Gwybodaeth a chyngor ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr a dysgwyr ar beth i ddisgwyl o gwblhau ac asesu cymwysterau galwedigaethol mewn iechyd a gofal cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Mae’r term rheolwr yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rheolwyr, motorau, rheolwyr llinell neu oruchwylwyr - sy’n cefnogi dysgwyr.
Ar gyfer pwy mae'r canllaw yma?
Mae'n dweud wrth dysgwyr a chyflogwyr beth gellir ei ddisgwyl o ran y gefnogaeth ar gyfer asesu a chwblhau'r cymwysterau galwedigaethol.
Mae’n crynhoi’r wybodaeth sydd ar gael ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.
Gellir gweld gwybodaeth am gynnwys, strwythurau a threfniadau asesu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal, dysgu a datblygiad plant ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.
Rydym yn diweddaru ein canllawiau yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu arferion cyfredol a gorau.
Sut mae’r cymwysterau yn cael eu darparu?
Darperir y rhan fwyaf o'r cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant gan ddarparwyr dysgu a gymeradwywyd gan gonsortiwm sy'n cynnwys City and Guilds a CBAC (y consortiwm). Mae’r consortiwm yn rheoli’r ansawdd o ddarparu’r cymwysterau. Goruchwylir y rhain gan y rheoleiddiwr sef Cymwysterau Cymru.
Mae disgwyliad clir gan y Consortiwm y bydd pob darparwr dysgu yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr a dysgwyr.
Mae rhai cymwysterau galwedigaethol yn cael eu darparu gan Sefydliadau Addysg Uwch (SAU). Mae sicrwydd ansawdd y rhain yn cael ei ddarparu gan Y Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau y DU.
Mae modd cwblhau’r holl gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg, neu mae modd cwblhau cymhwyster yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys unrhyw addysgu neu ddysgu yn ogystal ag unrhyw asesiadau sy'n digwydd. Ni fydd unrhyw oedi yn y broses, pa bynnag iaith a ffefrir.
Sut mae cymwysterau'n cael eu hasesu?
Mae pob cymhwyster ychydig yn wahanol yn ôl y lefel a’r diben, ond maent yn dilyn patrwm tebyg:
- fe fydd aseswr yn cynnal asesiad cychwynnol o'r dysgwr a fydd yn cymharu swyddogaethau ei swydd â gofynion y cymhwyster. Bydd hefyd yn gwirio a oes gan y dysgwr unrhyw anghenion ychwanegol y byddai angen iddo fod yn ymwybodol ohonynt i gefnogi ei lwyddiant yn cyflawni’r cymhwyster
- fe fydd y cyflogwr neu'r rheolwr, y dysgwr a'r asesydd yn cwrdd i sicrhau bod pawb yn deall y disgwyliadau ac i ddewis unrhyw unedau neu lwybrau dewisol i'w cwblhau
- fe fydd y cyflogwr neu'r rheolwr, y dysgwr a'r asesydd yn cytuno ar gynllun dysgu gyda cherrig milltir allweddol
- fe fydd darparwr dysgu a’r cyflogwr yn rhoi cymorth dysgu i'r dysgwr
- mae’r aseswr yn cynnal asesiad ffurfiannol i wneud yn siwr fod y dysgwr yn barod ar gyfer yr asesiad ffurfiol - ni fydd y dysgwr yn cael ei gyflwyno ar gyfer asesiad ffurfiol nes bod pawb yn hyderus ei fod yn barod.
Mae asesiad ffurfiannol yn sicrhau eu dealltwriaeth gan eu bod yn dysgu gan ddefnyddio gweithgareddau fel asesiadau byr, astudiaethau achos, cwestiynnau aml ddewis neu gwisiau.
Mae asesiad ffurfiol yn cael ei gwblhau drwy dasgau strwythuredig a gosodwyd gan y consortiwm er mwyn i’r dysgwr allu cyflawni’r cymhwyster. Mae’r rhain yn gallu cynnwys gwaith ysgrifenedig ac arsylwi ymarfer.
Mae gan bob cymhwyster elfen gref o fyfyrio wedi'i wreiddio yn y tasgau asesu ffurfiannol a ffurfiol.
Canllawiau ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr
Pam y dylwn i gefnogi fy ngweithwyr i ennill cymwysterau?
Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol hefyd yn disgwyl i gyflogwyr ‘ddarparu a chefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu gwybodaeth a'u medrau.’
Gall ymgeisio am gymwysterau a'u cyflawni fod yn brofiad gwerth chweil i weithwyr. Mae ennill cymhwyster yn cydnabod arferion y gweithiwr a pha mor gymhleth yw’r gwaith
Mae’n gallu eu helpu i ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau angenrheidiol er mwyn dod yn weithwyr hyderus a brwdfrydig, sy’n gallu datblygu gwasanaeth o ansawdd da a sicrhau y gellir cefnogi pobl sy'n defnyddio eich gwasanaethau i fyw bywydau bodlon.
Ar gyfer rhai rolau ym maes gofal cymdeithasol mae’n ofynnol cyflawni cymhwyster er mwyn gallu cofrestru’n broffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu er mwyn cydymffurfio â rheoliadau (Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).
Ar gyfer rhai rolau o fewn y blynyddoedd cynnar a gofal plant mae gofynion i fodloni polisi Llywodraeth Cymru neu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Mae manylion y rhain ar y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru.
Beth mae disgwyl i chi wneud?
Bydd angen eich cefnogaeth a’ch amser chi ar eich gweithiwr er mwyn iddo gyflawni ei gymhwyster yn llwyddiannus. Bydd disgwyl i chi:
- greu diwylliant ac amgylchedd sy'n cefnogi dysgu a datblygu
- rhoi amser a chyfle sydd ei angen i weithwyr ar gyfer addysgu a dysgu
- rhyddhau gweithwyr ar gyfer unrhyw asesiad o'u cymhwyster
- rhoi cyfleoedd i drafod cynnydd eich gweithiwr ac ymarfer ei sgiliau
- pennu mentor neu oruchwyliwr a all gefnogi'r gweithiwr wrth iddo gyflawni’r cymhwyster, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer asesu
- bod yn gyfarwydd â chynnwys, strwythur a phrosesau asesu'r cymhwyster
- gweithio mewn partneriaeth â'ch gweithiwr a'r asesydd i sicrhau bod yr uned/unedau neu'r llwybr/au dewisol a ddewisir yn adlewyrchu’r rôl
- mynd ati’n gynnar yn y broses o gwblhau’r cymhwyster, i ddwyn i sylw’r gweithiwr a'r asesydd unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod gan y gweithiwr neu broblemau o ran cael mynediad at TG, er enghraifft. Gall Cymunedau Digidol Cymru ddarparu cymorth, arweiniad a mynediad at offer TG
- rhoi adborth i'r asesydd ar ymarfer y gweithiwr lle bo angen – efallai y bydd yr asesydd yn gofyn i chi arsylwi ymarfer a chael trafodaeth ddilynol os bydd amgylchiadau'n ei atal rhag cael mynediad i'r lleoliad gwaith i gwblhau arsylwadau
- cyfrannu'n weithredol at drafodaethau gyda'r asesydd ynghylch cynlluniau ar gyfer asesu cymhwysedd a'r tasgau y bydd angen i'r gweithiwr eu cwblhau
- gweithio mewn partneriaeth â'ch gweithiwr a'r asesydd i sicrhau fod y gweithiwr yn barod i gael ei asesu’n ffurfiol ar gyfer y cymhwyster
- trafod gyda'r asesydd unrhyw bryderon sy’n codi ynghylch a yw’r gweithiwr yn barod ar gyfer asesiad
- galluogi’r gweithiwr i gyflawni ar ei orau er mwyn ennill y cymhwyster.
- hclw.customer@cityandguilds.com os yw’r cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan City and Guilds
- hscandcc@wjec.co.uk os yw’r cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan CBAC.
Dylech ddisgwyl i'ch gweithiwr ddangos brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu, ac ymrwymo i'r amser a'r ymdrech sydd ei angen i gyflawni'r cymhwyster.
Dylech beidio bychanu faint byddedd ynghlwm yn cefnogi eich gweithiwr i gwblhau eu cymhwyster. Fe fydd yn rhaid i chi fod ynghlwm yn y boroses o’r cychwyn i’r diwedd.
Canllawiau i ddysgwyr
Pam mae angen i chi gael cymhwyster?
Gall cwblhau cymhwyster fod yn brofiad gwerth chweil i weithwyr. Mae’n gallu eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau angenrheidiol er mwyn dod yn weithiwr hyderus a brwdfrydig. Mae ennill cymhwyster yn cydnabod eich ymarfer a chymhlethdod eich gwaith.
Trwy gyflawni cymwysterau, gall hyn gefnogi a datblygu gwasanaeth o ansawdd da a sicrhau y gellir cefnogi pobl sy'n defnyddio eich gwasanaethau i fyw bywydau bodlon.
Mae’n ofynnol cyflawni cymhwyster ar gyfer rhai rolau ym maes gofal cymdeithasol er mwyn gallu cofrestru’n broffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu er mwyn cydymffurfio â rheoliadau (Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).
Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol hefyd yn disgwyl i chi fod yn ‘atebol am ansawdd eich gwaith a chymryd cyfrifoldeb dros gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau.’
Ar gyfer rhai rolau o fewn y blynyddoedd cynnar a gofal plant mae gofynion i fodloni polisi Llywodraeth Cymru neu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Mae manylion y rhain ar y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru.
Beth mae disgwyl i chi ei wneud?
Mae'n bwysig iawn eich bod yn ymrwymo i gwblhau eich cymhwyster yn llwyddiannus. Bydd hyn yn gofyn i chi roi o’ch amser, eich egni a’ch ymdrech.
Bydd angen amser a chefnogaeth arnoch i gan eich cyflogwr neu rheolwr ac asesydd i gwblhau eich cymhwyster yn llwyddiannus. Bydd disgwyl i chi:
- gwblhau’r tasgau a'r gweithgareddau dysgu a bennir ar eich cyfer gan eich asesydd gan ddefnyddio eich gwaith eich hun ac nid gwaith pobl eraill
- ymarfer eich sgiliau a thrafod eich cynnydd gyda'ch rheolwr neu oruchwyliwr a'ch asesydd
- bod yn gyfarwydd â chynnwys, strwythur a phrosesau asesu'r cymhwyster rydych chi’n ei gyflawni
- gweithio mewn partneriaeth â'ch rheolwr / goruchwyliwr a'ch asesydd i sicrhau bod yr uned/unedau neu'r llwybr/au dewisol a ddewisir yn adlewyrchu eich rôl
- cyfrannu'n weithredol at drafodaethau gyda'ch rheolwr / goruchwyliwr a'ch asesydd ynghylch cynlluniau ar gyfer asesiad ffurfiol eich cymhwysedd a'r tasgau y bydd angen i chi eu cwblhau
- gweithio mewn partneriaeth â'ch rheolwr / goruchwyliwr a'ch asesydd i sicrhau eich bod yn barod i gael eich asesu’n ffurfiol ar gyfer y cymhwyster
- gadewch i'ch rheolwr / goruchwyliwr a'ch asesydd wybod os ydych yn teimlo nad ydych yn barod ar gyfer cael eich asesu’n ffurfiol ar gyfer y cymhwyster
- trafod ar ddechrau'r broses gymwysterau gyda'ch rheolwr / goruchwyliwr os oes gennych unrhyw anghenion o ran mynediad i TG neu anghenion dysgu ychwanegol
- sicrhau eich bod yn adlewyrchu gwerthoedd ac egwyddorion y sector gan gynnwys unrhyw Godau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer eich rôl drwy gydol eich holl ddysgu ac ymarfer
- sicrhau preifatrwydd a chyfrinachedd unigolion, plant a phobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
- hclw.customer@cityandguilds.com os yw’r cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan City and Guilds
- hscandcc@wjec.co.uk os yw’r cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan CBAC.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan eich cyflogwr neu rheolwr?
Dylech gael eich cefnogi drwy holl broses eich cymhwyster gan eich cyflogwr neu rheolwr.
Dylai hyn gynnwys:
- creu diwylliant ac amgylchedd sy'n cefnogi eich dysgu a'ch datblygiad
- neilltuo amser a chyfle i ddysgu a datblygu
- caniatâd i’ch rhyddhau ar gyfer unrhyw asesiad ffurfiolo o'ch cymhwyster
- darparu cyfleoedd cyson i drafod eich cynnydd ac i ymarfer eich sgiliau
- cael mentor neu oruchwyliwr a all eich cefnogi drwy holl broses eich cymhwyster
- bod yn gyfarwydd â chynnwys, strwythur a phrosesau asesu'r cymhwyster rydych yn ei gyflawni
- gweithio mewn partneriaeth â chi a'ch asesydd i sicrhau bod yr uned/unedau neu'r llwybr/au dewisol a ddewisir yn adlewyrchu eich rôl
- cyfrannu'n weithredol at drafodaethau gyda chi a’ch asesydd ynghylch cynlluniau ar gyfer asesu eich cymhwysedd a'r tasgau y bydd angen i chi eu cwblhau
- gweithio mewn partneriaeth â chi a'ch asesydd i sicrhau eich bod yn barod i gael eich asesu’n ffurfiol ar gyfer y cymhwyster
- rhoi adborth i'ch asesydd ar eich ymarfer lle bo angen – efallai y gofynnir i’r cyflogwr arsylwi ar eich ymarfer a chael trafodaeth ddilynol os yw amgylchiadau'n atal yr asesydd rhag cael mynediad i'ch lleoliad gwaith i gwblhau arsylwadau.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan eich asesydd?
Mae eich asesydd yn gyfrifol am eich cefnogi drwy'r holl broses sydd ei hangen i gwblhau eich cymhwyster. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cyfarfod â chi'n rheolaidd i gynllunio eich dysgu a'ch asesu ac adolygu eich cynnydd. Dylai eich rheolwr / goruchwyliwr fod yn rhan o hyn hefyd.
- Sicrhau bod y gwaith a wnewch yn eich rôl yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni'r cymhwyster.
- Sicrhau bod gennych ran weithredol yn y gwaith o gefnogi eich dysgu eich hun.
- Ynghyd â chi a’ch rheolwr / goruchwyliwr, bydd yr asesydd yn cytuno ar adeg i gynnal yr asesiad ffurfiol a sicrhau bod asesiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad a gytunwyd sy’n gyfleus i chi.
- Cynnig eich bod yn cwblhau'r cymhwyster naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg heb fod hynny’n creu anfantais. Gall hyn olygu eich bod yn cwblhau'r cymhwyster cyfan neu unrhyw ran ohono.
- Ymateb i gwestiynau, ymholiadau neu bryderon am y cymhwyster a'r broses asesu.
- Eich cefnogi gydag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi'u nodi.
- Bydd angen i'ch asesydd fodloni'r gofynion ar gyfer asesu'r cymhwyster rydych yn ei gyflawni a nodir gan y consortiwm, ni all yr asesydd newid y rhain.
Help a gwybodaeth am y cymwysterau
Beth gwllwch chi ei wneud os rydych chi’n anhapus gyda’r hyn sy’n digwydd neu sydd wedi digwydd gyda'r cymhwyster?
Os hoffech godi pryder neu os hoffech wneud cwyn am eich asesydd am unrhyw reswm:
- hclw.customer@cityandguilds.com os yw’r cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan City and Guilds
- hscandcc@wjec.co.uk os yw’r cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan CBAC
Ewch i wefan Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru i weld pa gorff dyfarnu sy'n gyfrifol am ba gymhwyster.
Mwy o wybodaeth am y cymwysterau
Mae cynnwys y cymwysterau, y strwythurau a'r ffordd y cânt eu hasesu a’r gofynnion ar gael ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.
Mae gwybodaeth ar Fframweithiau Prentisiaeth ar gael ar ein tudalen Fframwaith Prentisiaethau.