Gwybodaeth am eich cyfrifoldebau fel person cofrestredig, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL) a chadw'ch manylion yn gyfredol.
Dilyn y Côd Ymarfer Proffesiynol
Mae’r Côd Ymarfer yn gosod y safonau ar gyfer pob gweithiwr gofal proffesiynol yng Nghymru. Hefyd, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ymarfer ar gyfer eich swydd. Mae’r rhain yn ategu’r Côd gyda safonau sy’n berthnasol i’ch swydd chi yn benodol.
Os nad ydych yn dilyn y Côd, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich cyfeirio atom. Os ydych yn gweld pobl yn gwneud pethau yn y gwaith sydd, yn eich barn chi, yn anniogel, neu bethau na fyddech yn disgwyl eu gweld gan weithiwr gofal cymdeithasol da, dylech gysylltu â ni.
Fel rhan o'n cyfrifoldeb i sicrhau bod gan weithwyr gofal cymdeithasol ar ein Cofrestr y sgiliau, y wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol, byddwn yn defnyddio'r Côd pan yn delio â phryderon a godwyd am bobl gofrestredig.
Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Mae’n rhaid i bob person cofrestredig (ac eithrio myfyrwyr gwaith cymdeithasol) gadw cofnod o’u DPP. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’ch DPP fel rhan o’ch cais adnewyddu.
- Rhaid i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gwblhau 90 awr o ddatblygiad proffesiynol ym mhob cyfnod cofrestru o dair blynedd.
- Rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol yn cwblhau 45 awr o ddatblygiad proffesiynol ym mhob cyfnod cofrestru o dair blynedd.
Mae’n rhaid i chi drafod a chytuno ar eich hyfforddiant a’ch dysgu gyda’ch rheolwr cyn cyflwyno tystiolaeth i ni. Rydym yn argymell y dylech ddiweddaru’ch cofnodion DPP wrth i chi eu cwblhau, a gallwch wneud hyn trwy fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.
Bydd angen i chi gofnodi:
- y dyddiad
- teitl yr hyfforddiant neu’r dysgu
- hyd yr hyfforddiant a’r dysgu
- disgrifiad cryno o sut cyfrannodd yr hyfforddiant at eich datblygiad proffesiynol.
Darllenwch ein canllawiau ar datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion.
Mae’n rhaid i chi ein hysbysu am newidiadau i’ch:
- enw
- teitl
- manylion cyswllt
- cyflogaeth
- cyfeiriad cartref
- cofrestriad gyda chorff rheoleiddio arall
- cofnod troseddol
- cofnod iechyd
- cofnod disgyblu.
Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl. Gall peidio â dweud wrthym arwain at gael eich cyfeirio at banel addasrwydd i ymarfer.
Os ydych chi’n gweithio mewn mwy nag un grŵp a reoleiddir, neu os byddwch yn newid y grŵp rydych chi’n gweithio ynddo, bydd angen i chi newid eich cofrestriad.
Gallwch weld a diweddaru eich manylion ar unrhyw adeg yn eich cyfrif SCWonline yn yr adran ‘Fy Mhroffil’.
Y rhaglen gadarnhau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol
Mae'r rhaglen gydgrynhoi yn ofyniad ar gyfer yr holl weithwyr cymdeithasol a gymhwysodd ar ôl 1 Ebrill 2016.
Rhaid ei gwblhau yn ystod tair blynedd gyntaf ei gofrestriad.
Y rhaglen hon yw rhan gyntaf addysg a dysgu proffesiynol parhaus (CPEL). Am fwy o wybodaeth am y rhaglen gadarnhau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ewch i cymwysterau gwaith cymdeithasol.
Darparu tystiolaeth o'ch cofrestriad
Byddwch yn derbyn e-bost gennym yn cadarnhau eich cofrestriad ar ôl iddo gael ei ganiatáu. Nid ydym yn rhoi tystysgrifau cofrestru mwyach.
Os oes angen prawf arnoch eich bod wedi cofrestru gyda ni mewngofnodwch i'ch cyfrif GCCar-lein ac ewch i ‘Prawf o gofrestru’.
Gallwch hefyd wirio'ch enw ar y Gofrestr.
Adnoddau i'ch helpu chi
Mae'r Hanfodion Cofrestru yn dweud mwy am yr hyn sydd angen i chi ei wybod am eich cofrestriad hefo ni.
-
Hanfodion CofrestruPDF 2MB
-
Hanfodion Cofrestru MyfyrwyrPDF 590KB
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.