Skip to main content
Hygyrchedd y safle
Beth rydym yn ei wneud

Dyma wybodaeth am yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gweithio, sut i gael gwybodaeth gennym ni neu'r hyn sydd angen i chi ei wneud i gwyno am wasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu.

Beth rydym yn ei wneud

Mae ein cynllun busnes yn nodi ein rhaglenni gwaith, ein hamcanion, mesurau perfformiad a’r gyllideb am y flwyddyn. Bob chwarter, mae ein Bwrdd a Llywodraeth Cymru yn craffu ar y broses o adrodd yn erbyn yr hyn rydym yn ei gyflawni o’r gweithgareddau.

Sut rydym yn gweithio

Rydym yn ymrwymedig i'r canlynol:

  • bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog
  • gwerthfawrogi amrywiaeth a gwella cyfleoedd i bawb
  • cynnwys pobl Cymru yn ein ffordd o weithio
  • gwrando ar eich adborth
  • pennu safonau uchel o ran gwasanaethau cwsmeriaid
  • cyhoeddi gwybodaeth a chael mynediad ati
  • gwella ein perfformiad ni ein hunain.

Safonau’r Iaith Gymraeg

Mae croeso i gwsmeriaid gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg, ac rydym yn awyddus i roi gwasanaeth hollol ddwyieithog ar draws ein holl feysydd gwaith. Yn unol ag adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i ni gydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg. Mae’r hysbysiad cydymffurfio yn nodi pa safonau sy’n rhaid i ni gydymffurfio â hwy.

Cydraddoldeb

Mae hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl yn ganolog i'n gwerthoedd craidd. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn nodi sut y byddwn ni, trwy ein rol a’n swyddogaethau, yn hybu a hyrwyddo cyfle cyfartal.

Mae ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2018-19 yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol Ebrill 2018 i Fawrth 2019 tuag at gyflawni cydraddoldeb a chyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

Sut i gael gwybodaeth

Rhyddid gwybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FoI) yn caniatáu i chi gael gwybodaeth a gedwir gennym ac yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod â chynllun cyhoeddi.

Mae'r cynllun cyhoeddi'n golygu bod yn rhaid i ni drefnu bod rhai mathau penodol o wybodaeth ar gael. Mae'n rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd ar gael, ym mha fformat y mae ar gael ac a oes rhaid i chi dalu ffi i'w chael.

Sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth

Os ydych chi eisiau gwybodaeth nad yw ar y cynllun cyhoeddi, mae angen i chi wneud y cais yn ysgrifenedig i'r cydlynydd rhyddid gwybodaeth ar foi@gofalcymdeithasol.cymru. Nodwch yn glir pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Am gymorth pellach, cysylltwch â 029 2078 0672.

Diogelu data

Dan Ddeddf Diogelu Data 2018 mae gennych hawl gyffredinol i weld data personol a gedwir amdanoch. Caiff yr hawl hon ei hadnabod fel 'hawl unigolyn i’w wybodaeth'. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd mae gennych hefyd yr hawl i gael gwybod a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw amdanoch chi ac i gael copi o'r wybodaeth honno.

Os hoffech wneud cais am eich data personol, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost foi@gofalcymdeithasol.cymru a chynnwys y term ‘cais am ddata personol’ i'n helpu i gyfeirio'ch cais yn gyflym. Bydd angen i ni wirio pwy ydych a'ch gwybodaeth cyswllt cyn i ni ystyried eich cais a rhyddhau unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym.

Os oes angen cyngor arnoch ar wneud cais am eich ddata personal, cysylltwch â 02920 780672 neu gweler ganllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Ceir Comisiynydd Gwybodaeth sy'n sicrhau bod yr holl ddeddfau mewn perthynas â rhyddid gwybodaeth a diogelu data yn cael eu dilyn. Rydym ni wedi'n cofrestru gyda'r comisiynydd felly gellir gwirio ein gwaith ni.

Cwynion ac adborth

Rydym yn deall bod pobl yn teimlo weithiau nad ydynt yn cael y cymorth cywir. Rydyn ni eisiau gwybod pryd mae hyn yn digwydd fel ein bod yn gwella'r ffordd rydyn ni'n gweithio.

Dylid cwblhau'r ffurflen cwyno isod os ydych yn anhapus gydag unrhyw wasanaeth, byddwn yn edrych ymhellach i'r gŵyn.

Dychwelwch y ffurflen gwyno at jeni.meyrick@gofalcymdeithasol.cymru neu drwy bost i Gofal Cymdeithasol Cymru, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

Pan fyddwn yn cael pethau'n iawn, hoffem wybod. Cysylltu â ni i roi eich adborth.

Os yw'ch cwyn yn ymwneud â gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig, gweler sut rydym yn delio â phryderon.

Chwythu’r chwiban

Rydym wedi ein rhestru o dan Orchymyn Personau Rhagnodedig 2014 fel sefydliad dynodedig y gall unrhyw weithiwr yn y sector gofal cymdeithasol fynd ato i adrodd am gamweddau honedig neu hysbys. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘chwythu’r chwiban‘ neu’n wneud datgeliad hefyd.

Fel person rhagnodedig, mae gennym nifer o ddyletswyddau, sydd wedi’u hamlinellu mewn canllawiau gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ac un ohonynt yw adrodd yn flynyddol ar nifer y datgeliadau chwythu’r chwiban a dderbyniwn.

Ni wnaethom adrodd unrhyw ddatgeliadau chwythu’r chwiban i BEIS a Protect.org am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.

Sut ni'n prynu nwyddau a gwasanaethau

Rydym yn prynu ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith adeiladu. Mae'r gwariant yn amrywio o symiau mawr i brosiectau bach iawn. Mae'r dudalen hon yn egluro sut rydym yn gwario ein harian. Gall helpu cyflenwyr i ddysgu mwy am gyfleoedd ac i roi cais am waith.

Rydym yn ceisio cael gwerth am arian. Mae hyn yn golygu cydbwyso ansawdd a chostau dros oes y gwariant.

Hoffwn weithio gyda'n cyflenwyr:

  • mewn awyrgylch agored a gonest
  • gyda disgwyliadau ac amcanion clir
  • gyda safonau clir i bawb.

Ein proses caffael

Mae'r math, gwerth a chymhlethdod cytundeb yn ein helpu i benderfynu ar y broses dendr. Rydym yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i gyd ar gyfer y broses pwrcasu. Wedyn rydym yn rhoi digon o amser i'r cyflenwyr baratoi eu cais.

Ar gyfer cytundebau o werth mawr neu rai cymhleth, rydym yn annog cyflenwyr i weithio mewn partneriaeth. Mae ceisiadau ar y cyd yn helpu cyflenwyr i fod yn fwy llwyddiannus wrth ennill gwaith.

Lle'n bosibl, rydym eisiau gweithio gyda chyflenwyr lleol a rhai o Gymru. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn hybu busnes lleol, datblygu sgiliau a dod â buddion cymunedol eraill.

Sut rydym yn prynu

Fel arfer rydym yn dilyn y rheolau cystadlu hyn wrth benderfynu ar gytundebau:

  • Dyfynbrisoedd (o dan £5k) – rydym yn gofyn am o leiaf 2 ddyfynbris ysgrifenedig.
  • Dyfynbrisoedd (£5k i £10k) – rydym yn gofyn am o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig.
  • Tendrau (dros £10k) – rydym yn defnyddio proses tendro fwy ffurfiol.
  • Cytundebau'r Undeb Ewropeaidd (fel arfer dros £112k) – rydym yn rhoi hysbysebion yng Nghylchgrawn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd drwy GwerthwchiGymru.

Rydym yn hysbysebu'r rhan fwyaf o'n cyfleoedd contract ar GwerthwchiGymru ac yn defnyddio'r y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i'n helpu i gyrchu nifer o fframweithiau i ddod o hyd i'r bargeinion gorau sydd ar gael.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu help i gynnig, cysylltwch â bethan.roberts@gofalcymdeithasol.cymru neu ffoniwch 029 2078 0609.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn Cysylltwch â ni.