Jump to content
Adnewyddu eich cofrestriad

Dysgwch bryd a sut i adnewyddu eich cofrestriad.

Pryd i adnewyddu eich cofrestriad

Mae eich cofrestriad yn para am dair blynedd.

Os na fyddwch chi'n adnewyddu eich cofrestriad cyn diwedd y tair blynedd, bydd eich cofrestriad yn dod i ben. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi ar ein Cofrestr mwyach, ac ni fyddwch chi'n gallu gweithio mewn rôl sy'n gofyn am gofrestru yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau y gallwn ni adnewyddu eich cofrestriad cyn iddo ddod i ben, bydd angen i chi wneud cais tua thri mis cyn i'ch cyfnod cofrestru tair blynedd ddod i ben.

Byddwn ni'n anfon e-bost atoch chi i roi gwybod i chi pryd bydd hi'n bryd i ymgeisio.

Sut i adnewyddu eich cofrestriad

Gallwch chi adnewyddu eich cofrestriad drwy fynd i'r adran 'Adnewyddu' yn eich cyfrif GCCarlein.

Mae rhaid i chi gyflwyno'ch cais o leiaf 21 diwrnod cyn diwedd eich cyfnod cofrestru tair blynedd.

Os nad ydych chi wedi gwneud cais 21 diwrnod cyn i'ch cofrestriad ddod i ben, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi a'ch cyflogwr diwethaf y byddwn ni'n eich tynnu chi oddi ar y Gofrestr unwaith bydd eich cofrestriad wedi dod i ben.

Ni allwn ni gadarnhau y gallwn ni brosesu ceisiadau adnewyddu rydyn ni'n derbyn llai na 21 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu, ond byddwn ni'n gwneud ein gorau.

Talu am eich adnewyddiad

Bydd angen i chi dalu ffi i adnewyddu eich cofrestriad. Dyma wybodaeth am ein ffioedd.

​Cymeradwyo’ch cais adnewyddu

Gweithwyr gofal cymdeithasol

Os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol, bydd angen i'ch cais gael ei gefnogi'n ffurfiol gan rywun yn eich sefydliad. Rydyn ni'n galw hyn yn gymeradwyaeth.

Rhaid i'r person hwn:

  • beidio â bod yn perthyn i chi
  • beidio â chael perthynas bersonol â chi
  • bod mewn swydd uwch i chi yn eich sefydliad.

Pan fyddwch chi'n gwneud cais trwy'ch cyfrif GCCarlein, bydd angen i chi ddewis rhywun o'r rhestr o bobl yn eich sefydliad sy'n gallu cefnogi eich cais. Rydyn ni'n galw'r bobl hyn yn llofnodwyr.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, gall eich llofnodwr fewngofnodi i'w cyfrif GCCarlein ei hunain, darllen y wybodaeth ac ateb y cwestiynau.

Rheolwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol

Os ydych chi'n rheolwr gofal cymdeithasol neu'n weithiwr cymdeithasol, mae'n annhebygol bydd angen i rywun cefnogi'ch cais yn ffurfiol. Ond os bydd angen, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pan fyddwch chi'n ymgeisio.

Gweithwyr hunangyflogedig

Os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol hunangyflogedig, neu'n cael eich cyflogi gan aelod o'r teulu, bydd angen dau gymeradwyaeth arnoch chi. Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y broses hon yn ein canllawiau cymeradwyo.

Tudalennau cysylltiedig

Dysgwch fwy am wirio a chymeradwyo ceisiadau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, cysylltwch â ni.