Jump to content
Adroddiad effaith: 2024 i 2025

Ein heffaith: Edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yn 2024 i 2025

Croeso i adroddiad effaith Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2024 i 2025.

Neges gan Sarah a Mick

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y gwahaniaeth cadarnhaol y mae ein gwaith wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf i'r plant a'r oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru, ac i'w teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r gwaith a wnawn yn hanfodol i sicrhau llesiant cenedlaethau presennol a'r dyfodol. Dros y 12 mis diwethaf, rydyn wedi canolbwyntio ar nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys:

  • cynnal a datblygu ein swyddogaethau rheoleiddio
  • gwella llesiant a chydnabyddiaeth y gweithlu
  • cefnogi denu a recriwtio unigolion medrus
  • ymgorffori dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau mewn gofal cymdeithasol ac ymarfer blynyddoedd cynnar.

Rydyn hefyd wedi gwneud defnydd cynyddol o arloesedd, ymchwil a data i lywio'r ffordd y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu darparu, tra'n cynnal safonau uchel o lywodraethu ac atebolrwydd.

Rydyn yn cydnabod ehangder a graddfa'r heriau sy'n wynebu'r sectorau gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Fodd bynnag, trwy weithio gyda sefydliadau, byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau ac yn cofleidio cyfleoedd pellach i wella ansawdd gofal a chymorth i'r rhai sydd ei angen.

Rydyn am orffen drwy ddiolch yn fawr i bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru am eu hymroddiad parhaus, eu gwaith caled a'u proffesiynoldeb.

Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr, a Mick Giannasi, ein Cadeirydd

Ein heffaith: y penawdau

Rydyn ni'n chwarae rhan hanfodol wrth wella'r sector gofal cymdeithasol. Nid ydym yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn uniongyrchol, ond rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r bobl sy'n gwneud hynny. Rydyn ni'n gweithio gydag ymarferwyr, cyflogwyr ac arweinwyr i osod safonau uchel, cefnogi datblygiad proffesiynol a sicrhau bod gan y gweithlu yr hyn sydd ei angen arno i ddiwallu anghenion y rhai y maent yn gofalu amdanynt. Trwy weithio gydag ymarferwyr, cyflogwyr ac arweinwyr, rydyn yn helpu i yrru gwelliannau parhaol ar draws y sector.

Llesiant

Dynes a dyn yn gwenu

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Mae ein harolwg gweithlu gofal cymdeithasol 2024 yn dangos, er bod llesiant y gweithlu yn is na chyfartaledd y DU, mae arwyddion cadarnhaol. Er enghraifft, mae 77 y cant o weithwyr yn dweud wrthym fod eu morâl yn dda a 41 y cant yn dweud eu bod yn teimlo bod ganddynt ddigon o gefnogaeth i reoli straen.

Er mwyn cefnogi'r gweithlu, rydyn ni wedi rhannu adnoddau llesiant, cynnal llawer o ddigwyddiadau dysgu a threfnu mentrau fel Wythnos Llesiant, a gafodd dderbyniad da. Mae'r ymdrechion hyn, ynghyd ag eraill fel Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027, yn anelu at greu gweithlu llawn cymhelliant, ymgysylltiedig a gwerthfawrogi.

Cydnabyddiaeth i'r gweithlu

Rydyn ni'n ymroddedig i sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr. Mae ein harolygon diweddar yn dangos bod barn y cyhoedd am y gweithlu wedi gwella, gyda 32 y cant a 24 y cant yn dweud bod ganddyn nhw farn uwch am weithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr blynyddoedd cynnar yn y drefn honno o'i gymharu â thair blynedd yn ôl. Yn ogystal, mae 80 y cant o'n gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw'n eu cefnogi.

Y Gwobrau 2024

Rydyn ni wedi arwain mentrau, fel ein Gwobrau blynyddol a'r Wobr Gofalu trwy'r Gymraeg, i ddathlu a rhannu arfer da ledled Cymru. Rydyn ni hefyd yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol i ddylanwadu ar ddarpariaeth polisi a gwasanaethau, fel ein gwaith gyda'r Fforwm Gwaith Gofal Cymdeithasol. Mae ein gwasanaeth cymorth i gyflogwyr wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau sy'n darparu adnoddau a chefnogaeth i gyflogwyr, gan ddangos ein hymrwymiad i werthfawrogi a chydnabod y gweithlu.

Denu a recriwtio

Rydyn wedi gwneud camau cadarnhaol wrth ddenu a recriwtio pobl i'r sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Trwy ein hymgyrchoedd Gofalwn Cymru, rydyn ni wedi helpu mwy o bobl i ddod o hyd i waith ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar diolch i'r cynnydd mewn swyddi ac ymweliadau ar wefan Gofalwn Cymru. Mae ein rhaglenni hyfforddi, megis Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol a Chyflwyniad i Flynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, wedi paratoi llawer o bobl yn llwyddiannus ar gyfer gyrfaoedd yn y sectorau.

Cyllido

Yn ogystal, mae ein rhaglen fwrsariaeth wedi cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn ariannol, gan eu helpu i gwblhau eu hastudiaethau. Rydyn ni hefyd wedi darparu cyllid sylweddol i awdurdodau lleol drwy Grant Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi cyfleoedd hyfforddi a datblygu i'r rhai sy'n cael eu cyflogi mewn gofal cymdeithasol. Mae'r mentrau hyn gyda'n gilydd wedi ein helpu i weithio tuag at fynd i'r afael â'r heriau o ddenu, recriwtio a chadw gweithlu medrus a llawn cymhelliant.

Rheoleiddio'r gweithlu

Dwy fenyw yn chwerthin wrth olchi llestri

Rydyn wedi gweithio'n galed, ochr yn ochr â phartneriaid cenedlaethol a lleol, i gynyddu hyder y cyhoedd yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae 73 y cant o'r cyhoedd yn dweud bod ganddyn nhw hyder mewn gweithwyr gofal, ac mae 86 y cant yn dweud eu bod yn gwybod beth yw safon dderbyniol o ofal. Rydyn yn sicrhau bod y gweithlu wedi'i reoleiddio'n dda ac yn addas i ymarfer, gyda mwy na 64,000 o bobl bellach wedi'u cofrestru gyda ni.

Lle nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn bodloni disgwyliadau'r Cod Ymarfer Proffesiynol, mae ein fframwaith addasrwydd i ymarfer yn caniatáu inni gymryd camau fel y gallwn ni amddiffyn y cyhoedd a chynnal uniondeb y proffesiwn. Rydyn hefyd wedi adolygu a diweddaru'r Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr. Fe wnaethon ni hyn trwy ymgysylltu â'r sector i osod safonau clir ac ystyrlon. Mae'r mentrau hyn wedi helpu i adeiladu ymddiriedaeth a sicrwydd yn ansawdd y gofal a ddarperir gan y gweithlu gofal cymdeithasol.

Cefnogi sgiliau'r gweithlu

Rydyn wedi gwneud ymdrechion sylweddol i sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yn gymwys, yn wybodus ac yn fedrus. Rydyn wedi cefnogi datblygu a gweithredu cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus trwy gynnal llawer o sesiynau ymgysylltu a digwyddiadau hyfforddi. Mae mentrau, fel adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru a'r adolygiad o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, wedi cael derbyniad da ac maen nhw'n darparu cefnogaeth gadarnhaol i'r gweithlu.

Rydyn hefyd wedi hyrwyddo a chefnogi prentisiaethau, sydd wedi cyfrannu at gynnydd o 31 y cant mewn ardystiadau prentisiaethau. Yn ogystal, mae ein cyrsiau Cymraeg a'n hadnoddau hyfforddi diogelu wedi gwella sgiliau a gwybodaeth y gweithlu ymhellach. Mae ein cymunedau ymarfer yn darparu dysgu a chefnogaeth werthfawr, gan helpu gweithwyr i rannu syniadau a gwella eu harfer.

Rydyn wedi cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i fabwysiadu dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion a'u cefnogi i gyflawni eu nodau personol a'u llesiant. Rydyn wedi rhedeg rhaglenni datblygu arweinyddiaeth, gan gynnwys sesiynau arweinyddiaeth tosturiol, ac wedi datblygu adnoddau i hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle.

Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau

Mae ein rhaglen ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau wedi darparu hyfforddiant, mentora a chymuned ymarfer i awdurdodau lleol. Rydyn hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid i gefnogi trawsnewid gwasanaethau plant, gan ddarparu hyfforddiant therapiwtig a dylanwadu ar ddylunio gwasanaethau. Mae'r mentrau hyn wedi helpu i greu amgylchedd mwy cefnogol a grymuso i weithwyr a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Defnydd o arloesedd, ymchwil a data

Dyn ar lîniadur

Rydyn wedi gwneud cynnydd nodedig wrth ddefnyddio arloesedd, ymchwil a data o ansawdd uchel i wella ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol. Fe wnaethon ni lansio strategaeth Ymlaen i helpu i greu diwylliant lle mae tystiolaeth a syniadau newydd yn ganolog i ofal cymdeithasol. Mae ein Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol wedi'i wella i ddarparu gwell mewnwelediadau a delweddu data. Fe wnaethom gefnogi'r rhaglen DEEP i helpu staff rheng flaen i ddefnyddio ymchwil yn eu hymarfer a lansio gwefan Insight Collective i rannu cyfleoedd ymchwil a hyfforddiant.

Mae ein hymdrechion i hyrwyddo llythrennedd digidol a gwella aeddfedrwydd data wedi helpu awdurdodau lleol i wneud gwell defnydd o'u data. Mae'r mentrau hyn gyda'i gilydd wedi cyfrannu at sector gofal cymdeithasol mwy gwybodus, effeithlon ac arloesol.

Ein heffeithiolrwydd

Rydyn wedi dangos ein heffeithiolrwydd fel sefydliad gwasanaeth cyhoeddus trwy gadw safonau uchel o lywodraethu a thryloywder. Rydyn wedi derbyn adroddiadau cadarnhaol gan Archwilio Cymru a'n harchwilwyr mewnol, yn ogystal ag adborth cadarnhaol gan ein Gweinidog sy'n noddi a swyddogion Llywodraeth Cymru yn y ffordd rydyn ni'n gweithio. Denodd ein gwefan fwy na 248,000 o ymwelwyr ac roedd ein cylchlythyrau rheolaidd yn cael eu darllen yn eang.

Rydyn ni wedi recriwtio staff newydd yn llwyddiannus, gan gyflawni cyfradd llwyddiant o 95 y cant yn ein recriwtio, ac mae ein cyfradd trosiant staff yn parhau i fod yn isel. Rydyn wedi canolbwyntio ar roi cymorth llesiant ar waith i'n staff ac rydyn wedi cyflawni cyfran sylweddol o'n cynllun dysgu a datblygu, sy'n cefnogi ein hymgysylltiad staff.

Rydyn ni hefyd eisiau parhau i gryfhau sut rydyn ni'n rheoli diogelwch data. Mae ein hardystiad Cyber Essentials Plus a safonau ISO27001 yn ystod y flwyddyn yn dangos ein hymrwymiad i reoli gwybodaeth yn ddiogel ar draws pob maes o'n sefydliad. Mae'r ymdrechion hyn yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, cynaliadwy ac effeithiol.

Fe welwch ragor o wybodaeth am ein cynnydd wrth gyflawni ein canlyniadau yn 2024 i 2025 dros y tudalennau canlynol.