Sut rydyn ni'n gweithio
Rydym yn disgwyl i’n staff, aelodau’r bwrdd, ac unrhyw un sy’n gweithio ar ein rhan, ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos ein gwerthoedd.
Mae ein gwerthoedd yn golygu:
- parchu pawb - ystyried pobl fel unigolion a thrin pawb ag urddas a pharch.
- arddel agwedd broffesiynol - gweithredu’n gyfrifol ac yn y ffordd iawn, gan ddal ein gilydd i gyfrif
- rydym bob amser yn dysgu – credwn mewn gwella ein hunain a chynorthwyo eraill i fod y gorau y gallwn fod
- cynnwys pobl - rydym yn annog a galluogi pawb i weithio gyda’i gilydd.
Rydyn ni wedi ymrwymo i'r canlynol:
- bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog
- gwerthfawrogi amrywiaeth a gwella cyfleoedd i bawb
- cynnwys pobl Cymru yn y ffordd rydym yn gweithio
- gwrando ar adborth
- gosod safonau uchel o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
- cyhoeddi a chael gafael ar wybodaeth
- gwella ein perfformiad ein hunain.