Jump to content
Gwrandawiadau sydd i ddod

Bydd manylion gwrandawiadau sydd i ddod yn ymddangos yma saith diwrnod cyn i'r gwrandawiad gael ei gynnal.

Gall pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y wasg a'r cyhoedd arsylwi gwrandawiadau terfynol cyhoeddus y panel addasrwydd i ymarfer.

Cynhelir rhai gwrandawiadau yn breifat os oes tystiolaeth yn cael ei hystyried na ddylid ei gwneud yn gyhoeddus. Dim ond canlyniadau'r gwrandawiadau yma fydd yn cael eu cyhoeddi.

Os hoffech chi arsylwi gwrandawiad, cysylltwch â ni ar 02920 780640 neu trwy e-bostio gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru.

Os oes gennych chi ymholiad cyfryngau, danfonwch e-byst i communications@socialcare.wales.

Atgoffir y cyfryngau o’r angen i gadw at God Ymarfer y Golygyddion a gyhoeddwyd gan Sefydliad Safonau’r Wasg Annibynnol (IPSO) ac yn benodol na ddylid enwi plant dan 16 oed a thystion bregus eraill.

Os ydych chi'n arsylwi gwrandawiad, cofiwch:

  • cynhelir pob gwrandawiad trwy Zoom. Bydd angen mynediad at ddyfais gyda'r rhyngrwyd i arsylwi ar y gwrandawiad. Byddwn ni’n anfon y ddolen Zoom atoch chi pan fyddwch yn cadarnhau eich presenoldeb. Dysgwch fwy am ddefnyddio Zoom yn ystod gwrandawiad
  • bydd pob gwrandawiad yw dechrau am 9am, oni nodir yn wahanol
  • mewngofnodwch o leiaf 15 munud cyn i'r gwrandawiad dechrau i osgoi unrhyw oedi i'r gwrandawiad
  • os byddwch chi’n mewngofnodi ar ôl i'r gwrandawiad dechrau, efallai ni fyddwch yn gallu ymuno â'r gwrandawiad nes bod egwyl
  • fel arsylwr, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad a gofynnir i chi gadw'ch meic yn fud
  • os byddwch chi’n tarfu ar y gwrandawiad mewn unrhyw ffordd, gofynnir i chi adael y gwrandawiad
  • rhaid i chi beidio â recordio na thynnu lluniau o'r gwrandawiad
  • gellir canslo neu ohirio gwrandawiadau ar fyr rybudd – byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os fydd hyn yn digwydd
  • cynhelir gwrandawiadau yn gyhoeddus, ond gallwn ni a'r person cofrestredig ofyn i wrandawiad cyfan neu ran ohono gael ei gynnal yn breifat. Bydd y panel yn ystyried y ceisiadau hyn ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os cynhelir y cyfan neu unrhyw ran o wrandawiad yn breifat, gofynnir i arsylwyr adael.
  • Rhif cofrestru
    W/5086472
    Dyddiad gwrandawiad
    20/01/2025