Dweud Eich Dweud yw ein harolwg blynyddol o’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae arolwg Dweud Eich Dweud 2025 nawr ar gau. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb.
Yr arolwg blynyddol hwn yw eich cyfle i rannu eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol gyda ni.
Bob blwyddyn, rydyn ni'n gofyn i chi ateb cwestiynau am bethau fel eich iechyd a'ch llesiant, cyflog ac amodau, a beth rydych chi'n ei hoffi am weithio yn y sector.
Mae rhoi gwybod beth rydych chi’n ei feddwl yn helpu i siapio’r cymorth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig.
Gweithio gyda phartneriaid
Mae Buckinghamshire New University, Bath Spa University a Chymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) yn gweithio gyda ni i gynnal arolwg 2025.
Bydd eich holl atebion yn ddienw a byddwn ni’n rhannu'r canfyddiadau ar ein gwefan yn ddwiweddarach eleni, ar ôl dadansoddi'r canlyniadau.
Beth oedd canlyniadau arolwg 2024?
Fe wnaeth arolwg 2024 ddarganfod fod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud nag yn 2023, ond mae eu llesiant yn waeth na chyfartaledd y DU.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein harolygon blaenorol, gallwch edrych yn ôl ar y canfyddiadau trwy glicio ar y dolenni canlynol.
Dweud Eich Dweud 2024
Darganfyddwch canfyddiadau arolwg 2024.
Dweud Eich Dweud 2023
Darganfyddwch canfyddiadau arolwg 2023.
Rydyn ni hefyd wedi defnyddio'r canfyddiadau i greu gyfres cipolwg sy'n crynhoi ac yn amlygu gwybodaeth allweddol am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i'n gwefan Grŵp Gwybodaeth i ddarganfod mwy am y canlynol:
Angen mwy o wybodaeth?
Efallai byddwch chi'n dod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio am yn ein cwestiynau cyffredin.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch SCWsurvey@bathspa.ac.uk.