Jump to content
Aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol

Beth yw aeddfedrwydd data?

Mae ‘aeddfedrwydd data’ yn cyfeirio at barodrwydd sefydliad i wneud y defnydd gorau o’r data sydd ganddo.

Beth wnaethon ni?

Fe wnaethon ni gomisiynu cwmni o’r enw Alma Economics i gynnal asesiad aeddfedrwydd data annibynnol o holl awdurdodau lleol Cymru.

Cwblhaodd yr awdurdodau lleol holiadur am wahanol agweddau ar eu swyddogaethau data gofal cymdeithasol. Yna cafodd pob awdurdod adroddiad cryno a oedd yn rhoi cyngor ar y camau y gallai eu cymryd i wella ei aeddfedrwydd data ei hun.

Defnyddiodd Alma Economics hefyd yr asesiadau gan bob un o’r 22 awdurdod lleol i lunio adroddiad cenedlaethol sy’n rhoi trosolwg o dirwedd data gofal cymdeithasol Cymru. Mae’r awdurdodau lleol yn ddienw yn yr adroddiad hwn.

Roedd yr holiadur hefyd yn archwilio parodrwydd y sector i integreiddio data gofal cymdeithasol â data gofal iechyd drwy’r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR), a fyddai’n golygu bod yn gydnaws â safonau Adnoddau Rhyngweithredu Gofal Iechyd Cyflym (FHIR).

Mae safonau FHIR yn ffordd sydd wedi ei gydnabod yn rhyngwladol o ddisgrifio data gofal iechyd ac maen nhw wedi cael eu dewis hefyd gan bedair gwlad y DU.

Darganfod mwy am FHIR

Gallwch ddarganfod mwy am safonau FHIR a pham eu bod yn bwysig i ofal cymdeithasol mewn blog ar ein gwefan Grŵp Gwybodaeth.

Pam wnaethon ni cynnal asesiad aeddfedrwydd data?

Ein nod yw cefnogi darparwyr gofal cymdeithasol i ddeall sut y gallant wneud y defnydd gorau o’r data sy’n cael ei gasglu, ei brosesu a’i rannu fel rhan o’u darpariaeth gofal, gan ddechrau gydag awdurdodau lleol.

Mae deall aeddfedrwydd data eich sefydliad yn eich galluogi i wybod ble i ganolbwyntio'ch adnoddau i wneud y defnydd gorau o'r data rydych chi'n ei gasglu.

Mae dod yn fwy medrus yn y modd rydyn ni'n defnyddio'r data rydyn ni'n casglu yn y pen draw yn arwain at well gwasanaethau. Mae'n gwneud hyn drwy roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae bod yn well gyda data hefyd yn arwain at amgylchedd gwaith gwell i'ch staff wrth iddyn nhw ddod yn fwy hyderus a grymus i ddefnyddio'r wybodaeth sydd gennych yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Nid yw hyn yn ymwneud â chasglu data newydd, ond gwneud gwell defnydd o’r data rydyn ni eisoes yn ei gasglu.

Beth ddarganfyddodd yr ymchwil?

Fe wnaeth yr ymchwil darganfod bod data’n cael ei ystyried yn eang fel blaenoriaeth graidd i awdurdodau lleol, tra bod gan y rhan fwyaf brosesau casglu data cadarn ar waith ac yn defnyddio data i ddylanwadu ar lunio polisïau.

Ond roedd yr adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w gwella. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i gynyddu sgiliau ac adnoddau i wneud y gorau o ddata gofal cymdeithasol, gwneud systemau data yn fwy hawdd eu defnyddio ac yn gydnaws, a sicrhau bod data’n cael ei rannu’n effeithiol â sefydliadau eraill.

Ymhlith y canfyddiadau yn ymwneud â chydnawsedd FHIR oedd nad yw llawer o awdurdodau lleol wedi datblygu arferion cyfnewid data cadarn eto, tra bod y rhan fwyaf yn dal i ddibynnu ar fformatau data â llaw a lled-strwythuredig fel Excel (96 y cant) a Word neu PDF (72 y cant) i gyfnewid data.

Beth oedd yr adroddiad yn ei argymell?

Mae’r adroddiad yn cydnabod y bydd cyllid ychwanegol a chydweithio ar draws y sector yn bwysig i gynyddu aeddfedrwydd data mewn gofal cymdeithasol a chyflawni ei argymhellion, sy’n cynnwys:

  • ehangu'r asesiad aeddfedrwydd data i sefydliadau gofal cymdeithasol eraill
  • gan adeiladu ar ein Datganiad o fwriad strategol, dylai’r sector ddatblygu strategaeth ddata a map ffordd yn amlinellu camau gweithredu clir i wella aeddfedrwydd data
  • dylid datblygu ‘geiriadur data’ sector cyfan, i safoni diffiniadau o ddata gofal cymdeithasol craidd
  • dylid monitro aeddfedrwydd data dros amser trwy asesiadau dilynol neu offer hunanasesu
  • dylai sefydliadau gofal cymdeithasol ddatblygu cynlluniau gweithredu aeddfedrwydd data unigol, wedi'u llywio gan strategaethau sector cyfan ac asesiadau unigol.

Gwnaeth yr adroddiad argymhellion pellach yn benodol ar gyfer cefnogi cydnawsedd â FHIR, sy’n cael ei ynganu fel y gair ‘fire’, gan gynnwys:

  • codi ymwybyddiaeth o'r NDR yn y sector gofal cymdeithasol
  • cynnal adolygiad cydnawsedd FHIR
  • cydweithio i greu cynllun gweithredu ar gyfer cyflawni cydweddoldeb FHIR, a sefydlu gweithgor amlddisgyblaethol i oruchwylio ei weithrediad
  • gweithio gyda chyflenwyr systemau i alinio systemau data â safonau FHIR
  • cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am safonau FHIR trwy hyfforddiant a digwyddiadau wedi'u targedu
  • datblygu set o adnoddau FHIR a rennir i gefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau gofal cymdeithasol eraill ar eu ffordd i gydnawsedd FHIR.

Rydyn ni’n siarad â’n partneriaid am sut gallwn ni gydweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad.

Darllen yr adroddiad

Gallwch ddarllen yr adroddiad ar ein gwefan Grŵp Gwybodaeth.

Darganfod mwy

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith aeddfedrwydd data, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Awst 2023
Diweddariad olaf: 18 Gorffennaf 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (42.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch