Jump to content
Canllawiau i reolwyr Gweithwyr gofal preswyl dros nos i blant

Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

Canllawiau i reolwyr Gweithwyr gofal preswyl dros nos i blant i gyflawni'r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

Y gymhwyster

Mae’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eu gallu i gefnogi anghenion iechyd a gofal plant a phobl ifanc yn ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’n seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer drwy waith yn y lleoliad gwaith.

At ddibenion y canllaw hwn, cyfeirir at y Gweithiwr gofal preswyl dros nos i blant fel ‘y dysgwr’.

I gyflawni'r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc), mae’n rhaid i’r dysgwr ennill cyfanswm o 50 credyd o leiaf:

  • Rhaid cyflawni 18 credyd o’r grŵp gorfodol.
  • Rhaid cyflawni o leiaf 13 credyd o grŵp dewisol A
  • Gellir cyflawni’r cydbwysedd o 19 credyd o unedau yng ngrwpiau dewisol A neu B

Dewis yr unedau mwyaf priodol

Fel rheolwr, byddwch yn ymwneud (gyda’r dysgwr a’r asesydd) â dewis yr unedau dewisol a fydd yn ffurfio cymhwyster Lefel 3 y dysgwr. Dylai’r unedau a ddewisir adlewyrchu anghenion y gwasanaeth, ond mae’n hanfodol eu bod yn adlewyrchu rôl a dyletswyddau’r dysgwr fel Gweithiwr gofal preswyl dros nos i blant.

Isod fe welwch chi'r amrywiaeth o unedau sydd ar gael i ddysgwr ar draws y grwpiau gorfodol a dewisol A a B. Rydym wedi tynnu sylw at ddetholiad o’r unedau mwyaf cyffredin a ddewiswyd ar sail rôl Gweithiwr gofal preswyl dros nos i blant.

Uned orfodol

Uned orfodol 365 – Hybu ymarfer craidd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

Gwerth credydau: 18

Unedau opsiynol Grwp A

Yr uned a ddewisir sy’n cael ei hawgrymu neu sy’n gyffredin i gyflawni’r credydau gofynnol.

Bydd yr unedau a ddewisir o’r rhestr isod yn dibynnu ar y lleoliad

Uned 367: Darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal

Credydau: 18

Uned 339: Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o ran cefnogi ymddygiad

Credydau: 6

Uned 382: Ymarfer sy’n seiliedig ar drawma gyda phlant a phobl ifanc

Credydau: 5

Uned 379: Cefnogi unigolion i gynllunio a pharatoi prydau bwyd

Credydau: 6

Uned 401: Defnyddio asesiadau i ddatblygu cynlluniau personol

Credydau: 6

Uned 366: Darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc anabl

Credydau: 20

Uned 370: Cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau annibyniaeth a pharatoi ar gyfer bod yn oedolion

Credydau: 4

Uned 336: Cefnogi unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau

Credydau: 7

Uned 309: Hyrwyddo a chefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu

Credydau: 4

Uned 383: Defnyddio dulliau cyfathrebu i gymell unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol

Credydau: 5

Uned 236: Cyfrannu at gefnogi unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau

Credydau: 4

Unedau opsiynol Grwp B

Yr uned a ddewisir sy’n cael ei hawgrymu neu sy’n gyffredin i gyflawni’r credydau gofynnol.

Bydd yr unedau a ddewisir o’r rhestr isod yn dibynnu ar y lleoliad

Uned 347: Hybu iechyd

Credydau: 3

Uned 350: Cynorthwyo defnyddio meddyginiaeth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol

Credydau: 5

Uned 208: Cefnogi plant sy’n byw gyda diabetes mellitus

Credydau: 5

Uned 210: Cyflwyniad i ddiffyg anadl ac asthma mewn plant

Credydau: 2

Uned 243: Cefnogi arferion diogelwch bwyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol

Credydau: 2

Uned 312: Cefnogi plant sy’n byw gydag epilepsi

Credydau: 3

Uned 212: Cefnogi unigolion i symud a lleoli

Credydau: 3

Uned 240: Cefnogi unigolion i barhau i symud a lleihau’r risg o gwympo

Credydau: 2

Uned 244: Cefnogi unigolion i reoli poen ac anghysur

Credydau: 2

Enghreiffitiau o sut i gwrdd y meini prawf

Yn y cymhwyster Lefel 3, y meini prawf ‘rydych yn gallu gweithio mewn ffyrdd sy’n…’ yw’r meini prawf sy’n dangos ymarfer ac yn cynnwys arsylwadau, ac mae’r meini prawf ‘rydych yn deall...’ yn cadarnhau gwybodaeth. Dyma rai o’r ffyrdd y gall gweithwyr nos ddangos gwybodaeth gymwysol:

  • trafodaethau myfyriol
  • adroddiadau myfyriol
  • gwaith ysgrifenedig
  • holi ar lafar
  • yn cael ei ddangos yn ymarferol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar gyflwyno asesiadau.

Mae rhai o’r meini prawf ‘rydych chi’n gallu gweithio mewn ffyrdd sy’n’ yn cynnwys teulu ac mae’n aml yn cael ei ystyried yn anodd i weithwyr nos ddangos a chasglu tystiolaeth ar gyfer y meini prawf hyn. Y rheswm am hyn yw bod gweithwyr nos yn aml yn cael ychydig iawn o gyswllt, os o gwbl, â theulu’r plentyn. Fe welwch isod enghreifftiau o rai o’r meini prawf hyn ac awgrymiadau am ffyrdd o’u bodloni.

Uned 365

Meini prawf

2.1 Llesiant

Rydych chi’n gallu gweithio mewn ffyrdd sy’n:

  • ystyried pwysigrwydd teulu/pobl arwyddocaol eraill y plentyn a chefnogi a datblygu’r perthnasoedd hyn er budd y plentyn, oni bai fod tystiolaeth y byddai hyn yn niweidiol
  • ystyried pwysigrwydd teuluoedd, ffrindiau a rhwydweithiau cymunedol a gweithio mewn ffordd sy’n cefnogi, yn datblygu ac yn hyrwyddo’r perthnasoedd hyn.

Cyfleoedd a awgrymir ar gyfer tystiolaeth

Gallai hyn fod drwy:

  • drafodaeth gyda’r plentyn a’i deimladau am y berthynas
  • gwrando’n ofalus ac yn astud ar y plentyn
  • deall hanes a deinameg teulu'r plentyn a sut y gallwch ei gefnogi i gyfathrebu
  • ysgrifennu yn nodiadau'r plentyn
  • amseroedd trosglwyddo gyda chydweithwyr
  • gofyn i gydweithiwr ar shifft dydd fynd ar drywydd cais penodol gan blentyn
  • goruchwyliaeth gyda’r rheolwr
  • cysylltu ag aelodau’r teulu/pobl arwyddocaol eraill yn ôl yr angen.

Uned 367

Meini prawf

8. Diogelu a gofal mwy diogel

Rydych chi’n gallu gweithio mewn ffyrdd sy’n:

8.6 Cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn cyswllt y cytunwyd arno ag aelodau ehangach o’r teulu a rhwydweithiau anffurfiol, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith

8.7 Cefnogi plant a phobl ifanc i ddeall pam mae unrhyw gyfyngiadau wedi cael eu gosod ar gyswllt ag aelodau o’r teulu ehangach a nodwyd a rhwydweithiau anffurfiol

8.8 Cefnogi plant a phobl ifanc yn dilyn cyswllt ag aelodau ehangach o’r teulu a rhwydweithiau anffurfiol

Cyfleoedd a awgrymir ar gyfer tystiolaeth

  • trafodaeth gyda’r plentyn a’i deimladau am y cyswllt. Gwrando’n ofalus ac yn astud ar y plentyn
  • ysgrifennu yn nodiadau'r plentyn beth yw ei ddewisiadau a gofyn i gydweithiwr basio gwybodaeth ymlaen
  • deall hanes a deinameg teulu'r plentyn a sut y gallwch ei gefnogi i gyfathrebu
  • amseroedd trosglwyddo gyda chydweithwyr
  • goruchwyliaeth gyda’r rheolwr
  • trafodaeth gyda / egluro i’r plentyn i’w helpu i ddeall unrhyw beth nad yw’n ei wybod am y cyswllt a’r cyfyngiadau.
  • cysylltu ag aelodau’r teulu/pobl arwyddocaol eraill yn ôl yr angen.

Uned 339

Meini prawf

6. Hyrwyddo cydweithio aml-asiantaeth a gweithio mewn partneriaeth

Rydych chi’n gallu gweithio mewn ffyrdd sy’n:

6.1 Gwreiddio egwyddorion gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn eich ymarfer

6.2 Datblygu, rhannu a chytuno ar gynlluniau a dulliau cymorth ymddygiad yn unol â’r rôl a’r cyfrifoldebau

6.3 Rhannu gyda phobl eraill ganlyniadau adolygiadau ac asesiadau, gan gynnwys asesiadau risg

Cyfleoedd a awgrymir ar gyfer tystiolaeth

  • drafodaeth gyda’r plentyn am ei deimladau, am y perthnasau a sbardun
  • gwrando’n ofalus ac yn astud ar y plentyn
  • deall hanes a deinameg teulu'r plentyn a sut y gallwch ei gefnogi i gyfathrebu
  • trafodaethau gyda’r plentyn am y gefnogaeth sydd ei hangen arno a’r penderfyniadau mae angen eu gwneud sy’n effeithio ar ei fywyd.
  • ysgrifennu yn nodiadau’r plentyn – nodiadau dyddiol, cynllun cymorth ac ati.
  • sicrhau bod disgrifiad manwl o’r ffordd orau o gyfathrebu ag unigolion yn cael ei gynnwys yn eu cofnodion
  • amseroedd trosglwyddo gyda chydweithwyr
  • gofyn i gydweithiwr ar shifft dydd fynd ar drywydd cais penodol gan blentyn
  • goruchwyliaeth gyda rheolwr
  • cysylltu ag aelodau’r teulu/pobl arwyddocaol eraill yn ôl yr angen
  • gofyn i unigolion beth maen nhw ei eisiau mewn ffyrdd maen nhw’n eu deall
  • rhoi digon o amser i’r plentyn gymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau.

Achos enghreifftiol

Mae Gweithiwr A yn Weithiwr Gofal preswyl dros nos i blant mewn lleoliad preswyl ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Mae shifft nos arferol ar gyfer Gweithiwr A yn cynnwys:

  • setlo plant a phobl ifanc
  • ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
  • cefnogi plant a phobl ifanc
  • cefnogi anghenion a dewisiadau unigol
  • siarad â phlant a phobl ifanc, a gwrando arnynt
  • dulliau ymddygiad cadarnhaol a rheoli ymddygiad digroeso
  • monitro plant a phobl ifanc
  • gofal sy’n ystyriol o drawma
  • rhoi meddyginiaeth
  • gwaith aml-asiantaeth, fel cyswllt â’r heddlu, iechyd neu’r tîm dyletswydd argyfwng
  • cyswllt â theulu
  • paratoi prydau bwyd
  • cylchdroi bwyd
  • dyletswyddau domestig
  • cofnodi ac adrodd
  • darllen ffeiliau, fel cynlluniau ac asesiadau risg
  • trosglwyddo i gydweithwyr
  • gwiriadau iechyd a diogelwch
  • herio gwahaniaethu.

Mae gan Weithiwr A gyfarfod pwynt gwirio cychwynnol gyda’i reolwr a’i asesydd i wneud y canlynol:

  • cadarnhau’r broses asesu a thrafod swyddogaethau’r swydd sydd i’w chyflawni.
  • trafod y cysylltiadau rhwng swyddogaethau’r swydd a’r asesiad, er enghraifft sut mae ymarfer yn hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc.
  • cyfateb swyddogaethau’r swydd i ofynion yr uned, h.y. gwneud yn siŵr eu bod yn darparu digon o dystiolaeth ar gyfer unedau Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc).

Maen nhw’n nodi’r unedau canlynol fel rhai sy'n briodol oherwydd y cysylltiadau â rôl a gweithgaredd Gweithiwr A (cliciwch 'dangos' i weld manylion llawn pob uned):

Uned orfodol 365 - Hyrwyddo ymarfer craidd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

Grŵp Opsiwn A 367 - Darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal

Grŵp Opsiwn A 339 - Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o ran cefnogi ymddygiad

Grŵp Opsiwn A 382 - Ymarfer sy’n seiliedig ar drawma gyda phlant a phobl ifanc

Grŵp Opsiwn B 350 - Cynorthwyo defnyddio meddyginiaeth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol

Cyfanswm credydau

Yn y cyfarfod pwynt gwirio cychwynnol, bydd Gweithiwr A, ei reolwr a’i asesydd hefyd yn:

  • cytuno ar sut y bydd plant/pobl ifanc a’u teuluoedd/gofalwyr yn cael caniatâd i arsylwi, a sut bydd preifatrwydd a chyfrinachedd yn cael eu cynnal drwy gydol y broses asesu
  • cytuno ar amserlen ar gyfer cwblhau asesiadau, gan gadarnhau dyddiad ar gyfer y cyfarfod cynllunio.
  • cytuno ar sut bydd y portffolio tystiolaeth a’r cofnod myfyriol yn cael eu rheoli
  • cynllunio cyfres o gyfarfodydd cynnydd i adolygu arferion a myfyrdodau o ddydd i ddydd a nodi tystiolaeth portffolio
  • nodi a chytuno ar unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen ar gyfer dysgu
  • cytuno ar sut bydd llesiant y dysgwr yn cael ei gefnogi wrth ymgymryd â’r cymhwyster.

Sut mae’r cymhwyster yn cael ei asesu

Mae asesu’r cymhwyster hwn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth agos rhwng y dysgwr, y rheolwr a’r asesydd.

Dyma’r prif ddulliau asesu yn y cymhwyster hwn:

  • cyfres o dasgau strwythuredig wedi’u cynllunio,
  • cofnod myfyriol,
  • portffolio o dystiolaeth, a
  • thrafodaeth dan arweiniad asesydd.

Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio i ganiatáu ar gyfer casglu tystiolaeth gyfannol; mae hyn yn golygu y bydd tystiolaeth y dysgwyr yn cael ei chasglu o sefyllfaoedd gwaith go iawn sy’n dangos bod y dysgwr yn gallu gweithio’n hyderus ac yn gyson ar draws pob agwedd ar y cymhwyster ar fwy nag un achlysur.

Bydd y tasgau strwythuredig yn helpu’r dysgwr i ddangos ei wybodaeth a’i sgiliau ar draws gwahanol unedau a chanlyniadau dysgu, ac yn integreiddio’r wybodaeth a’r sgiliau mewn ffordd sy’n adlewyrchu gofynion y gweithle a’r sector i ddarparu gofal a chymorth effeithiol.

Mae’n bwysig bod dysgwyr yn cael eu cyflwyno at ddibenion asesu dim ond pan fydd y rheolwr a’r asesydd yn hyderus bod y dysgwr yn ddigon cymwys i allu cwblhau’r asesiad yn llwyddiannus. Dylai hyn fod ar adeg lle mae'r rhan fwyaf o’r dysgu wedi’i wneud, ac yn dilyn rhaglen o asesu parhaus a ffurfiannol.

Mae’r rheolwr yn deall prosesau mewnol arferol y lleoliad, dogfennau, systemau cyfathrebu ac yn y blaen, ac mae’n gallu asesu a yw’r dysgwr yn eu defnyddio’n briodol a chadarnhau bod y dysgwr yn barod i gael ei asesu.

Sut gall y rheolwr gefnogi’r dysgwr

Cam 1 – Rhag-gyflenwi

Cofrestru cychwynnol a dewis uned

Mae’r cyflogwr/rheolwr yn cefnogi’r dysgwr i ddeall y dewisiadau uned sydd ar gael ac yn helpu i ddewis yr unedau sydd fwyaf perthnasol i rôl Gweithiwr gofal preswyl dros nos i blant.

Cam 2 – Cyfnod Dysgu

Cyfnod dysgu ffurfiol

Mae’r cyflogwr/rheolwr yn cefnogi’r dysgwr drwy’r broses o ddysgu a hyfforddi yn y gwaith, gan gynnwys unrhyw addasiadau rhesymol. Sicrhau bod y dysgwr a’i lesiant yn cael eu cefnogi drwy weithgareddau monitro a DPP ‘arferol’ yn y gweithle, er enghraifft mynychu cyfarfodydd un-i-un / goruchwyliaeth rheolaidd, diweddaru cofnodion myfyriol (sy’n ofyniad gorfodol ar gyfer asesu).

Porth i arsylwadau / asesiadau crynodol

Mae’r cyflogwr/rheolwr yn cysylltu â’r asesydd i bennu’r pwynt pan fydd y dysgwr yn barod ar gyfer asesiad ffurfiannol. Efallai y bydd yr asesydd am gynnal asesiadau ffurfiannol a thrafod y canlyniad gyda’r rheolwr i lywio neu gadarnhau ‘parodrwydd i asesu,’ neu nodi unrhyw anghenion datblygu neu gefnogi pellach.

Cam 3 – Cyfnod asesu

Cyn yr asesiad

  • Mae’r cyflogwr/rheolwr yn cwrdd â’r asesydd i gadarnhau ac egluro, os oes angen, eu dealltwriaeth o ofynion asesu, gan gynnwys mapio canlyniadau a disgwyliadau’r broses.
  • Cyfarfod pwynt gwirio cychwynnol yr ymgeisydd cyn yr asesiad – gall y cyflogwr/rheolwr gwrdd â’r dysgwr a’r asesydd i drafod a chynllunio dewisiadau unedau, cynlluniau asesu crynodol ac amserlen.
  • Cynnal gweithgareddau parhaus yn y gweithle y cytunwyd arnynt, drwy gydol y cyfnod asesu, er enghraifft cyfarfodydd cynnydd rheolaidd.
  • Trafod gyda’r dysgwr a’i gefnogi i nodi’r dystiolaeth orau ar gyfer ei bortffolio a’i gofnod myfyriol.
  • Cyfarfod cynllunio ar gyfer asesu, mae angen i’r cyflogwr/rheolwr adolygu cynlluniau terfynol y dysgwr i gadarnhau a chymeradwyo’r gwaith papur perthnasol.

Cam 4 – Cwblhau

Cadarnhau’r penderfyniad

Bydd yr asesydd yn cwrdd â’r rheolwr i roi gwybod iddo am ganlyniad yr asesiad.

Mwy o wybodaeth ac andoddau

Atodiad 1 - Astudiaeth achos enghreifftiol o asesiad:

Mae Gweithiwr A yn Weithiwr gofal preswyl dros nos i blant mewn lleoliad preswyl ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed.

Mae asesydd Gweithiwr A yn arsylwi ar ddiwedd ei shifft nos a threfn y bore.

Ar ôl cyrraedd y cartref preswyl, gofynnodd Gweithiwr A i’w asesydd ddangos ID a llofnodi’r llyfr ymwelwyr. Eglurodd Gweithiwr A, er diogelwch pawb, bod yn rhaid iddynt gael cofnod o unrhyw un sy’n dod i mewn ac allan o’r adeilad. Mae hyn hefyd yn cydymffurfio â rheoliadau tân.

Esboniodd Gweithiwr A y byddai’n deffro dau berson ifanc yn fuan, ond yn gyntaf roedd yn rhaid iddo wneud galwad ffôn i’r heddlu am berson ifanc (S) a oedd wedi mynd ar goll y noson flaenorol.

Ffoniodd Gweithiwr A orsaf yr heddlu. Yn ystod yr alwad, rhoddodd Gweithiwr A ei fanylion a chadarnhau gyda phwy roedd yn siarad a’r rheswm dros ei alwad. Cadarnhaodd rhingyll y ddesg eu bod wedi lleoli S mewn cyfeiriad a roddwyd gan gydweithwyr Gweithiwr A y noson flaenorol. Fe wnaethant drefnu y byddai’r heddlu’n dod ag S yn ôl i’r uned yn ddiweddarach y bore hwnnw. Holodd Gweithiwr A am gyflwr S pan gafodd ei chodi, ac eglurodd wrth yr heddlu fod gan y person ifanc ddiabetes math un sydd angen monitro gofalus, prydau rheolaidd a meddyginiaeth i gynnal cydbwysedd ei lefelau siwgr gwaed. Pwysleisiodd Gweithiwr A ei fod yn bwysig iawn bod gan S rywbeth i’w fwyta a’i bod yn dod yn ôl i’r cartref cyn gynted â phosibl er mwyn iddi gael meddyginiaeth.

Pan ddaeth Gweithiwr A â’r alwad i ben, fe gofnododd y manylion, fel y nodir yng ngofynion y sefydliad a’r systemau cofnodi ar gyfer pan fydd plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll o’i gartref.

Esboniodd Gweithiwr A ei fod nawr yn mynd i ddeffro dau berson ifanc. Aeth Gweithiwr A i fyny’r grisiau a chnocio’r drws cyntaf, ac mewn llais cyfeillgar a thyner, dywedodd bore da wrth B. Yna gwnaeth yr un peth ar y drws arall, ac unwaith eto mewn llais cyfeillgar a thyner, dywedodd bore da wrth J. Nid oedd J yn awyddus i godi, felly fe wnaeth Gweithiwr A ei annog mewn ffordd chwareus ond cadarn. Gwnaeth Gweithiwr A sylw ar boster newydd a oedd gan J ar ei wal, a daeth J yn frwdfrydig iawn ac yn awyddus i ddweud wrth Weithiwr A beth oedd yn ei olygu. Roedd Gweithiwr A yn dangos diddordeb yn J drwy gydol y sgwrs.

Holodd B weithiwr A a oedd ganddi amser i olchi ei gwallt. Dywedodd Gweithiwr A nad oedd ganddi amser mewn gwirionedd ac mae’n amlwg nad oedd B yn fodlon â hyn. Gofynnodd Gweithiwr A pam nad oedd wedi ei olchi’r noson flaenorol neu wedi gofyn am gael ei deffro’n gynharach. Dywedodd B nad oedd wedi cael amser y noson flaenorol ac nad oedd neb wedi dweud wrthi am ofyn am gael ei deffro’n gynharach. Roedd yn ymddangos bod B yn flin a gallai Gweithiwr A weld ymddygiad B yn newid. Ymatebodd Gweithiwr A i hyn gan ddweud ei bod i mewn eto y noson honno a chynigiodd ei helpu i olchi a steilio ei gwallt mewn sesiwn maldod fach. Roedd B yn hapus iawn am hyn ac fe gytunodd yn frwdfrydig. Buont yn trafod pa gynhyrchion y gallent eu defnyddio a sut roedd B eisiau steilio ei gwallt. Cynigiodd Gweithiwr A rai awgrymiadau i B ynghylch beth y gallai ei wneud gyda’i gwallt am heddiw.

Pan oedd Gweithiwr A yn siŵr bod y ddau berson ifanc wedi codi, fe holodd beth fydden nhw’n hoffi ei gael i frecwast. Aeth Gweithiwr A i lawr y grisiau a rhoi’r tegell ymlaen yn barod iddynt godi.

Pan ddychwelodd Gweithiwr A i lawr y grisiau, roedd aelod arall o staff wedi cyrraedd. Rhoddodd Gweithiwr A ddiweddariad cyflym iddo ar lafar cyn trosglwyddo, a dywedodd wrtho am ei alwad ffôn gyda’r heddlu am S, a bod y ddau berson ifanc arall wedi cael eu deffro ac yn codi.

Roedd angen meddyginiaeth ar berson ifanc B, a gofynnodd Gweithiwr A i’r aelod arall o staff a fyddai’n ei helpu i roi’r feddyginiaeth. Esboniodd Gweithiwr A i’r asesydd fod gofyn i ddau berson roi meddyginiaeth, yn unol â’u polisi meddyginiaeth. Roedd y feddyginiaeth mewn cwpwrdd dan glo, ac roedd gan Weithiwr A yr allwedd iddo. Gwiriodd y ddau aelod o staff y feddyginiaeth a’i bod yn cyd-fynd â’r feddyginiaeth ar waith papur B. Ar ôl rhoi’r feddyginiaeth, llofnododd y ddau ohonynt y cofnod meddyginiaeth priodol.

Daeth B lawr y grisiau a gofynnwyd a fyddai’n hoffi paned o de. Rhoddwyd ei feddyginiaeth iddo a gwiriodd Gweithiwr A y feddyginiaeth gydag ef a’i wylio i wneud yn siŵr ei fod wedi’i chymryd.

Cafodd B becyn cinio ar gyfer yr ysgol. Aeth i wirio hyn gyda Gweithiwr A, a roddodd ddewis o gacennau iddo. Yna cafodd sgwrs tra oedd yn yfed ei baned o de ac yn bwyta ei frecwast.

Diweddarodd Gweithiwr A y cofnodion dyddiol fel sy’n briodol i’r lleoliad, a chwblhaodd ddiweddariad trosglwyddo. Yna dechreuodd staff eraill gyrraedd ar gyfer shifft y bore. Aeth Gweithiwr A yn ôl i fyny’r grisiau at J nad oedd wedi dod i lawr y grisiau. Aeth Gweithiwr A i atgoffa J o’r amser a dywedodd wrthi fod angen brecwast arni o hyd. Dywedodd Gweithiwr A wrth J hefyd fod ei harian cinio a’i thocynnau bws yn barod, gan gadarnhau’r symiau gyda J.

Ar ôl dod yn ôl i lawr y grisiau, rhoddodd Gweithiwr A y wybodaeth berthnasol i dîm y bore. Fe eglurodd fod S yng ngorsaf yr heddlu ac y byddai’r heddlu’n dod â hi’n ôl yn fuan.

Tystiolaeth o gefnogaeth ac ymarfer allweddol

Gweithiwr A:

  • wedi gwreiddio dulliau o weithio sy’n canolbwyntio ar y plentyn
  • wedi dilyn polisïau a gweithdrefnau’r gweithle
  • wedi parchu anghenion a dewisiadau unigol y bobl ifanc, a chefnogi eu harferion personol ar yr un pryd â’u trin ag urddas a pharch
  • wedi ystyried gofynion maeth a meddygol penodol y bobl ifanc
  • wedi hyrwyddo a chefnogi iechyd a llesiant y plant a’r bobl ifanc
  • wedi dangos dealltwriaeth glir o drefn ac anghenion pob person ifanc yn y bore. Roedd yn cyfathrebu’n dda gyda’r bobl ifanc wrth eu codi yn y bore. Fe addasodd ei ddulliau cyfathrebu i ddiwallu anghenion a dewisiadau’r plant a’r bobl ifanc, a’i gydweithwyr yn ystod y cyfnod trosglwyddo.
Cyhoeddwyd gyntaf: 6 Rhagfyr 2023
Diweddariad olaf: 30 Ebrill 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (76.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch