Jump to content
Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (GCCh)
Share

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu GCCh (y fframwaith) yn nodi’r safonau y dylid eu defnyddio i lywio arfer ar gyfer rheini sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth a/neu gyngor a/neu gymorth ar gyfer gofal a chymorth. Nid yw'r fframwaith yn orfodol ond bwriedir iddo fod yn declyn defnyddiol sy'n helpu awdurdodau lleol i ddatblygu cymhwysedd eu gweithwyr a chyflawni eu rhwymedigaethau statudol.

Cyflwyniad

Swyddogaethau’r ‘ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol’ (YGC) a phersonél gwybodaeth, cyngor a chymorth (GCCh) eraill

Ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol (YGC)

Mae ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol yn ymgymryd â beth yn fras a ellir ei ddisgrifio fel swyddogaeth cymorth gwaith cymdeithasol, darparu cyngor a chwblhau amrywiol agweddau o gynllunio gofal a chefnogaeth (asesu, cynllunio ac adolygu).

Swyddogaeth GCCh ehangach

Mae swyddogaeth GCCh ehangach ychwanegol, o fewn y gwasanaeth GCCh. Gall y gwasanaeth amrywio yn sylweddol yn ei gynllun a’i seilwaith ar draws ac o fewn awdurdodau lleol. Gall gynnwys amrediad o wahanol gyfarwyddiaethau, er enghraifft, gwasanaethau cymdeithasol, tai a gwasanaethau corfforaethol yn ogystal â darpariaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Mae angen i weithwyr ymateb i amrediad eang o geisiadau a nhw yw’r cyswllt cyntaf i’r rhai hynny sy’n holi ynglŷn â gofal a chefnogaeth.

Yn benodol, drwy sgyrsiau medrus, bydd gweithwyr GCCh yn egluro beth y mae pobl yn ei feddwl ac yn archwilio eu dilema er mwyn deall beth sydd o’r pwys mwyaf iddyn nhw a sut orau i’w helpu nhw drwy ddarparu un ai:

Rhoi gwybodaeth – mae hwn yn cynnwys cefnogi pobl drwy ddarparu gwybodaeth o ansawdd da sy’n eu helpu nhw i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â’u llesiant. Gall hyn gynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r system gofal cymdeithasol yn gweithio, argaeledd gwasanaethau a all gynorthwyo eu llesiant ynghyd â sut i gael mynediad atyn nhw, taliadau uniongyrchol, neu wybodaeth ynglŷn ag asesiadau’r gofalwyr.

Darparu cyngor – cam yn uwch o’r ddarpariaeth syml o wybodaeth yw hwn, yn y modd y mae’n cynnwys gweithio gyda phobl er mwyn trafod y dewisiadau sydd ar gael i ddod o hyd i’r atebion gorau ar eu cyfer. Er mwyn darparu cyngor, mae staff yr awdurdodau lleol angen dealltwriaeth ynglŷn â sefyllfaoedd pobl. Gwneir hyn drwy gynnal asesiad cymesur.

Darparu cymorth – os ydych chi’n methu ag ymdrin ag anghenion yr holwr drwy ddarparu gwybodaeth neu gyngor, bydd cymorth yn golygu y bydd unigolyn arall yn gweithredu gyda’r holwr i gael mynediad at ofal a chefnogaeth, neu ofalwr i gael mynediad at gefnogaeth. Gall hyn arwain yr holwr ymlaen i dderbyn neu gynnig asesiad statudol llawn er mwyn penderfynu eu cymhwysedd ar gyfer derbyn gofal a chefnogaeth mwy ffurfiol.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Codau Ymarfer

Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) yn darparu’r sylfaen ar gyfer fframwaith statudol newydd i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion y Ddeddf yw:

  • llais a rheolaeth
  • ataliad ac ymyrraeth gynnar
  • llesiant
  • cydgynhyrchu
  • gweithio amlasiantaethol.

Mae’r gwasanaeth GCCh yn gyfraniad pwysig i gwrdd â’r egwyddorion hyn. O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu gwasanaeth sy’n cynnig:

  • gwybodaeth hygyrch ynglŷn â gofal a chefnogaeth
  • cyngor sy’n briodol ac sy’n dilyn asesiad cymesur
  • cymorth sy’n galluogi unigolion i gael mynediad at y gofal a’r gefnogaeth briodol, gan gynnwys gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar.
Pwysig

Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer Rhan 2 o’r Ddeddf (Swyddogaethau Cyffredinol) yn nodi bod y gwasanaeth GCCh yn ganolog i lwyddiant y trawsnewidiad i’r system gofal a chefnogaeth o dan y Ddeddf. Drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth amserol o ansawdd da, gall pobl o bob oed gael eu cefnogi yn well i ystyried dewisiadau ar gyfer cwrdd â’u hanghenion gofal a chefnogaeth er mwyn cyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddyn nhw.

Yn arbennig, mae’r Côd Ymarfer[1] angen i awdurdodau lleol:

  • ddarparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â:
  • sut mae’r system gofal a chefnogaeth yn gweithredu yn ardal yr awdurdod lleol
  • y mathau o ofal a chefnogaeth sydd ar gael
  • sut i gael mynediad at y gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael
  • sut i godi pryderon ynglŷn â llesiant unigolyn sy’n ymddangos bod ganddo anghenion ar gyfer derbyn gofal a chefnogaeth
  • hyrwyddo ymyrraeth gynnar ac ataliaeth yn rhagweithiol
  • bod yn onest a chroesawus, gyda phwyslais ar eiriolaeth a chydgynhyrchu.
  • hyfforddi staff mewn protocolau diogelu.

Mewn perthynas â staffio’r gwasanaeth GCCh, mae’r Côd Ymarfer[2] angen i awdurdodau lleol:

  • sefydlu tîm sy’n adlewyrchu cymysgedd o sgiliau a phrofiad o amrediad o weithwyr proffesiynol a sectorau
  • datblygu cynllun hyfforddi ar gyfer y gweithlu a ddylai gynnwys staff yn y rheng flaen yn gwethio o fewn y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth a’r gweithlu ehangach
  • sicrhau bod staff wedi derbyn hyfforddiant gyda’r Offeryn Asesiad a Chymhwysedd Cenedlaethol ac mae’n rhaid iddyn nhw allu penderfynu’r angen i deulu, ffrindiau neu unigolion eraill eirioli ar ran yr unigolyn.

Mae Rhan 3 o’r Côd Ymarfer[3] yn gofyn am anghenion penodol mewn perthynas ag asesu'r anghenion:

  • mae’n rhaid i’r holl ymarferwyr sy’n ymgymryd ag asesiadau feddu ar sgiliau, ac wedi’u hyfforddi a’u cymhwyso i ymgymryd ag asesiadau. Mae lefelau priodol o gymwysterau ar gyfer ymgymryd â’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:
    • un ai ymarferydd gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol cofrestredig sy’n meddu ar gymhwyster proffesiynol lefel 5 neu uwch;
    • neu unigolyn sy’n meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol lefel 4 neu uwch, sy’n cynnwys gwybodaeth a sgiliau, yn ymgymryd ag asesiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o dan oruchwyliaeth ymarferydd cofrestredig mewn gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol
  • bydd awdurdod lleol hefyd angen cael ei fodloni bod yr holl staff sy’n ymgymryd â’r gweithgareddau hyn yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd i weithio gyda phlant a phobl ifanc, oedolion a gofalwyr, fel y bo’n briodol.

[1] Rhan 2 o’r Côd Ymarfer, paragraffau 303, 308-310, 326 a 331

[2] Rhan 2 o’r Côd Ymarfer, paragraffau 385-388

[3] Rhan 3 o’r Côd Ymarfer: anghenion asesu

Beth yw’r Fframwaith Cymwyseddau ar gyfer Gweithlu GCCh?

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu GCCh (y fframwaith) yn nodi’r safonau y dylid eu defnyddio i lywio arfer ar gyfer rheini sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth a/neu gyngor a/neu gymorth ar gyfer gofal a chymorth. Nid yw'r fframwaith yn orfodol ond bwriedir iddo fod yn declyn defnyddiol sy'n helpu awdurdodau lleol i ddatblygu cymhwysedd eu gweithwyr a chyflawni eu rhwymedigaethau statudol.

Gellir defnyddio’r safonau yn y fframwaith gan sefydliadau, cyflogwyr a darparwyr dysgu er mwyn:

  • nodi eu hyfforddiant, eu haddysg a’u datblygiad presennol er mwyn sicrhau bod yr holl destunau wedi derbyn ymdriniaeth ddigonol
  • comisiynu neu ddatblygu hyfforddiant, addysg a datblygiad
  • mesur a datblygu’r cymhwysedd y gweithwyr/myfyrwyr/gwirfoddolwyr sydd ynghlwm â gwasanaethau GCCh yn barhaus
  • sicrhau bod cyfrifoldebau statudol yn cael eu cwrdd mewn perthynas â chyrhaeddiad addysg a chymwysterau gweithlu ehangach y GCCh
  • adolygu a/neu ddatblygu polisïau a gweithdrefnau
  • adolygu a/neu ddatblygu swydd-ddisgrifiadau a manylebau.

Adnoddau i gefnogi’r fframwaith

Mae dau gymhwyster ar gael i’r gweithwyr hynny sy’n ymgymryd â swyddogaeth ‘ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol’, ac mae’r ddau fel ei gilydd yn ymdrin â’r holl safonau sydd yn y fframwaith:

  • Tystysgrif AU mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) y Brifysgol Agored
  • Lefel 4 Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol y City and Guilds.

I’r rhai sy’n cyflawni rolau nad yw'n cynnwys ymwneud â chynllunio gofal a chymorth (asesu, cynllunio ac adolygu), mae amrywiaeth o fodiwlau dysgu yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, a fydd ar gael yn rhwydd i awdurdodau lleol ac unrhyw asiantaethau eraill sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddiwallu anghenion pobl. Bydd yr adnoddau dysgu hyn ar gael i'w cyflwyno gan reolwyr a hyfforddwyr mewnol, darparwyr dysgu a gomisiynir neu drwy ddarparwyr dysgu sy'n cynnig y cymhwyster ymarferwr gwasanaethau cymdeithasol. Bydd yr adnoddau dysgu ar gael erbyn diwedd Tachwedd 2022.Nodwch os gwelwch yn dda, byddai cynnwys a manylion yr hyfforddiant, yr addysg a’r datblygiad ar gyfer pob safon yn gwahaniaethu ar draws yr holl lefelau er mwyn adlewyrchu’r swyddogaethau, y cyfrifoldebau a beth mae pobl angen ei wybod a’i wneud.

Nodwch os gwelwch yn dda, byddai cynnwys a manylion yr hyfforddiant, yr addysg a’r datblygiad ar gyfer pob safon yn gwahaniaethu ar draws yr holl lefelau er mwyn adlewyrchu’r swyddogaethau, y cyfrifoldebau a beth mae pobl angen ei wybod a’i wneud.

Rhagwelir y byddai unrhyw hyfforddiant, addysg a datblygiad yn cael ei gyflwyno o fewn cyd-destun y rheoliadau cenedlaethol presennol a’r polisi a’r canllawiau lleol a chenedlaethol.

Mae hon yn ddogfen fyw a gall y safonau a nodir yn y fframwaith gael eu diweddaru wrth i adnoddau gael eu datblygu. Bydd unrhyw fersiynau newydd yn cael eu rhifo a'u dyddio.

Beth sydd yn y fframwaith cymwyseddau?

Mae saith adran yn y fframwaith:

Mae pob adran wedi’i rhannu i gyfres o ganlyniadau a safonau dysgu. Gall y safonau un ai fod yn wybodaeth neu’n ymarfer.

Mae rhywfaint o nodi dangosol yn erbyn y swyddogaethau ‘gwybodaeth, cyngor a chymorth’. Fodd bynnag, dylai pob awdurdod lleol a/neu asiantaeth, farnu yn erbyn swyddogaethau eu gweithwyr.

Sut i ddefnyddio’r fframwaith

Dylai awdurdodau lleol nodi swyddogaethau eu gweithlu GCCh yn erbyn y safonau er mwyn sefydlu pa un a fyddai’n berthnasol i weithwyr unigol. Byddai disgwyl i’r rhai hynny sy’n ymgymryd â swyddogaeth lawn ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol gwrdd â’r holl safonau.

Dylid wedyn defnyddio’r safonau a nodwyd ar gyfer pob gweithiwr i fesur ei gymhwysedd a datblygu rhaglen ddysgu a chefnogi er mwyn cwrdd ag unrhyw fylchau. Byddai hyn yn sicrhau bod proses gadarn ar gyfer pawb sy’n rhan o weithlu GCCh.

Pa fathau o dystiolaeth a ellir eu defnyddio i ddangos bod y safonau wedi cael eu cyflawni?

Gellir defnyddio amrediad o dystiolaeth megis:

  • cymhwyster cyrhaeddiad, er enghraifft, lefel 4 Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
  • mynychu cwrs hyfforddi a myfyrio ar y dysgu wedyn
  • arsylliadau
  • adborth gan eraill, fel unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau / cwsmeriaid, cydweithwyr, mentoriaid ayyb.
  • cyfnod prawf, goruchwyliaeth a chofnodion arfarnu.

Nid oes unrhyw ddisgwyliad y bydd angen ailhyfforddi gweithwyr sydd wedi dangos eu bod wedi cwrdd â’r safonau a nodwyd. Fodd bynnag, efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried defnyddio safonau ymarfer i oleuo prosesau goruchwyliaeth ac arfarnu er mwyn sicrhau bod yr ymarfer yn parhau i gwrdd â’r disgwyliadau. Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn bwysig i bob gweithiwr beth bynnag fo'i rôl.

Cadarnhau’r dystiolaeth

Gall amrediad o bobl arwyddo i gadarnhau bod y safonau a nodwyd wedi cael eu cwrdd. Er enghraifft, rheolwr llinell yr unigolyn, arweinydd gweithlu neu ddarparwr dysgu. Gall timau dysgu a datblygu’r awdurdod lleol ddarparu cyngor, canllawiau a chefnogaeth ar gyfer cadarnhau’r safonau hyn.

Dylai’r gweithiwr a’i reolwr llinell gwblhau’r datganiad terfynol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Mai 2022
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (31.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch