Adnodd yw Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu i helpu i fonitro profiad pobl o leiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ar y cyd â Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad gofal cymdeithasol cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG).
Roedd 56,475 o weithlu gofal cymdeithasol wedi eu cofrestru yng Nghymru yn 2024. Mae’r adroddiad yn edrych ar y data yma, ynghyd â chanfyddiadau ein harolwg blynyddol ‘Dweud Eich Dweud’.
Mae’r adroddiad yn dangos:
- er gwaethaf yr awydd i geisio dilyniant gyrfa, mae staff gofal cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol wedi'u tangynrychioli mewn swyddi rheoli
- roedd staff Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o adrodd diffyg hyfforddiant ychwanegol i gefnogi dilyniant gyrfa o'i gymharu â'u cymheiriaid Gwyn
- roedd gweithwyr cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn fwy tebygol na'u cyfoedion Gwyn i adrodd eu bod yn profi gwahaniaethu.
Darllen yr adroddiad
Darllenwch adroddiad gofal cymdeithasol Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu 2024 yma.
Beth yw Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu?
Adnodd yw Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu i helpu i fonitro profiad pobl o leiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Wedi’i oruchwylio gan Lywodraeth Cymru, mae'r adnodd yn dod â data am y gweithlu ynghyd ac yn ei ddadansoddi o dan bedwar categori:
- arweinyddiaeth a dyrchafiad
- datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac hyfforddiant
- disgyblaeth a gallu
- bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.
Mae'r adnodd yn amlygu lle mae gwahaniaethau’n bodoli ym mhrofiadau staff Gwyn, Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd hyn yn cefnogi sefydliadau i dargedu camau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion mwyaf a gwella profiadau'r gweithlu lleiafrifoedd ethnig.
Bydd gwella profiad staff lleiafrifoedd ethnig yn gwella profiad yr holl staff. O ganlyniad, gall helpu i wella canlyniadau i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gan gefnogi nodau Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Pam fod angen Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yng Nghymru?
Yn 2021, cynigiodd Llywodraeth Cymru y syniad o gyflwyno Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd hyn fel rhan o'i ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil: Cymru Wrth-hiliol i ymdrin â data gweithlu gwael hanesyddol ar wahaniaethau hiliol.
Yn ystod yr ymgynghoriad, cododd staff gofal cymdeithasol a GIG Cymru faterion gan gynnwys:
- prosesau recriwtio a dyrchafu sydd yn aml yn gwahaniaethu yn erbyn grwpiau ethnig leiafrifol
- rhwystrau sy’n atal staff ethnig leiafrifol rhag symud i lefelau arweinyddiaeth, a diffyg cynrychiolaeth ar y lefelau hynny
- iaith ac aflonyddu annerbyniol yn digwydd heb iddyn nhw gael eu herio.
- y ffaith ei bod yn fwy tebygol bod cwynion ffurfiol yn cael eu gwneud yn erbyn staff ethnig leiafrifol a bod y staff hynny’n mynd trwy brosesau disgyblu, o’i gymharu â chydweithwyr gwyn
- cyfran uwch o staff ethnig leiafrifol yn adrodd am achosion o fwlio, aflonyddu neu gam-drin hiliol
- diffyg hyder o ran mynd i’r afael â hiliaeth neu arferion hiliol ymysg yr holl staff a defnyddwyr gwasanaeth, gyda diffyg gweithredu pan fydd cwynion yn cael eu gwneud
- nid yw staff yn teimlo’n ddigon diogel i siarad yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil ac arferion hiliol
- nid yw staff yn teimlo’n ddigon diogel a hyderus i ddarparu data ar ethnigrwydd
- nid yw digwyddiadau sy’n gysylltiedig â hil yn cael eu cofnodi
- diffyg prosesau archwilio strwythuredig mewn sefydliadau o ran profiadau sy’n ymwneud â gwahaniaethu
- diffyg eglurder ynghylch cyfrifoldeb ac atebolrwydd ar gyfer gwella cydraddoldeb hil ymysg y gweithlu
- diffyg hyfforddiant gwrth-hiliol gorfodol priodol.
Ar ôl yr ymgynghoriad, ailenwyd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil yn Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’i gyhoeddi ym mis Mehefin 2022.
Mae datblygu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a bydd yn helpu i gyflawni'r nodau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y cynllun.
Sut mae'n gweithio?
Mae data am ethnigrwydd ac anfantais sy’n gysylltiedig â rhyw yn cael eu coladu, eu rhannu a’u defnyddio’n dryloyw gan Lywodraeth Cymru fel mater o drefn.
Bydd hyn yn ein helpu i leihau anghydraddoldebau a rhoi’r hyder i bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth a’r gweithlu sy’n ei ddarparu fod gofal cymdeithasol yng Nghymru yn amgylchedd gwrth-hiliol a diogel.
Bydd Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn ffordd o fesur effaith camau gweithredu ehangach yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i wneud yn siŵr bod Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
Pa ddata sy'n cael ei ddefnyddio?
Rydyn ni eisoes yn casglu gwybodaeth am y gweithlu trwy ein casgliadau data'r gweithlu blynyddol, gan gynnwys data am rolau, rhyw ac ethnigrwydd, ac mae ein harolygon Dweud Eich Dweud yn cofnodi profiadau gweithwyr.
Mae data ddienw o'r ddau yn cael eu defnyddio fel rhan o Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu. Does neb yn adnabyddadwy yn y broses o ddadansoddi’r data rydyn ni'n ei gasglu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu fideo sy'n esbonio sut mae'r data sy'n cael ei gasglu ar gyfer Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn cael ei gadw'n anhysbys ac yn anadnabyddadwy. Mae fersiwn Iaith Arwyddion Prydain hefyd ar gael.
Hyrwyddwch Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn eich gweithle
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu poster dwyieithog gallwch chi ei ddefnyddio yn eich gweithle i rannu gwybodaeth am Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu.
Mae'r poster ar gael am ddim i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio.
Darganfod mwy
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu fideo i esbonio Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu. Gallwch chi wylio'r fideo ar ei sianel YouTube. Mae fersiwn Iaith Arwyddion Prydain hefyd ar gael.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut y bydd Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn cael ei gymhwyso ym maes gofal cymdeithasol, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.