Jump to content
Pa gymorth sydd ar gael i mi fel cyflogwr?

Mae’r ‘cynnig i gyflogwyr’ yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, cefnogaeth ac adnoddau rydyn ni wedi’u creu a’u cyfuno ar gyfer cyflogwyr i’ch helpu yn eich rôl.

Y tîm cymorth i gyflogwyr

Fel y tîm cymorth i gyflogwyr, rydyn ni'n anelu at:

  • gweithio gyda chyflogwyr i glywed gennych chi beth sy’n digwydd yn y sector. Rydyn ni'n rhannu’r wybodaeth hon â gweddill ein sefydliad i helpu i lywio ein gwaith
  • rhannu beth sydd ar gael i gyflogwyr i’ch cefnogi chi a’r gweithlu
  • helpu cyflogwyr i ddeall eich cyfrifoldebau rheoleiddio a gwneud hyn mor syml ac effeithlon â phosibl.

Rydyn ni'n cynnal sesiynau gwybodaeth ar-lein i gyflogwyr a thimau rheoli. Byddwn ni'n rhoi mwy o wybodaeth i chi ac yn egluro pethau fel:

  • y gwasanaeth cymorth i gyflogwyr
  • y broses addasrwydd i ymarfer
  • y cynnig i gyflogwyr.

Os hoffech chi sesiwn bwrpasol, sydd wedi’i theilwra i’ch tîm neu ddigwyddiad, anfonwch e-bost at cymorthcyflogwyr@gofalcymdeithasol.cymru

Y cynnig i gyflogwyr

Mae’r ‘cynnig i gyflogwyr’ yn cynnwys ystod eang o wasanaethau, cymorth ac adnoddau yr ydym wedi’i greu a’i ddwyn ynghyd i gyflogwyr i’ch cynorthwyo yn eich rôl.

I weld y fideo hwn gydag isdeitlau, cliciwch ar y CC yn y gornel dde isaf.

Cefnogi eich gweithlu – eich cynorthwyo chi i recriwtio pobl newydd, eu cadw a’u cefnogi

Recriwtio a chadw

  • Ymgyrch Gofalwn Cymru a phorth swyddi i gefnogi prosesau recriwtio a chadw staff yn y sector

Diwylliannau cadarnhaol

  • Cefnogi diwylliannau cadarnhaol – Mae’r canllaw hwn yn egluro egwyddorion diwylliannau cadarnhaol a pham maen nhw'n bwysig. Ceir dolenni ynddo hefyd i adnoddau, rhaglenni ac offer i’ch cynorthwyo chi i ddefnyddio’r egwyddorion
  • Ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau – Adnoddau a gwybodaeth am beth yw ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, pam rydym yn ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol
  • Adnoddau iechyd a llesiant – Gwybodaeth, cyngor ac adnoddau iechyd a llesiant ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Gwella gwasanaethau – Mynediad at adnoddau, data a gwybodaeth i wella ymarfer

  • Diogelu – hyfforddiant, adnoddau ac astudiaethau achos
  • Mynediad i wybodaeth am ein dull gweithredu a’n cynlluniau ar gyfer ymchwil, data ac arloesi ar draws gofal cymdeithasol
  • Mae’r Grŵp Gwybodaeth yn rhoi mynediad i chi at grynodebau o dystiolaeth, data gofal cymdeithasol, ac e-gyfnodolion, a gallwch ymuno â chymunedau sydd o ddiddordeb i chi
  • Adnabod ac atal deliriwm – Canllaw byr ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal i helpu i adnabod ac atal deliriwm. Mae’r canllaw hwn yn seiliedig ar ganllawiau NICE ac fe’i haddaswyd ar gyfer ymarfer yng Nghymru
  • Canllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan – Mae’r canllawiau’n darparu arweiniad i reolwyr gofal cymdeithasol ar staff iechyd yn dirprwyo tasgau i weithwyr gofal cymdeithasol, a sicrhau bod y gweithiwr yn gymwys i wneud y dasg benodol honno.

Y blynyddoedd cynnar a gofal plant

Gallwch chi ganfod gwybodaeth am y blynyddoedd cynnar a gofal plant ar ein gwefan yma.