Cynhadledd am y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol
5 Mawrth 2025, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd Gymraeg gyntaf ar y thema 'Urddas, iaith a gofal'.
Mae'r gynhadledd am ddim i'w fynychu ac yn agored i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dewch draw i ddathlu gwaith ysbrydoledig, rhannu arfer da a chlywed am yr adnoddau a'r cymorth sydd ar gael i wasanaethau i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol yn y Gymraeg.
Dywedodd Gemma Halliday, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros y Gymraeg: "Rydyn ni’n gyffrous i gynnal ein cynhadledd gyntaf sy'n canolbwyntio ar y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol.
“Bydd y gynhadledd yn gyfle i chi glywed gan eraill a gwneud cysylltiadau â phobl i ddatblygu eich gwybodaeth am ffyrdd o weithio'n ddwyieithog. Roedd sesiwn debyg yn gynharach yn y flwyddyn ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant ac fe wnaethon ni adeiladu ar hynny yn ein cynhadledd blynyddoedd cynnar a gofal plant diweddar.
"Rydyn ni eisiau helpu i roi'r hyder i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion Cymraeg y bobl maen nhw'n eu cefnogi. Mae gweithlu dwyieithog yn golygu y gall unigolion fynegi eu hunain yn eu dewis iaith, sy'n ein galluogi i ddeall beth sy'n bwysig yn llawer mwy effeithiol a chyfforddus."
Bydd mynychu'r gynhadledd yn cyfrif tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), os ydych chi wedi cofrestru gyda ni.
Rydyn ni wrthi yn trefnu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn fuan.
9am: Cofrestru
10am: Croeso a threfniadau'r diwrnod
10.05am: Fideo gan Dawn Bowden AS, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
10.15am: Rôl arweiniol a strategol Gofal Cymdeithasol Cymru
Sarah McCarty, Gofal Cymdeithasol Cymru
10.25am: Cymraeg a llesiant
Kate Newman, Gofal Cymdeithasol Cymru
10.40am: Alison Cairns, Dysgwr y Flwyddyn 2023
10.50am: Gofal Cymdeithasol Cymru - Ein cynnig Cymraeg
Liz Parker a Sandie Grieve, Gofal Cymdeithasol Cymru
11.05am: Fideo gan Alison Cairns, Dysgwr y Flwyddyn 2023
11.10am: Egwyl
11.20am: Carousel – adnoddau a phrofiadau
- Comisiynydd y Gymraeg – y gefnogaeth sydd ar gael
- Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Profiad cyflogwr - Cartref Gofal Haulfryn
12.20pm: Cinio
1pm: Ian Gwyn Hughes, FAW
1.30pm: Carousel – adnoddau a phrofiadau
- Tîm cefnogaeth i gyflogwyr, gofal Cymdeithasol Cymru
- Prifysgol Bangor – pecyn recriwtio
2.10pm: Egwyl
2.20pm: Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
2.30pm: Panel holi ac ateb
2.50pm: Crynhoi a chau'r gynhadledd