Jump to content
Gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sy'n gymwys iawn, yn wybodus, ac yn fedrus gyda'r gwerthoedd, ymddygiadau ac arferion cywir

Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2024 i 2025

Mae canfyddiad y cyhoedd o sgiliau a phroffesiynoldeb y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar wedi gostwng ychydig dros y blynyddoedd diwethaf. Ond mae ein harolwg gweithlu yn dangos arwyddion cadarnhaol bod y gweithlu yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith.

Yn Arolwg Omnibws Cymru 2025:

  • Mae 65 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn dweud bod gweithwyr gofal preswyl bob amser yn fedrus ac yn broffesiynol yn eu gwaith (2 y cant yn llai nag yn 2023 a 2021)
  • Mae 62 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn dweud bod gweithwyr gofal cartref bob amser yn fedrus ac yn broffesiynol yn eu gwaith (65 y cant yn 2023 a 67 y cant yn 2021)
  • Mae 67% o'r cyhoedd yng Nghymru yn dweud bod gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant bob amser yn fedrus ac yn broffesiynol yn y gwaith maen nhw'n ei wneud (yr un fath â 2023, 69 y cant yn 2021 a 2020).

Yn ein harolwg 2024 o'r gweithlu gofal cymdeithasol:

  • Dywedodd 87 y cant eu bod yn cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda (cynnydd o 8 y cant ers 2023)
  • Dywedodd 47 y cant nad oedd ganddynt unrhyw rwystrau wrth gael mynediad at hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith (dim newid ers 2023)
  • Dywedodd 40 y cant eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg (5 y cant yn llai nag yn 2023).

Mae gennym nifer o fentrau a chefnogaeth ariannol ar gael i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol i fod yn fedrus, yn wybodus ac yn gymwys. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cefnogi datblygu, cyflwyno a gweithredu cymwysterau, Datblygiad Proffesiynol Parhaus a fframweithiau cymwysterau

Fe wnaethom gynnal mwy nag 20 o sesiynau ymgysylltu gyda chyflogwyr, rheolwyr, darparwyr dysgu ac Arolygiaeth Gofal Cymru, a fynychwyd gan 670 o bobl, am feysydd, megis Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan, Llwybr Asesu Cyflogwyr, a chymwysterau Lefel 2 a 3.

Cwblhaodd ugain o fyfyrwyr raglen ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol dwy flynedd City 7 Guilds.

Fe wnaethom gynnal 17 o ddigwyddiadau am gymwysterau blynyddoedd cynnar, a fynychwyd gan 234 o weithwyr a rheolwyr blynyddoedd cynnar. Fe wnaethom hefyd gynnal cynhadledd blynyddoedd cynnar yn yr hydref a groesawodd 170 o bobl a chynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau gwanwyn a fynychwyd gan 60 o bobl. Cafodd mwy na 180 o bobl hyfforddiant ar y fframwaith sefydlu blynyddoedd cynnar.

Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru wedi'u cynllunio i asesu a datblygu sgiliau allweddol sy'n angenrheidiol ar gyfer bywyd, dysgu a chyflogaeth. Rydyn wedi datblygu 18 o adnoddau i gefnogi addysgu a dysgu Sgiliau Hanfodol Cymru gan ddefnyddio senarios sy'n gysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r adnoddau wedi cael eu profi gyda dysgwyr a thiwtoriaid o ddarparwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Mae'r adnoddau wedi cael eu croesawu ac rydyn wedi cael adborth cadarnhaol i ddysgwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a'r rhai sy'n darparu'r cymwysterau. Dywedodd un tiwtor fod yr adnoddau: "mor dda yn weledol, cam wrth gam a gyda chanllawiau clir maen nhw'n gymaint o welliant ar yr hyn rydw i'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd fy mod wedi mwynhau ei gwblhau."

Adolygiad o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn ddogfennau manwl sy'n nodi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyflawni swydd yn gymwys. Rydyn wedi bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr yn y DU i adolygu 212 NOS ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) a Dysgu a Datblygiad Gofal Plant (CCLD). Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys arbenigwyr, cyflogwyr a rheolwyr ar draws y ddau sector yng Nghymru wedi cyfrannu at yr adolygiad i sicrhau bod y NOS yn iawn ar gyfer y sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar.

Hyrwyddo a chefnogi prentisiaethau

Yn 2024 i 2025, cwblhaodd 4,224 o bobl brentisiaethau o'i gymharu â 3,270 yn 2023 i 2024 – cynnydd o 31 y cant:

  • 3,272 o brentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • 1,029 o brentisiaethau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant.

Mae hyn yn dangos y bydd nifer cynyddol o weithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr yn bodloni eu gofyniad cymhwyster cofrestru. Bydd gweithwyr a rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant yn bodloni eu gofynion cymhwyster Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Cefnogi gofal cymdeithasol Cymraeg a gwasanaethau blynyddoedd cynnar

Rydyn yn parhau i edrych ar ffyrdd o gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith. Rydyn wedi bod yn gweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar ddysgu Cymraeg ac wedi creu cyrsiau Camau. Mae'r cyrsiau'n cynnig dysgu hyblyg sy'n canolbwyntio ar y geiriau a'r ymadroddion Cymraeg y mae gweithwyr fwyaf tebygol o fod eu hangen pan fyddant yn cyfathrebu â'r bobl maen nhw'n eu cefnogi. Mae'n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig a bydd pawb sy'n ei gwblhau yn derbyn tystysgrif.

Rhwng 2024 a 2025, cofrestrwyd 687 o bobl ar y cwrs Camau ( cynnydd o 30 y cant o'i gymharu â'r llynedd) a 510 o bobl yn ei gwblhau. Gwellodd cyfraddau cwblhau'r cwrs hefyd ar ôl i ni gyflwyno tiwtor Cymraeg a chymorth cymheiriaid.

Cynhaliwyd ein cynhadledd Gymraeg gyntaf ar y thema 'Iaith, urddas a gofal' ym mis Mawrth 2025. Helpodd y gynhadledd y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i wneud cysylltiadau i ddatblygu eu gwybodaeth am ffyrdd o weithio yn ddwyieithog. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, fe wnaethom sefydlu rhwydwaith cymorth cymheiriaid Camau i rannu syniadau ac arferion da, sydd bellach â 30 aelod.

Dylunio, datblygu a chefnogi'r gwaith o weithredu offer, dulliau ac adnoddau diogelu newydd

Ym mis Chwefror, fe wnaethom lansio adnoddau hyfforddi diogelu Grŵp B a chyrhaeddon ni bron i 300 o bobl drwy ddiwrnodau gweithredu ar draws 7 rhanbarth Cymru. diwrnodau gweithredu rhanbarthol. Rydyn wedi cael adborth cadarnhaol am yr adnodd hyfforddi, gyda phobl yn dweud wrthym eu bod yn "anfeidrol ddefnyddiol ac yn gyfeillgar i ymarfer". Mae hyfforddwyr annibynnol wedi dweud wrthym fod cael y safonau wedi golygu y gallant deilwra eu hyfforddiant yn fwy effeithiol i grwpiau penodol o ymarferwyr.

Mae'r adnodd hwn bellach yn rhan o'r calendrau hyfforddi ym mhob un o'r saith rhanbarth yng Nghymru, gyda phobl yn defnyddio'r pecyn adnoddau Grŵp B i ddarparu eu hyfforddiant. Mae grŵp adolygu aml-asiantaeth yn parhau i oruchwylio datblygiad y safonau hyfforddi a'r pecynnau adnoddau cysylltiedig, ac ar hyn o bryd mae'n cynllunio adnoddau Grŵp C.

Darparu arweinyddiaeth genedlaethol i gefnogi'r sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant i fod yn wrthwahaniaethol

Rydyn eisiau sicrhau bod gofal cymdeithasol yng Nghymru yn deg ac yn gynhwysol. Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau clir i fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydyn wedi bod yn cefnogi hyn trwy weithio ar hyfforddiant a dysgu i helpu gweithwyr gofal i ddeall sut i drin pobl yn deg a gyda pharch. Rydyn hefyd yn gweithio ar adnoddau am bynciau fel hawliau dynol, gwrth-hiliaeth a chynhwysiant LGBTQ +. Bydd dau fodiwl yn canolbwyntio ar wrth-hiliaeth a HIV. Rydyn wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau a phobl berthnasol ar y cynnwys, ac mae disgwyl iddynt gael eu lansio yn 2025 i 2026.

Cefnogi dysgu gyda chymunedau ymarfer

Rydyn wedi sefydlu cymunedau i gefnogi pobl yn y sector i adeiladu rhwydweithiau, gweithio gyda'n gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • 355 o aelodau yn y gymuned dystiolaeth (cynnydd o 50 y cant o'i gymharu â'r llynedd)

Parhaodd ein pedair cymuned i dyfu, gan gynnig dysgu a chefnogaeth werthfawr ar draws gofal cymdeithasol. Rydyn ni eisiau i'r cymunedau fod yn lle diogel i aelodau, lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel yn archwilio pynciau sy'n bwysig iddyn nhw. Gyda'r gymuned y tu ôl iddynt, mae aelodau'n gwybod y gallant rannu syniadau, gofyn cwestiynau a chael cefnogaeth.

Dywedodd un aelod o'r gymuned: "[T]the great thing about this community is it gives us the time and space, we would not usually get, to think, reflect and discuss with our peers".