Jump to content
Canllaw lleoliad gwaith

Mae profiad o waith ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau gofal plant yn hanfodol i bontio'r bwlch rhwng addysg neu hyfforddiant a byd gwaith. Ar ei orau, gall agor llygaid pobl i swyddi nad oeddent erioed wedi meddwl amdanynt, llywio penderfyniadau gyrfa a darparu profiad gwerthfawr ar gyfer ceisiadau am swydd a mynediad i addysg uwch. Dyma ganllaw i gyflogwyr, darparwyr dysgu a dysgwyr ar leoliadau gwaith.

Dylai'r canllaw hwn gael ei ddarllen ochr yn ochr ag unrhyw bolisïau, gweithdrefnau ac arweiniad ar gyfer lleoliad gwaith a ddarperir gan ddarparwyr dysgu unigol a/neu gyflogwyr. Mae yna gyflwyniad fideo a fydd yn eich tywys trwy'r canllaw lleoliad gwaith hwn.

I gael mwy o wybodaeth am y rolau swyddi sydd ar gael, y cyflogwyr sy'n cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith ac i gwblhau asesiad ar-lein o addasrwydd i weithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gofal plant ewch i wefannau Gyrfaoed GIG Cymru a GofalwnCymru.

  • Cyflogwyr

    Canllawiau a chefnogaeth i'r rhai a allai gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith, gan gynnwys gwarchodwyr plant.
    • Canllaw lleoliad gwaith
  • Darparwyr dysgu

    Canllawiau a chefnogaeth i asiantaethau sy'n ceisio gosod dysgwr mewn gwaith.
    • Canllaw lleoliad gwaith
  • Dysgwyr

    Canllawiau a chefnogaeth i unigolion sy'n ymgymryd â chyfle lleoliad gwaith.
    • Canllaw lleoliad gwaith
  • Adnoddau

    Adnodd digidol wedi ei animeiddio, templedi ar gyfer rhestrau gwirio, cytundebau lleoli gwaith a cofnodau myfyriol i gefnogi lleoliadau gwaith.
    • Canllaw lleoliad gwaith