Jump to content
Adnoddau'r iaith Gymraeg i'r blynyddoedd cynnar a gofal plant

Dyma ddolenni defnyddiol i adnoddau sy'n ymwneud â'r Gymraeg ac hefyd fideo o mam a mab yn egluro manteision gofal meithrin drwy'r Gymraeg.

Astudiaeth achos: Pam wnes i ddewis gofal meithrin Cymraeg

Mae'r fideo yma'n dangos mam a mab yn son am bwysigrwydd mynychu meithrinfa ac ysgol Gymraeg. Maen nhw'n siarad am yr effaith uniongyrchol y mae wedi'i gael arnyn nhw fel teulu.

Adnoddau ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant

  • Mae'r Cyrsiau Camau yn gyrsiau Cymraeg Gwaith pwrpasol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.
  • Mae'r adnoddau CWLWM yn gymorth ar gyfer cynnwys dysgu cyrsiau Camau.
  • Nod addewid Cymraeg Clybiau (gyda chefnogaeth ymarferol Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs) yw cefnogi eich lleoliad o’r cam cyntaf (Efydd) drwodd i’r cam terfynol (Aur).

Apiau ar gyfer hyfforddiant

Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein am ddim ar gyfer dechreuwyr sydd wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes gofal. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i gael sgwrs wyneb yn wyneb cychwynnol yn Gymraeg â’r bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

Mae’r cwrs Camau | Dysgu Cymraeg yn gwrs hunan-astudiaeth, sy’n addas i ddechreuwyr ac sydd wedi’i hariannu’n llawn gan y Ganolfan Dysgu Gymraeg Cenedlaethol.

Mae Sgiliaith (Grwp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arfer da, hyfforddiant staff ac adnoddau, i wella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng Cymraeg. Mae ganddyn nhw adnoddau i gefnogi dysgwyr sydd â'r cymwysterau CCPLD a HSC newydd ac maen nhw'n cynnig cyrsiau 'Prentis-iaith' i brentisiaid sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd. Maen nhw'n galluogi prentisiaid i gwblhau rhan o'u cymhwyster HSC / CCPLD yn Gymraeg.

Mae cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn swigen oren yn dangos eich bod yn siarad Cymraeg.

Mae Clwb Cwtsh yn adnodd sy’n cyflwyno geirfa Cymraeg i rieni a gofalwyr allu defnyddio gyda phlant. Gwyliwch fideo am Clwb Cwtsh ar sianel YouTube Mudiad Meithrin.

    Sefydliadau arall

    Mudiad Meithrin

    Mae Mudiad Meithrin yn darparu profiadau chwarae a dysgu i blant o’u genedigaeth hyd at oedran ysgol.

    Tudalen YouTube Mudiad Meithrin

    Mae tudalen YouTube Mudiad Meithrin yn cynnwys amryw o adnoddau Cymraeg.

    Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg

    Mae’r modiwl hwn yn rhoi ymwybyddiaeth o pam mae sgiliau Cymraeg a gweithio’n ddwyieithog yn bwysig. Mae hefyd yn cyfeirio at adnoddau pellach sy'n darparu cymorth.

    Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru (plant a phobl ifanc)

    Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i archwilio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru i blant a phobl ifanc

    Asesu a chofnodi sgiliau iaith eich staff

    Bydd yr adnoddau hyn yn eich galluogi i ganfod pa sgiliau iaith Gymraeg sydd gennych eisoes yn eich gweithlu

    Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Gorffennaf 2024
    Diweddariad olaf: 24 Mawrth 2025
    Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (32.5 KB)
    Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch