Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Ond maen nhw hefyd yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol gan y cyhoedd ac nad ydyn nhw'n cael digon o dâl am y gwaith maen nhw'n ei wneud, yn ôl ein harolwg o'r gweithlu cofrestredig.
Er bod 76 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y rhai y maent yn gofalu amdanynt, dim ond 44 y cant sy'n dweud yr un peth am y cyhoedd yn gyffredinol, a 48 y cant am asiantaethau partner fel staff iechyd a'r heddlu.
Dim ond 26 y cant o bobl gofrestredig sy’n fodlon ar lefel gyfredol eu cyflog, a dywed 33 y cant eu bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol.
Gweithion ni gyda chwmni o’r enw Opinion Research Services (ORS) i dreialu’r arolwg, a oedd yn gofyn cwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector.
Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023. Ymatebodd cyfanswm o 3,119 o weithwyr gofal cymdeithasol (chwech y cant o'r gweithlu cofrestredig), o ystod eang o rolau.
Fe wnaethon ni bwysoli'r canlyniadau i weld beth y gallent ei ddweud wrthym am farn y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig cyfan yng Nghymru.
Dywed y rhan fwyaf eu bod wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl (63 y cant), ond mae mwy na chwarter yn honni eu bod yn debygol o adael y sector yn y 12 mis nesaf (26 y cant).
Y rheswm mwyaf cyffredin a roddir dros ddisgwyl gadael yn y 12 mis nesaf yw cyflog isel (66 y cant), tra bod teimlo’n orweithio (54 y cant) ac amodau cyflogaeth neu waith gwael (40 y cant) hefyd yn ffactorau arwyddocaol.
Er gwaethaf yr heriau y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, dywed 65 y cant fod eu morâl yn dda naill ai drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser.