Beth yw'r modiwl dysgu hwn?

Mae’n darparu cymorth ar gyfer datblygu gwybodaeth am atal a rheoli heintiau, y gellir ei defnyddio mewn rôl â thâl neu rôl ddi-dâl i lywio ymddygiad diogel ei hunain ac eraill er mwyn lleihau lledaeniad heintiau a chlefydau heintus. Mae wedi'i anelu at bobl nad ydynt yn darparu gofal a chymorth uniongyrchol.

Gyda phwy y dylid ei ddefnyddio?

Dyma rai enghreifftiau o’r bobl y gallai’r modiwl fod o gymorth iddynt:

  • Gweithwyr a gwirfoddolwyr mewn gofal cymdeithasol a gofal plant nad ydynt yn gyfrifol am ddarparu gofal a chymorth uniongyrchol, er enghraifft, gweinyddwyr a gweithwyr fel glanhawyr, cogyddion ac ati
  • Gofalwyr anffurfiol
  • Gweithwyr proffesiynol sy'n debygol o ymweld ag unigolion / plant a phobl ifanc mewn lleoliadau gwasanaeth, megis gweithwyr cymdeithasol, aseswyr DOLs, eiriolwyr
  • Myfyrwyr sydd angen cyfleoedd lleoliad ar gyfer cymhwyso fel dysgu cyn-lleoliad
  • Aseswyr cymwysterau
  • Rolau profiad gwaith – gofal anuniongyrchol.

Lefel 02: Gwybodaeth, dealltwriaeth a chymhwysiad cadarn

Beth yw'r modiwl dysgu hwn?

Mae’n darparu cymorth ar gyfer datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am atal a rheoli heintiau, y gellir eu defnyddio mewn rôl waith i lywio ymddygiad diogel eich hunain ac eraill er mwyn lleihau lledaeniad haint. Mae wedi'i anelu at bobl sy'n darparu gofal a chymorth uniongyrchol i unigolion neu blant/pobl ifanc.

Gyda phwy y dylid ei ddefnyddio?

Dyma rai enghreifftiau o’r bobl y gallai’r modiwl fod o gymorth iddynt:

  • Gweithwyr a gwirfoddolwyr mewn gofal cymdeithasol a gofal plant sy'n gyfrifol am ddarparu gofal a chymorth uniongyrchol
  • Gofalwyr anffurfiol
  • Gweithwyr proffesiynol sy'n debygol o ymweld ag unigolion / plant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal a chymorth lle mae angen cyswllt uniongyrchol fel rhan o'u rôl, megis therapyddion galwedigaethol, trinwyr gwallt, podiatryddion, timau dylunio i wenu ac ati.
  • Gweithwyr proffesiynol sy'n debygol o ymweld â gwasanaethau ar gyfer monitro a sicrhau ansawdd, fel arolygwyr, contractwyr/comisiynwyr
  • Myfyrwyr sydd angen cyfleoedd lleoliad ar gyfer eu cymhwyster
  • Aseswyr cymwysterau.

Fideo codi ymwybyddiaeth

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi gwneud fideo byr wedi'i animeiddio sy'n anelu at atgyfnerthu arferion gorau ac ymddygiadau gweithwyr ac ymwelwyr mewn lleoliadau gofal ar draws y sectorau, er mwyn helpu i leihau lledaeniad heintiau a chlefydau heintus.

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Ebrill 2022
Diweddariad olaf: 26 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (40.9 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch