Canllawiau a chefnogaeth i ddysgwyr (disgyblion ysgol a'u rhieni / gofalwyr, myfyrwyr, ceiswyr gwaith, dychweledigion i weithio) ar yr hyn y dylech ei ddisgwyl gan leoliadau gwaith, sut i sicrhau bod y lleoliad yn addas a gwybod beth fydd yn ddisgwyliedig ohono chi.
Manteision lleoliad gwaith
Gall mynediad at leoliadau gwaith roi cyfleoedd i chi:
- Rhoi cynnig ar amrywiaeth o leoliadau gwaith a dysgu am amrywiaeth o rolau a fydd yn eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus am yrfaoedd yn y dyfodol
- O bosib, casglu pwyntiau UCAS i astudio mewn addysg uwch
- Dysgu drwy brofiad ac asesu eich ymarfer i gyflawni elfen cymhwysedd ymarferol y cymwysterau yn y gwaith
- Dangos sgiliau na fydd o bosibl yn gallu cael eu hasesu mewn ffyrdd eraill
- Magu hyder a datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau a allai arwain at gyflogaeth
- Datblygu’r gallu i adlewyrchu ar eich ymarfer
- Rhoi adborth i gyflogwyr sy’n eu helpu nhw i wella eu harferion yn y lleoliad gwaith.
Paratoi ar gyfer lleoliad gwaith
Mae’n bwysig paratoi’n ofalus ar gyfer lleoliad gwaith er mwyn gwneud y gorau o’r cyfle. Mae nifer o bethau y bydd angen i chi feddwl amdanyn nhw, ac maent wedi eu rhestru isod.
Mae partneriaeth rhanbarthol Gwent hefyd wedi creu fideo wedi ei animeiddio sy'n mynd a chi drwy'r holl bwyntiau allweddol.
- Pa wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â’r lleoliad gwaith - beth mae'n ei wneud, pwy sy'n ei ddefnyddio, pwy sy'n gweithio yno, lleoliad etc?
- Ydych chi’n gallu ymweld â’r safle cyn i’r lleoliad gwaith ddechrau?
- Pa fath o weithgareddau y byddwch chi'n gallu eu gwneud yn y lleoliad?
- A fydd y gweithgareddau yn bodloni’ch anghenion?
- Sut cewch chi eich cefnogi gan y cyflogwr a’ch darparwr dysgu?
- Pa offer a hyfforddiant fydd eu hangen arnoch chi ar gyfer eich rôl pan fyddwch chi ar leoliad gwaith?
- A oes unrhyw hyfforddiant y bydd angen i chi ei gwblhau cyn i chi ddechrau eich lleoliad gwaith? Os oes, sut allwch chi wneud hyn?
- A fydd angen Offer Amddiffyn Personol (PPE) ac a fydd y cyflogwr yn ei ddarparu?
- Pa weithdrefnau sydd angen eu sefydlu ar gyfer adrodd unrhyw bryderon am y lleoliad gwaith?
- Beth yw’r pethau ymarferol fel amser dechrau a gorffen, côd gwisg, trefniadau teithio a chynhaliaeth?
- Beth sy’n digwydd os ydych chi’n sâl neu’n cael trafferthion cyrraedd y lleoliad gwaith yn brydlon?
Gwneud y gorau o gyfleoedd lleoliadau gwaith
Mae’n bwysig i gymryd eich lleoliad gwaith o ddifrif ac i wneud popeth o fewn eich gallu i wneud y gorau o’r cyfle.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi wylio’r fideo byr hwn o Tyne ac Izzy yn siarad am eu profiad lleoliad gwaith.
Mae’r adran hon yn amlinellu rhai meysydd y byddai'n ddefnyddiol i’w hystyried.
Ymweliad cyn y lleoliad gwaith
Bydd rhai cyflogwyr yn cynnig cyfle i chi ymweld â’r safle cyn i’r lleoliad gwaith ddechrau; bydd hyn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau am y safle a'u lleoliad gwaith. Efallai y bydd rhai cyflogwyr eisiau cyfweld â chi i sicrhau eich bod yn addas. Bydd yn bwysig meddwl am yr hyn rydych eisiau ei gyflawni yn y lleoliad gwaith cyn i hyn ddigwydd.
Dylai cytundeb lleoliad cyflogwr/dysgwr rhyngoch chi a'r cyflogwr gael ei gwblhau naill ai yn ystod neu ar ôl yr ymweliad cyn lleoliad.
Diwrnod 1
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod 1af, a bydd hynny’n eich helpu i baratoi ar gyfer y lleoliad gwaith.
Mae rhestr wirio diwrnod 1 yn ffordd ddefnyddiol i’ch atgoffa am yr hyn y dylid ei gwmpasu.
Mae’n bwysig eich bod yn cael mentor i’ch cefnogi drwy gydol eich lleoliad gwaith. Mae mentor yn rhywun sy'n gallu cynnig cyngor ac arweiniad, gallant:
- Eich helpu i ddeall y lleoliad gwaith a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonoch chi
- Ateb cwestiynau a rhoi cymorth pan nad ydych yn siŵr neu os oes gennych unrhyw bryderon
- Monitro a rhoi adborth i chi o ran ymarfer a chynnydd.
Cyfnod sefydlu
Mae Fframweithiau Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn nodi'r gofynion ar gyfer gweithwyr newydd yn ystod eu 6 mis cyntaf o gyflogaeth.
Mae’r gofyniad i ddysgwyr ar leoliad o fewn y sector iechyd yn cael eu nodi yn y Fframwaith Hyfforddi Sgiliau Craidd ac Uned ddysgu achrededig Sefydlu Clinigol.
Efallai y bydd cyflogwyr eisiau defnyddio'r fframweithiau i lywio eich proses sefydlu; cofiwch gofnodi unrhyw beth a ddysgwyd gan y byddwch yn gallu ei ddefnyddio tuag at gwblhau'r fframwaith os penderfynwch weithio mewn iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant.
Os ydych ar leoliad gwaith o goleg AB, dylech naill ai fod wedi cwblhau neu wrthi’n gwneud un o'r cymwysterau Craidd ar gyfer ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae’r rhain yn cyd-fynd â chanlyniadau dysgu gwybodaeth y Fframweithiau Sefydlu. Dylai eich darparwr dysgu fapio unrhyw ddysgu achrededig a gwblhawyd ar gyfer y cymwysterau Craidd i'r Fframwaith Sefydlu fel bod y cyflogwr yn gwybod yr hyn rydych eisoes wedi'i gwmpasu; bydd hyn yn eich helpu i wreiddio dysgu yn hytrach na'i ailadrodd.
Cyfleoedd dysgu
Bydd eich lleoliad gwaith yn brofiad dysgu gwerthfawr, gan ddod i wybod am y sector a rolau'r rhai sy'n gweithio ynddo, cysgodi swyddi, cymhwyso’r hyn rydych chi'n ei wybod i ymarfer i ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith. Yn dibynnu ar eich lleoliad, gall y cyflogwr hefyd gynnig cyfleoedd dysgu eraill i chi fel mynychu hyfforddiant gyda gweithwyr eraill, e-ddysgu neu ddarllen dan arweiniad. Mae'n bwysig bod yn glir ynglŷn ag amcanion y lleoliad gwaith o’r cychwyn cyntaf er mwyn i chi allu paru’r dysgu a'r gweithgareddau rydych chi'n ymwneud â nhw â'ch anghenion. Os ydych chi'n cwblhau cymhwyster, bydd y lleoliad gwaith yn eich helpu i wneud cysylltiadau rhwng eich gwaith cwrs a'ch ymarfer.
Mae gennym lawer o glipiau ffilm am wahanol rolau yn y sector ar wefan Gofalwn Cymru. Mae cyflogwyr hefyd yn hysbysebu eu swyddi gwag yno, felly edrychwch ar beth sydd ar gael.
Cadw cofnod myfyriol
Bydd disgwyl i chi gadw cofnod myfyriol i nodi’r hyn a ddysgwyd; i rai ohonoch chi, gall y fformat a’r strwythur gael eu pennu gan y rhaglen ddysgu rydych yn ymgymryd â hi; i eraill, bydd yn gofnod defnyddiol ar gyfer eich datblygiad eich hun yn hytrach na chwblhau cymhwyster.
Mae templed cofnod myfyriol y gellir ei ddefnyddio i fyfyrio; bydd gan fentoriaid rôl bwysig yma wrth eich cefnogi chi i fyfyrio yn ogystal â darparu adborth ar eich ymarfer a'ch cynnydd. Mae'n bwysig meddwl am fyfyrio ar sut rydych chi'n cysylltu gwerthoedd ac egwyddorion y sectorau â'r hyn rydych chi'n ei wneud.
Awgrymiadau defnyddiol ar sut i gadw cofnod myfyriol
- Disgrifio gweithgaredd rydych chi wedi bod yn rhan ohono - Disgrifiwch beth ddigwyddodd a'r rhan y gwnaethoch chi ei chwarae
- Eich teimladau a’ch safbwyntiau - Meddyliwch am yr holl brofiad, a oeddech chi'n teimlo'n wahanol ar ddechrau a diwedd y gweithgaredd?A wnaeth pobl eraill effeithio ar y ffordd roeddech chi'n teimlo yn ystod y gweithgaredd?
- Eich ymddygiad chi ac ymddygiad eraill - Sut wnaeth eich ymddygiad chi ac ymddygiad eraill adlewyrchu egwyddorion a gwerthoedd y sector? Beth helpodd y cyfathrebu neu beth wnaeth y cyfathrebu yn anoddach?
- Gwerthuso - Beth aeth yn dda a beth na aeth cystal yn ystod y gweithgaredd?
- Casgliadau - Beth ddysgoch chi o'r gweithgaredd? Ydych chi wedi nodi unrhyw anghenion hyfforddi neu ddysgu ychwanegol i chi'ch hun?
- Cynllun Gweithredu - Beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol pe byddech chi'n gwneud y gweithgaredd eto? Sut byddwch chi'n cwrdd a unrhyw anghenion hyfforddi neu ddysgu ychwanegol e.e. darllen dan arweiniad, hyfforddiant ffurfiol, cysgodi gweithiwr arall etc?
Bodloni gofynion ar gyfer rheoliadau, safonau a deddfwriaeth
Diogelu
Cyfrifoldeb pawb yw diogelu a gwarchod unigolion neu blant a phobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant. Bydd y cyflogwr yn eich lleoliad gwaith yn egluro eich rôl a’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu, a gyda phwy y dylech siarad os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chamdriniaeth, niwed neu esgeulustod, dylai hyn gynnwys o leiaf:
- Adrodd eich pryderon a chwythu’r chwiban
- Cyfrinachedd
- Sut i gadw eich hun ac unigolion / plant yn ddiogel yn y lleoliad gwaith.
Iechyd a Diogelwch
Rhaid i chi fod yn ymwybodol o iechyd a diogelwch drwy’r amser tra ar leoliad gwaith. Os ydych yn gweld unrhyw beth rydych chi'n credu allai fod yn beryglus neu'n beryglus i chi'ch hun neu i eraill, dylech ei adrodd nol i'ch mentor neu reolwr y lleoliad gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r trefniadau diogelwch tân ar gyfer y lleoliad a gwrandewch ar gyfarwyddiadau os bydd argyfwng tân.
Diogelu Data a Chyfrinachedd
Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod gwybodaeth am unigolion neu blant a’u teuluoedd/gofalwyr yn cael ei thrin mewn ffordd gyfrinachol a diogel. Ar leoliad gwaith efallai y byddwch yn gweld pobl rydych yn eu hadnabod, ond ni ddylid byth gofyn cwestiynau personol a allai achosi embaras. Ni ddylid byth trafod unrhyw beth rydych yn ei glywed neu'n gweld am unigolion neu blant a’u teuluoedd/gofalwyr y tu allan i leoliad iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant. Gallwch drafod gyda pherthnasau/ffrindiau yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud o ran gweithgareddau a phrofiadau ond ni ddylid byth trafod unigolion neu blant, eu teuluoedd/gofalwyr neu weithwyr.
Gofynion penodol y cwrs ar gyfer lleoliadau gwaith
Os ydych ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster, efallai y bydd gofynion penodol y bydd angen i chi eu bodloni pan fyddwch ar leoliad gwaith, dylai eich darparwr dysgu sicrhau bod y cyflogwr yn deall beth yw'r rhain ac yn gallu'ch helpu i'w gwireddu.
Rhoi adborth
Elfen bwysig o lwyddiant lleoliad gwaith i gyflogwyr a chi’ch hun yw cael adborth clir, adeiladol a gonest.
Dylai eich mentor fod yn monitro eich ymarfer ac yn rhoi adborth sy'n cefnogi eich dysg a'ch datblygiad. Mae gwerthusiad ar ddiwedd y lleoliad gwaith yn rhoi cyfle i chi a'r cyflogwr edrych yn ôl dros gyfnod y lleoliad gwaith, ac i ystyried y profiad a'r hyn a ddysgwyd. Mae templed gwerthuso diwedd lleoliad a allai eich helpu i wneud hyn.
Efallai y bydd adegau pan fydd rhaid i chi roi adborth negyddol neu adrodd eich pryderon am y lleoliad gwaith. Dylai'r broses ar gyfer riportio unrhyw bryderon gael ei chytuno cyn i chi ddechrau eich lleoliad gwaith.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.