Jump to content
Gwella llesiant gan ddefnyddio dyfeisgarwch cymunedol

Esbonio beth yw dyfeisgarwch cymunedol, a sut i'w ddefnyddio i wella llesiant cymunedau ac unigolion.

Beth yw dyfeisgarwch cymunedol?

Dyfeisgarwch cymunedol yw’r term am ddefnyddio'r cryfderau o fewn cymunedau, gan gynnwys eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u perthnasoedd â phobl, i gefnogi ein gilydd mewn ffyrdd cadarnhaol ac ymarferol.

Mae dyfeisgarwch cymunedol yn tynnu gwahanol rannau o'r gymuned ynghyd i ddod o hyd i atebion neu i roi cymorth.

Mae'n ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle mae'r person yn ymwneud â'r ffordd y caiff gwasanaethau neu atebion eu cynllunio.

Mae hynny'n golygu eu bod yn cael y gefnogaeth briodol ar y lefel briodol.

Mae hefyd yn seiliedig ar le, oherwydd trwy ddeall yr hyn sydd ei angen ar bob person, rydyn ni’n dod i ddeall beth sydd ei angen ar y gymuned.

Rydyn ni’n gweithio yn y ffordd hon oherwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n dweud:

  • pobl sydd wrth wraidd y system ac mae ganddyn nhw lais cyfartal yn y gefnogaeth y maen nhw’n ei derbyn
  • bydd gwasanaethau'n gweithio gyda phobl i gynllunio gwasanaethau a’u gweithredu
  • bydd gwasanaethau'n ceisio sicrhau bod pobl yn cael y cymorth priodol ar yr adeg briodol
  • dylai gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau yng Nghymru gefnogi'r saith nod llesiant, sy'n cynnwys:
    • Cymru lewyrchus
    • Cymru gydnerth
    • Cymru o gymunedau cydlynus
    • Cymru iachach.

Sut mae dyfeisgarwch cymunedol yn gwella llesiant?

Pan fydd sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd, gallant ddefnyddio dyfeisgarwch cymunedol i gefnogi llesiant. Mae hyn oherwydd bod dyfeisgarwch cymunedol:

  • yn helpu cymunedau i gael y lefel briodol o gefnogaeth, oherwydd bod sefydliadau'n gofyn iddynt beth sy’n bwysig iddynt a beth sydd ei angen arnynt
  • yn arwain at atebion cynaliadwy a mwy llwyddiannus, gan ei fod yn cynnwys pobl wrth gynllunio gwasanaethau neu atebion, ac yn defnyddio eu cryfderau
  • yn rhoi perchnogaeth o'r gwasanaeth neu'r ateb i bobl a'u cymunedau, fel eu bod yn teimlo'n fwy cadarnhaol tuag ato ac yn fwy tebygol o'i hyrwyddo
  • yn gallu rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd neu ennill profiad mewn pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw ac sydd o fudd i'r gymuned
  • yn arwain at ffyrdd effeithlon o weithio, sy’n golygu atebion neu wasanaethau cydgysylltiedig i gymunedau.

Dechrau arni gyda dyfeisgarwch cymunedol

Mae dyfeisgarwch cymunedol yn ymwneud â gweithio gyda sefydliadau eraill i wella llesiant.

Mae hyn yn cynnwys sefydliadau o wahanol sectorau, sy'n gweithio gyda gwahanol gymunedau.

Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar

Mae'r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar yn fforwm cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar les cymunedol.

Mae'r bartneriaeth yn cyfarfod bob mis i ddod ag ymchwil ac ymarfer ynghyd, a dod o hyd i ffyrdd o ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae gan y bartneriaeth gymysgedd o aelodau statudol ac aelodau o’r trydydd sector. Gall unrhyw sefydliadau yng Nghymru sy'n cefnogi ac yn datblygu dyfeisgarwch a llesiant cymunedol ddod yn bartner.

Y fframwaith Gweithio gyda chymunedau

Mae'r fframwaith hwn yn ganllaw i ddangos i sefydliadau sut i gefnogi llesiant cymunedol.

Cafodd ei lunio gan gymunedau, ac mae'n seiliedig ar yr hyn sydd wedi gweithio i’r cymunedau hynny.

Mae'n esbonio'r egwyddorion ar gyfer gweithio gyda chymunedau, a’r hyn y mae angen canolbwyntio arno.

Gall unrhyw un ei ddefnyddio.

Mae'n adnodd defnyddiol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gefnogi asesiadau llesiant, a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gwblhau asesiadau anghenion poblogaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Mai 2024
Diweddariad olaf: 18 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (38.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch