Jump to content
Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol

Mae’r dudalen hon yn egluro rôl yr ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n amlinellu beth mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei olygu i ymarferwyr, a'r gwahanol lwybrau addysgol sydd ar gael i ddod yn ymarferydd cymwysedig.

Ynglŷn â’r rôl

Mae ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol yn cyflawni'r hyn y gellid ei ddisgrifio'n fras fel rôl cymorth gwaith cymdeithasol. Er bod y teitl ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol yn gallu amrywio’n sylweddol ar draws ac o fewn timau awdurdodau lleol, mae ymarferwyr yn gyfrifol am asesiadau, cynllunio a darparu cymorth.

Mae ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i hyrwyddo canlyniadau sy'n canolbwyntio ar y person ar gyfer unigolion a chymunedau. Mae eu dyletswyddau'n cynnwys rhoi cyngor a gofal ffurfiol a chymorth cynllunio, asesiadau ac adolygiadau.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Y Ddeddf) yn amlinellu’r fframwaith statudol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y canlynol:

  • gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth
  • gwella llesiant gofalwyr sydd angen cefnogaeth
  • trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn pwysleisio y dylai ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru weithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, a gofalwyr i hyrwyddo llesiant a chyflawni'r canlyniadau y mae pobl eu heisiau. Mae'r Ddeddf yn rhoi unigolion wrth wraidd eu gofal, gan roi llais a rheolaeth iddyn nhw yn y broses o wneud penderfyniadau.

Disgwylir i ymarferwyr weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person, gan ddeall anghenion, amgylchiadau a dewisiadau unigol, gan gynnwys ystyriaethau diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol. Rhaid iddyn nhw hefyd herio gwahaniaethu, rhagfarn ac anghydraddoldebau systemig i sicrhau bod gan bawb fynediad teg at ofal a chymorth.

Prif egwyddorion a dyletswyddau’r Ddeddf a beth mae’n ei olygu i ymarferwyr

  • Llais a rheolaeth: dylai unigolion gymryd rôl weithredol mewn penderfyniadau ynglŷn â’u gofal a'u cymorth. Dylai ymarferwyr eu helpu i gymryd rhan ac i wneud yn siŵr bod eu safbwyntiau’n cael eu clywed.
  • Llesiant: mae diffiniad y Ddeddf o lesiant yn eang. Mae'n cwmpasu iechyd corfforol a meddyliol, llesiant emosiynol, urddas personol, a chynhwysiant cymdeithasol. Rhaid i ymarferwyr feddwl am y rhain i gyd wrth asesu anghenion a chynllunio cymorth.
  • Atal ac ymyrraeth gynnar: dylai ymarferwyr weithio i stopio anghenion rhag codi neu waethygu. Dylent ymyrryd yn gynnar i gefnogi unigolion a'u teuluoedd.
  • Cyd-gynhyrchu: dylai ymarferwyr gydweithio gydag unigolion, eu teuluoedd a phartneriaid eraill i greu cynlluniau gofal a chymorth.
  • Gweithio aml-asiantaeth: mae’r Ddeddf yn annog asiantaethau a gweithwyr proffesiynol i gydweithio i ddarparu dull holistig a chydlynol tuag at ofal.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae gan ymarferwyr ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu yn y gwaith ac yn y gymdeithas. Rhaid iddyn nhw weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person, a sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei drin yn deg ac â pharch, waeth beth fo'i oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd warchodedig arall. Mae hyn yn golygu gwerthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant, a rhoi cefnogaeth deg sy'n diwallu anghenion pob person.

Cyfrifoldebau’r ymarferydd
  • Asesiad: mae ymarferwyr yn gyfrifol am asesu anghenion gofal a chymorth unigolion, gan ystyried eu hamgylchiadau, eu dewisiadau, a'r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni.
  • Cynllunio gofal a chymorth: rhaid i ymarferwyr weithio gydag unigolion i greu a chynnal cynlluniau gofal a chymorth sy'n addas i'w hanghenion a'u nodau.
  • Diogelu: mae gan ymarferwyr ddyletswydd i ddiogelu unigolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod, ac i roi gwybod am unrhyw bryderon a allai fod ganddyn nhw.

Cyfrifoldebau eraill:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’i Godau Ymarfer (y Codau)

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’i Godau Ymarfer (y Codau)

Mae'r Ddeddf a'i Chodau yn dweud y dylai ymarferwyr weithio gydag unigolion ar lefel gyfartal – gan rannu pŵer a pharch drwy gyd-gynhyrchu'r sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' gyda'i gilydd. Ceir gwybodaeth ar ein gwefan am bwysigrwydd cael sgyrsiau beth sy’n bwysig a sut mae’r rhain yn cyfrannu at y broses asesu.

Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn diffinio 'cyd-gynhyrchu' fel:

“Mae dull sy’n seiliedig ar asedau o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn golygu bod pobl sy'n rhoi ac yn derbyn gwasanaethau yn rhannu pŵer a chyfrifoldeb, ac yn gweithio gyda'i gilydd ar lefel gyfartal, mewn perthnasoedd cilyddol a gofalgar.

Rhan 2 o’r Cod Ymarfer

Rhan 3 o’r Cod Ymarfer:

Fframwaith cymwysterau

Mae’r fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru yn amlinellu’r cymwysterau gofynnol a’r cymwysterau sy’n cael eu hargymell ar gyfer swyddi gwahanol o fewn gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig. Mae tudalennau’r fframwaith cymwysterau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnwys gwybodaeth fanwl am gymwysterau, fesul maes gwasanaeth.

Mae rôl ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol wedi’i rhestru ar y fframwaith cymwysterau o dan yr adran ‘gwasanaethau gwaith cymdeithasol’. Rydyn ni’n argymell cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y rôl hon, ond nid yw'n angenrheidiol.

Mae nifer o awdurdodau lleol yn defnyddio timau amlddisgyblaethol neu hybrid i ddiwallu anghenion newidiol y sector. Efallai bod gan rai o'r timau hyn gyfrifoldebau tebyg i'r rhai a restrir yn rôl ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol, ond heb y teitl ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol. Gallan nhw hefyd fod yn rhan o rywle arall ar y fframwaith cymwysterau ac efallai y bydd angen cofrestru.

I fodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Rhan 3 o’r Cod Ymarfer, argymhellir y cymwysterau canlynol ar gyfer ‘ymarferwyr gofal cymdeithasol’:

    Tystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru)

    Cymhwyster galwedigaethol Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4

    Gofynion Sgiliau Hanfodol Cymru

    Fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth, rhaid i’r prentis gwblhau:

    • Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu
    • Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif

    Mae’r cymwysterau hyn yn dangos bod y prentis yn cyrraedd y safonau llythrennedd a rhifedd a osodwyd gan y fframwaith prentisiaeth cenedlaethol.

    Os oes gan y prentis gymwysterau cyfatebol cydnabyddedig eisoes (megis TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C/4 neu’n uwch), efallai na fydd angen iddyn nhw gwblhau’r rhain, cyhyd ag y gellir eu gwirio. Mae’r cymwysterau hyn yn elfennau gorfodol o’r rhaglen.

    Adroddiad peilot

    Fe wnaethon ni ysgrifennu adroddiad am lwyddiant rhaglen beilot cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol galwedigaethol City & Guilds. Mae'n egluro'r newidiadau a wnaed i ddiwallu anghenion myfyrwyr y garfan gyntaf yn well ac i wella'r rhaglen yn gyffredinol.

    Adnoddau i gefnogi’r cymhwyster galwedigaethol

    Mae yna amrywiaeth o adnoddau addysgu am ddim ar gyfer cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4, a gyflwynir gan Goleg Penybont a Choleg Gŵyr Abertawe. Mae’r rhain ar gael ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru, yn adran adnoddau cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol Lefel 4.

    Mae'r modiwlau ar gael i awdurdodau lleol ac unrhyw asiantaethau eraill. Gall rheolwyr a hyfforddwyr mewnol, darparwyr dysgu sydd wedi'u comisiynu gyflwyno'r adnoddau dysgu hyn neu gellir gael mynediad atynt drwy ddarparwyr dysgu sy'n cynnig y cymhwyster ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol. Gallwch chi ddod o hyd i'r adnoddau dysgu ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru, yn adran adnoddau cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol Lefel 4.

    Disgwylir y byddai unrhyw hyfforddiant, dysgu a datblygu yn dilyn rheoliadau cenedlaethol a pholisïau a chanllawiau cenedlaethol a lleol.

    Astudiaethau achos

    Gallwch chi wylio astudiaethau achos fideo am gymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4 ar wefan Gofalwn Cymru. Maen nhw'n tynnu sylw at brentisiaethau lefel uwch ac yn dangos eu bod ar gael i bobl sydd eisoes yn gweithio yn rôl ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol.

    Cwblhaodd Dominique Lima Gymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4 fel rhan o'r grŵp peilot cyntaf. Pan ddechreuodd Dominque, nid oedd y llwybr dilyniant i ail flwyddyn y radd gwaith cymdeithasol drwy drosglwyddo credydau wedi'i gytuno. Gwnaeth Dominique Gymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4 i fodloni gofynion ei rôl. Gallwch chi wylio stori Dominque fan hyn. Dominique Lima – Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol | Gofalwn Cymru,

    • Mae stori Ruby yn tynnu sylw at lwybrau amgen i radd gwaith cymdeithasol.
    • Mae’r astudiaeth achos fideo hon yn dangos sut caiff y rhaglen City & Guilds ei chyflwyno drwy’r coleg.

    Modiwlau dysgu digidol

    Cydnabyddiaeth a llwybrau dilyniant ar gyfer Cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol Lefel 4

    Cydnabyddiaeth annibynnol:

    Nid cerrig camu tuag at radd gwaith cymdeithasol yn unig yw cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4 a Thystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae'r ddau yn gymwysterau annibynnol sy'n bodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn llawn, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ymarferwyr i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person.

    Dywedodd un myfyriwr, “Mae’r cymhwyster hwn yn gam hollbwysig i gydnabod y gwaith hanfodol y mae ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud.”

    Llwybrau dilyniant:

    Yn unol ag ymrwymiad i ddatblygu gyrfa hirdymor, ceir llwybr dilyniant clir a hygyrch i'r rhai sydd eisiau datblygu eu gyrfaoedd. Mae Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4 a Thystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn bwyntiau terfyn cydnabyddedig a gwerthfawr i nifer o ymarferwyr, ac mae'r ddau yn cynnig llwybr uniongyrchol a chefnogol tuag at radd gwaith cymdeithasol.

    Os oes rhywun yn cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) ac yn anelu at wneud gradd gwaith cymdeithasol, rhaid iddyn nhw fod wedi:

    • cofrestru ar gyfer y radd anrhydedd berthnasol yng Nghymru
    • cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
    • cael cefnogaeth cyflogwr ar gyfer amser astudio.

    Os oes rhywun yn cwblhau cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4:

    • drwy drafodaethau rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Brifysgol Agored, bydd y Brifysgol Agored yn derbyn cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds fel un sy’n gyfwerth â Thystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru).
      Mae hyn yn caniatáu i ddeiliaid y cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol fynd i mewn yn uniongyrchol i ail flwyddyn gradd Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol Agored drwy broses trosglwyddo credyddau’r Brifysgol Agored.
    • ar ôl adolygu ac ail-ddilysu'r radd Gwaith Cymdeithasol, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Penybont wedi cymeradwyo cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol City & Guilds Lefel 4 fel un sy’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf (Lefel 4) gradd BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol.
    • gall deiliaid cymhwyster ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol fynd i Lefel 5 (blwyddyn 2) o radd BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy broses trosglwyddo credyddau. Cynlluniwyd y llwybr hwn i gydnabod y dysgu a'r profiad a fagwyd drwy'r cymhwyster.
    Gofynion allweddol
    • Nawdd cyflogwr: yn wahanol i fyfyrwyr sy’n cael mynediad uniongyrchol, rhaid i ddeiliaid cymhwyster ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol gael nawdd wrth eu cyflogwr. Rhaid i'r cyflogwr gytuno i gynnal y myfyriwr drwy gydol eu hastudiaethau.
    • Y broses ymgeisio: rhaid i ddeiliaid cymhwyster ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol wneud cais i'w cyflogwr a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd y brifysgol a’r cyflogwr yn cynnal cyfweliadau i asesu os ydynt yn addas i symud ymlaen i ail flwyddyn y cwrs.
    • Gwiriad DBS manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru: os yn llwyddiannus ac y cynigir lle amodol, rhaid i ddeiliaid cymhwyster ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol:
    • gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
    • gael gwiriad DBS manwl sy’n cwmpasu oedolion