Jump to content
Sgiliau iaith Gymraeg eich gweithlu

Gall yr adnodd yma eich cefnogi chi i gyflawni gofynion Mwy na geiriau.

Man and woman laughing


Mwy na geiriau yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac mae wedi bod yn weithredol ers Ebrill 2013.


Beth yw nod Mwy na geiriau?

Ei nod yw:

  • sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu bodloni
  • darparu gwasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd eu hangen
  • dangos bod iaith yn rhan annatod o ansawdd y gofal, nid “ychwanegiad”
  • sicrhau gweithredu mwy rhagweithiol tuag at ddewis ac angen iaith yng Nghymru
  • rhoi’r y cyfrifoldeb am sicrhau gwasanaethau priodol ar y darparwr gwasanaeth ac nid ar yr unigolyn.

Fel cyflogwr neu reolwr, byddwch chi eisoes yn ymwybodol bod y gallu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn ddibynnol arnoch chi a’ch tîm. Mae’r adnodd yma yn eich helpu i nodi’r sgiliau iaith sydd eisoes gan eich gweithlu.

Weithiau mae’r sgiliau hyn yn cael eu cuddio oherwydd:

  • diffyg hyder
  • diffyg ymarfer
  • ofn derbyn tasgau fel gwaith cyfieithu
  • neu fod sgiliau’r Gymraeg ddim yn cael eu gwerthfawrogi.

I gefnogi llesiant unigolion, teuluoedd a gofalwyr sy’n defnyddio eich gwasanaethau, rydyn ni eisiau eich helpu i ddefnyddio eich sgiliau yn y Gymraeg yn yr un ffordd ag unrhyw sgil arall yn y gweithle.

Fe fydd hefyd yn eich helpu gyda chynllunio gweithlu yn y dyfodol.

Beth sydd yn y canllaw yma?

Adran 1: trosolwg o bolisi a deddfwriaeth yr iaith Gymraeg ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol a chipolwg ar egwyddorion Mwy na geiriau.

Adran 2: arweiniad ynglŷn â sut i fynd ati i greu cynllun sgiliau iaith syml ar gyfer eich gwasanaeth, a help i benderfynu lle gallai’r Gymraeg fod yn sgil hanfodol a lle mae’n ddymunol, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y rhai sy’n defnyddio’ch gwasanaeth.

Adran 3: cyngor ar sut i fynd ati i asesu a chofnodi sgiliau Cymraeg eich staff.

Adran 4: edrych ar faterion recriwtio a sut i fynd i’r afael â rhai o’r rhain.

Mae Mwy na geiriau yn cynnwys llawer o egwyddorion rhagorol i sicrhau bod anghenion iaith Gymraeg unigolion yn cael eu diwallu. Mae eich gweithlu yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses o gyflawni’r anghenion hyn.

Y cam cyntaf ar gyfer darparu gwasanaethau da yn y Gymraeg yw darganfod pa sgiliau sydd eisoes yn bodoli yn eich gweithlu. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, ar ba bynnag lefel, yn ased pwysig ac yn sgil gwerthfawr i’ch staff.

Mae adnabod sgiliau eich gweithlu, gan ystyried anghenion defnyddwyr eich gwasanaeth a’u defnyddio’n gywir, yn gam cyntaf hanfodol o ran darparu gofal a chefnogaeth ragorol.

Adran 1 – Trosolwg

Ein rôl yn Gofal Cymdeithasol Cymru yw amddiffyn y cyhoedd trwy sicrhau bod ein gweithwyr cymwys yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon. Un o’n prif nodau yw sicrhau bod gan y gweithlu’r sgiliau priodol a bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu ar gyfer y sector. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn rhan annatod o’r sgiliau a’r wybodaeth yma.

Mae gennych chi eisoes ystod o adnoddau i’ch helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol o ansawdd da. Ond mae angen i ni alluogi sefydliadau ac asiantaethau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o’r un safon â’r gwasanaethau Saesneg.

Mae’r adnodd hwn yn rhoi argymhellion ynglŷn â sut gallwch gynllunio eich gweithlu er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg ddigonol yn eich gwasanaeth. Mae rhai syniadau ynghyd â chamau penodol, gan gynnwys cynllun sgiliau iaith ac annog eich staff i asesu eu sgiliau eu hunain mewn modd ymarferol.

Y ddeddfwriaeth, polisi ac arfer da

Yn sgil deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg a datblygiadau ym maes polisi iaith yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gymryd camau rhesymol i sicrhau bod gennych drefniadau staffio priodol, cymesur a digonol mewn lle i ddarparu gofal a gwasanaeth cefnogol dwyieithog.

Crëwyd safonau iaith newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus gan ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru. Mae’r safonau iaith hyn hefyd yn berthnasol i’r canlynol:

  • cyrff trydydd parti
  • asiantaethau
  • cwmnïau a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran cyrff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol.

Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn gofyn bod:

  • gwasanaethau iaith Gymraeg mewn gofal cymdeithasol o’r un safon ac yr un mor hygyrch â gwasanaethau iaith Saesneg
  • sefydliadau yn peidio â chymryd yn ganiataol mai Saesneg yw’r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
  • siaradwyr Cymraeg ddim yn gorfod gofyn am gael gwasanaeth yn y Gymraeg.

Darganfyddwch fwy am safonau’r Gymraeg, eu bwriad a’r gofynion cyfreithiol yma: Safonau'r Gymraeg (comisiynyddygymraeg.cymru)

Gofynion Mwy na geiriau i’ch sefydliad

Mae Mwy na geiriau yn ei gwneud yn ofynnol i chi sicrhau bod gennych staff gyda’r sgiliau iaith priodol i ofalu am ac i gefnogi unigolion bregus sy’n siarad Cymraeg.

Y Cynnig Rhagweithiol

Egwyddor y Cynnig Rhagweithiol sydd wrth wraidd y strategaeth Mwy na geiriau. Mae’r Cynnig Rhagweithiol yn golygu na ddylech aros i unigolyn ofyn am ddarpariaeth Gymraeg. Yn hytrach, dylech fod yn rhagweithiol i nodi anghenion iaith yr unigolyn o’r dechrau.

Mae'r strategaeth yn nodi:

“Os ydych yn siaradwr Cymraeg, mae gallu defnyddio eich iaith eich hun yn elfen graidd o ofal nid yn rhywbeth ychwanegol.”

Mae’r adnodd hwn a’r awgrymiadau ynddo wedi eu dylunio i’ch helpu chi feddwl am yr hyn yr ydych chi a’ch staff yn ei wneud i sicrhau eich bod yn deall y strategaeth ac yn gwneud popeth o fewn eich gallu i’w ddefnyddio.

Y Gymraeg fel sgil proffesiynol

Mae’n bwysig meddwl am gyfathrebu yn iaith ddewisol yr unigolyn wrth gynllunio a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.

Gall safon dda o gyfathrebu sicrhau dealltwriaeth o wir anghenion yr unigolyn, a’ch galluogi i ddarparu gwasanaeth ansawdd uchel ac effeithiol iddynt.

    Mae cydnabod bod medru’r Gymraeg yn sgil i’w gwerthfawrogi a’i defnyddio yn y gwaith yn sicrhau fod hynny’n cael ei weld fel sgil proffesiynol. Yn y sector gofal cymdeithasol, mae’n sgil cyfathrebu sy’n hanfodol ar gyfer rhai swyddi ac yn ddymunol ar gyfer eraill. Mewn nifer o sefyllfaoedd, fel sonnir yn strategaeth Mwy na geiriau, mae’n sgil angenrheidiol wrth weithio gyda theuluoedd ac unigolion.

    Mae sgiliau iaith cudd yng Nghymru, sgiliau efallai na chaiff eu defnyddio ym mywydau preifat eich staff, ond gallan nhw eu defnyddio yn y gweithle.

    Mae gallu eich staff i siarad Cymraeg yn sgil proffesiynol a dylai gael ei werthfawrogi fel unrhyw sgil proffesiynol arall. Dylai eich gwasanaeth gydnabod gwerth yr iaith Gymraeg yn yr un ffordd ag unrhyw anghenion eraill wrth ddarparu gwasanaeth gofal a chefnogaeth.

    Pam ei bod yn bwysig ystyried anghenion ieithyddol y Gymraeg

    Dyma rai o’r risgiau o beidio ag ystyried anghenion iaith unigolyn:

    • ynysu unigolion mewn amgylchedd anghyfarwydd os na chaiff wasanaeth ac amgylchiadau yn ei iaith ei hun, er enghraifft, gofal preswyl i bobl hŷn neu blant mewn gofal
    • gall bobl gwyno i Gomisiynydd y Gymraeg am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg neu wasanaeth o safon isel. Mae gan y Comisiynydd hawl i ymchwilio i bob cwyn a hawl i roi dirwy hyd at £5,000 am bob achos o ddiffyg cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
    • methu â chyflawni nod eich safonau cydraddoldeb oherwydd diffygion yn eich gwasanaeth Cymraeg
    • cam-asesu anghenion yr unigolyn drwy beidio â chyfathrebu ag ef yn ei iaith gyntaf neu yn ei iaith bob dydd
    • cynllunio darpariaeth sy’n anaddas, yn aneffeithiol neu’n niweidiol ar sail asesiad anghywir
    • niweidio enw da eich gwasanaeth.

    Y camau cyntaf i’w hystyried

    Gall cynllun sgiliau iaith eich helpu i reoli a defnyddio sgiliau iaith eich staff.

    Mae’n cynnwys y camau syml hyn:

    • pennu pa sgiliau Cymraeg sy’n ofynnol ar gyfer gweithleoedd, timau a swyddi penodol
    • asesu a chofnodi sgiliau iaith eich staff
    • recriwtio pobl â sgiliau iaith Gymraeg pan fo angen.

    Adran 2 – Gweithredu

    Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn gofyn bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y Gymraeg, o’r un safon, ac yr un mor hygyrch ac mor drwyadl â gwasanaeth iaith Saesneg.

    Ni ddylech gymryd yn ganiataol mai Saesneg yw’r iaith ddiofyn wrth ddarparu gwasanaethau i unigolion. Os ydych yn darparu gwasanaeth i unigolyn sy’n arfer siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu iaith bob dydd, dylech gymryd yn ganiataol y byddai’n well ganddyn nhw siarad Cymraeg.

    Ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod gofyn am wasanaeth yn y Gymraeg. Dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn yr iaith y maen nhw'n ei ddefnyddio fel arfer, boed yn Gymraeg neu’n Saesneg, neu’n ddwyieithog. Mae hynny’n adlewyrchu egwyddor y Cynnig Rhagweithiol sy’n cael ei gefnogi ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a chaiff ei amlinellu yn Mwy na geiriau.

    Dylech nodi a chofnodi iaith arferol yr unigolyn, a darparu gwasanaeth yn yr iaith honno bob tro.

    Mae natur gwasanaethau yn amrywio o sefydliad i sefydliad, a hyd yn oed o fewn yr un sefydliad. Er mwyn sicrhau safon a darpariaeth gyfartal yn Gymraeg a Saesneg, bydd y gallu i siarad yn rhugl yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi ac yn ddymunol ar gyfer eraill. Bydd union lefel y sgiliau sy’n ofynnol yn dibynnu ar natur y swydd ac ar faint o gyswllt sydd rhwng y gweithiwr ac unigolion.

    Mae darparu gwasanaeth dwyieithog yn golygu bod angen nifer priodol o staff sy’n medru’r Gymraeg yn eich gweithlu. Yn nes ymlaen yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar sut gallwch gynllunio eich gweithlu yn effeithiol a gwneud y mwyaf o’r sgiliau iaith Gymraeg sydd eisoes yn eich gweithlu.

      Dylech sicrhau bod pob aelod staff yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol sylfaenol tuag at unigolion, teuluoedd neu ofalwyr a’u bod yn sensitif a pharchus tuag at iaith a diwylliant siaradwyr Cymraeg.

      Mae cwrteisi ieithyddol sylfaenol yn cynnwys:

      • ynganu enwau Cymraeg pobl yn gywir
      • ynganu enwau llefydd yn gywir
      • rhoi cyfarchion syml
      • defnyddio rhai geiriau ac ymadroddion syml
      • ymateb yn gwrtais i rywun sy’n siarad Cymraeg.

      Gall staff dderbyn hyfforddiant i ennill y cymwyseddau hyn, hynny yw, Lefel 1 Cymraeg (siarad a deall) fel y caiff ei ddisgrifio yn y fframwaith sgiliau iaith.

      Pa sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer swyddi a thimau?

      Adran 3 – Asesu a chofnodi sgiliau iaith eich staff

      Bydd yr adran hon yn eich cynorthwyo i asesu sgiliau iaith Gymraeg eich staff yn seiliedig ar y mathau o dasgau cyfathrebu (darllen, ysgrifennu, siarad, a deall) y mae eich gweithlu’n gallu ei wneud drwy’r Gymraeg.

      Bydd y fframwaith sgiliau iaith yn y modiwl asesu a chofnodi sgiliau iaith Cymraeg eich staff yn eich galluogi i fod yn glir am union lefel y sgiliau sydd angen i chi gyfeirio ati wrth asesu, recriwtio a chynllunio sgiliau cyfathrebu eich staff. Mae’r fframwaith yn pwyso mesur y lefelau iaith gwahanol yn fanwl, o Lefel 1 i Lefel 5.

      Cofiwch mai canllaw yn unig yw hwn. Ni ddylid defnyddio hyn fel ffordd syml a mecanyddol i benderfynu pa sgiliau sy’n ofynnol. Rhaid i chi ystyried yr holl amgylchiadau a gofynion sy’n berthnasol i bob swydd.

      Dylech hefyd drafod gyda’ch rheolwr adnoddau dynol, rheolwr gwasanaeth, neu gydweithwyr eraill fel sy’n briodol, i gadarnhau eich casgliadau.

      Adran 4 - Recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi, timau neu gweithleoedd penodol

      Os yw’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd, cofiwch ddweud hynny yn y deunydd recriwtio. A chofiwch ei ddweud mewn modd cyfeillgar a allai ddenu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd â safon dda o Gymraeg.

      Pan fydd swydd yn dod yn wag, neu pan gaiff swydd newydd ei chreu, dylech nodi yn y disgrifiad swydd, y manyleb personol a’r hysbyseb pa fath o sgiliau sydd eu hangen, gan gyfeirio at y fframwaith sgiliau iaith.

      Am nifer o resymau, mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo nad yw eu sgiliau’n ddigon da i’w defnyddio yn eu gwaith. Mae cyfeirio at y fframwaith sgiliau iaith yn gostwng pryder ac yn gallu gwneud i unigolion sylweddoli bod ganddyn nhw’r union sgiliau sydd eu hangen. Gallwch nodi hefyd bod croeso i rai sydd wedi dysgu Cymraeg hyd safon dda gynnig am y swydd.

      Os nad oes ymgeisydd â’r union sgiliau Cymraeg sy’n addas i'r swydd lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar ei chyfer, yna, mi allwch benodi rhywun sydd â sgiliau ar lefel is, neu ddysgwr Cymraeg da, ar yr amod y bydd yn gwella ei sgiliau hyd y safon sy’n ofynnol i gyflawni’r swydd, a hynny cyn pen cyfnod a gytunwyd. Os gwnewch hynny, dylech gynnwys yr amod hwnnw fel amod cyflogaeth a llunio cytundeb dysgu ffurfiol.

      Asesu a chofnodi sgiliau iaith Cymraeg eich staff

      Dyma fframwaith sgiliau iaith sydd yn fodd i chi fod yn glir ynglŷn â’r union lefel o sgiliau y cyfeiriwch atynt wrth asesu, recriwtio a chynllunio i ddefnyddio sgiliau cyfarthrebu eich staff.

      Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Ebrill 2025
      Diweddariad olaf: 30 Ebrill 2025
      Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (47.7 KB)
      Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch