Jump to content
Sut rydym yn delio â phryderon

Fel rhan o’n cyfrifoldeb i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol ar y Gofrestr yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a chymeriad addas i wneud eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol, rydym yn ymchwilio i bryderon sy’n cael eu codi am bobl gofrestredig.

Beth sy’n bryder?

Pryder yw pan mae amheuaeth ynghylch a yw person cofrestredig yn gwneud ei waith yn ddiogel, effeithiol ac yn unol â’r Cod Ymarfer Proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau sy'n digwydd y tu allan i'r gwaith. Os oes gennych bryder am weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig, yna gallwch chi gyfeirio’r person hwnnw atom ni trwy godi pryder.

I ddechrau, bydd prifysgolion yn asesu pryderon a godir am fyfyrwyr gwaith cymdeithasol. Os bydd angen cymryd camau pellach, byddwn yn ymchwilio i bryderon a godir am fyfyrwyr yn yr un ffordd ag unrhyw berson cofrestredig arall.

Pa bryderon gallwn ni ymchwilio iddynt?

Mae esiamplau o’r mathau o bryderon y gallwn ni ymchwilio yn cynnwys:

Diffygion mewn perfformiad proffesiynol

  • anonestrwydd neu gam-drin ymddiriedaeth rhywun
  • diffyg cwrdd â safonnau disgwyliedig
  • cyflawni twyll
  • ceisio cuddio camgymeriadau neu rwystro ymchwiliad
  • ddim yn dilyn polisi a gweithdrefnau.

Camau gweithredu sy’n rhoi eraill mewn perygl

  • perthynas amhriodol â rhywun sy’n defnyddio gwasanaethau
  • ecsbloetio person agored i niwed
  • cam-drin sylweddau
  • ymddygiad bygythiol neu dreisgar
  • problem iechyd nad yw’r person cofrestredig wedi dweud wrthym ni amdano, a allai roi defnyddwyr gofal a chymorth mewn perygl.

Camau gweithredu a allai danseilio hyder y cyhoedd mewn gofal cymdeithasol

  • dim parchu hawliau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth
  • ymddygiad gallai niweidio eraill neu danseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.

Pryderon na allwn ymchwilio iddynt

Ni allwn ymchwilio i bryderon ynghylch:

  • gweithiwr gofal cymdeithasol sydd heb gofrestru gyda ni (yn hytrach, dylech gysylltu â’u cyflogwr). Edrychwch ar y Gofrestr yma
  • sefydliad (yn lle, cysylltwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru)
  • rhywbeth sydd wedi digwydd mwy na pum mlynedd yn ôl, oni bai bod ymchwiliad er budd y cyhoedd (i warchod lles y cyhoédd)
  • proses disgyblu sefydliad: ni allwn ddisgyblu rhywun, eu diswyddo na newid canlyniad ymchwiliad disgyblu
  • anghytundeb ag unrhyw beth a godwyd yn y llys neu benderfyniad llys (yn hytrach, dylech godi’r rhain yn y llys).

Sut i godi pryder

Gall unrhyw un godi pryder gyda ni, cyn belled â’u bod yn rhoi’r manylion sydd eu hangen arnom i’w ystyried ymhellach. Efallai eich bod yn aelod o’r cyhoedd, yn rhywun sy’n gweithio gyda gweithiwr cofrestredig, neu’n gyflogwr.

Gellir codi pryderon drwy gwblhau a chyflwyno’r ffurflen ar-lein.

Chwythu’r Chwiban

Rydym yn derbyn adroddiadau chwythu’r chwiban, weithiau gellir galw’r rhain yn ddatgeliadau gwarchodedig. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gorff sy’n diogelu’r cyhoedd. Mae gennym ddyletswydd i ymateb i adroddiadau chwythu’r chwiban ac i roi gwybod i’r llywodraeth am unrhyw achosion o chwythu’r chwiban.

  • rydych chi’n chwythwr chwiban os ydych chi’n weithiwr ac yn rhoi gwybod am fathau penodol o ddrwgweithredu. Bydd hyn fel arfer yn rhywbeth rydych chi wedi’i weld yn y gwaith – ond nid bob amser
  • rhaid i’r drwgweithredu a ddatgelwch fod er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo effeithio ar eraill, er enghraifft, y cyhoedd
  • fel chwythwr chwiban, rydych yn cael eich amddiffyn gan y gyfraith – ni ddylech gael eich trin yn annheg na cholli eich swydd oherwydd eich bod yn ‘chwythu’r chwiban’
  • gallwch godi eich pryder ar unrhyw adeg am ddigwyddiad a gododd yn y gorffennol, sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu rydych chi’n credu y bydd yn digwydd yn fuan.

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei phrosesu yn unol â rheolau diogelu data fel rhan o’r ymchwiliad. Gellir ei rhannu ag asiantaethau eraill, gan gynnwys:

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn rhoi caniatâd i’r wybodaeth gael ei defnyddio fel rhan o’n cyfrifoldebau cyfreithiol.

Os ydych eisoes wedi mynegi pryder chwythu'r chwiban gyda ni am weithiwr sydd wedi'i gofrestru gyda ni, ac yn teimlo y gallai fod angen rhywfaint o gymorth arnoch, holwch am y cymorth y gallwch ei gael gan y gwasanaeth cymorth llesiant.

Beth sy’n digwydd ar ôl codi pryder?

Pan fydd pryder am weithiwr yn cael ei godi gyda ni, byddwn yn edrych i weld a yw’r wybodaeth yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.

Os yw'n rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo, byddwn yn rhoi gwybod i’r person cofrestredig am yr honiadau ac yn gofyn iddynt am ymateb. Gallant barhau i weithio oni bai ein bod yn dweud fel arall wrthynt.

Os fyddwn yn asesu pryder fel risg uchel i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, byddwn naill ai yn:

  • gofyn i banel wneud gorchymyn i atal y gweithiwr cofrestredig dros dro, neu’n
  • gosod amodau i’r person cofrestredig eu bodloni tra byddwn yn cynnal ein hymchwiliad.

Byddwn bob amser yn asesu risg a sut mae'n cael ei reoli gan gyflogwyr neu wasanaethau eraill.

Er enghraifft, os mae gweithiwr cofrestredig eisoes yn treulio dedfryd o garchar, byddem yn eu hasesu fel risg uchel. Mae’r risg i ddefnyddwyr gofal a chymorth yn cael ei reoli gan y gwasanaeth carchardai, felly mae'n bosib na fyddwn yn ceisio gorchymyn atal dros dro.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr bob wyth wythnos nes bydd yr ymchwiliad wedi dod i ben, a byddwn yn rhoi gwybod iddynt beth yw’r canlyniad. Ni allwn ddweud wrth aelodau’r cyhoedd sydd wedi gwneud atgyfeiriad beth sy’n digwydd mewn ymchwiliad oherwydd cyfrinachedd. Does dim amserlenni ar gyfer pa mor hir y gall ymchwiliad gymryd.

Darparu datganiad tyst

Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ddatganiad tyst i’n helpu i wirio’r wybodaeth sydd gennym ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennym.

Os ydych chi’n gyflogwr sydd wedi codi pryder gyda ni, bydd ein swyddog achos yn cysylltu â chi i ofyn am ganiatâd i gyfweld staff penodol. Byddant yn trefnu amser cyfleus i gwrdd â staff ac egluro’r broses. Os bydd y person cofrestredig yr ymchwilir iddo yn cael ei gyfeirio at wrandawiad addasrwydd i ymarfer, efallai y byddwn yn gofyn i’r staff hyn fod yn dystion i ni.

Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd sydd wedi codi pryder gyda ni, bydd ein swyddog achos yn cysylltu â chi i ofyn am ddatganiad. Byddant yn trefnu amser cyfleus i gwrdd â chi ac egluro’r broses. Os bydd y person cofrestredig yr ymchwilir iddo yn cael ei gyfeirio at wrandawiad addasrwydd i ymarfer, efallai y byddwn yn gofyn i’ chi fod yn dyst i ni.

Os gofynnwyd i chi fod yn dyst mewn gwrandawiad, gallwch wylio’r fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl.

Beth sy’n digwydd pan fydd ymchwiliad wedi’i gwblhau?

Ar ôl i ni orffen ein hymchwiliad, byddwn yn ystyried sut mae cau’r achos. Dim ond tua 10% i 15% o’n hymchwiliadau sy’n arwain at wrandawiad terfynol addasrwydd i ymarfer, ac mae’r rhan fwyaf o achosion yn cau gyda chanlyniadau eraill.

Gallwn benderfynu peidio â chymryd camau pellach, neu gallwn ddefnyddio penderfyniadau swyddogion, fel:

  • rhybuddion am gyfnod penodol o amser
  • ymgymeriadau – cytundeb rhwng y gweithiwr cofrestredig a Gofal Cymdeithasol Cymru i gwblhau tasg benodol mewn cyfnod penodol
  • dileu trwy gytundeb – cais gan y gweithiwr cofrestredig i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr gofal cymdeithasol, y gallwn ei ystyried yn dibynnu ar natur ac amgylchiadau’r achos.

Bydd rhybuddion ac ymgymeriadau yn ymddangos ar gofnod y person cofrestredig ar y Gofrestr hyd nes y byddant yn dod i ben.

Bydd diddymiadau trwy gytundeb yn cael eu cyhoeddi am 2 flynedd a gellir eu gweld ar ein tudalen canlyniadau gwrandawiadau.

Gall pryderon mwy difrifol eraill gael eu cyfeirio at banel addasrwydd i ymarfer. Dysgwch fwy am ganlyniadau gwrandawiadau panel.

Cyngor i gyflogwyr am godi pryder am weithiwr

Mae gan gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol ddyletswydd i roi manylion i ni am unrhyw bryderon sydd gennych am berson cofrestredig cyn gynted â phosibl.

Pryd i gyfeirio gweithiwr atom ni

Mae cyflogwyr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o asesu a delio ag unrhyw honiad(au) am addasrwydd gweithiwr i ymarfer.

Dylech gyfeirio gweithwyr atom ar ddechrau’r prosesau os:

  • yw’r gweithiwr wedi’i atal dros dro neu wedi’i ddiswyddo
  • yw'r gweithiwr wedi ymddiswyddo neu wedi gadael cyn i'r broses ddisgyblu ddod i ben a'r canlyniad fyddai diswyddo
  • yw’r gweithiwr yn destun ymchwiliad diogelu neu ymchwiliad gan yr heddlu.

Fel arall, dylech roi gwybod i ni ar ddiwedd y broses.

Dylech roi gwybod i ni pan fydd prosesau’n mynd rhagddynt, rhoi gwybod i ni pan fyddant wedi’u cwblhau a rhoi unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol i ni. Os bydd gweithiwr yn gadael yn ystod yr ymchwiliad, rydym yn eich annog i gwblhau’r broses ddisgyblu, gan gynnwys y gwrandawiad.

Gwybodaeth i'w rhannu â’r tîm Addasrwydd i Ymarfer

Pan fyddwch yn gwneud atgyfeiriad i’r tîm addasrwydd i ymarfer, bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:

  • yr honiadau yr ydych yn eu hatgyfeirio
  • unrhyw gamau a gymerwyd gennych, gan gynnwys unrhyw asesiadau risg a wnaethoch
  • statws presennol cyflogaeth y gweithiwr, e.e. a yw mewn gwaith, wedi cael ei symud i waith arall, wedi’i atal rhag gweithio, ac ati
  • a yw’r Heddlu neu’r Awdurdod Lleol yn cynnal ymchwiliad Diogelu
  • cynnydd eich ymchwiliad.

Os byddwch yn atgyfeirio atom ni yn nes ymlaen, neu ar ddiwedd eich ymchwiliad, efallai y bydd angen y canlynol arnom hefyd:

  • adroddiad eich ymchwiliad ac atodiadau
  • datganiadau tystion
  • llythyrau disgyblu, cofnodion a chanlyniadau a anfonwyd at y gweithiwr
  • disgrifiad swydd y gweithiwr
  • cofnodion hyfforddi
  • adroddiadau iechyd galwedigaethol (gyda chaniatâd y gweithiwr)
  • unrhyw ddogfennau apêl a llythyr canlyniad.

Os na fydd eich ymchwiliad yn gyflawn pan fyddwch yn atgyfeirio at y tîm addasrwydd i ymarfer, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • manylion yr honiad(au)
  • statws cyflogaeth presennol y Person Cofrestredig
  • copïau o lythyrau a anfonwyd at y Person Cofrestredig ynghylch yr ymchwiliad
  • unrhyw dystiolaeth sydd ar gael.

Gall cyflogwyr sy’n dymuno gwneud atgyfeiriad godi pryder ar-lein.

Dyma enghreifftiau o bryderon nad oes angen eu cyfeirio atom:

  • materion cyflogaeth lle mae’r materion yn gysylltiedig â gwyliau blynyddol, absenoldeb hwyrni neu salwch
  • lle mae materion ar lefel isel neu pan fydd y cyflogwr, wedi cyhoeddi pryder, ond ni roddwyd sancsiwn disgyblu
  • pryderon na ymchwiliwyd ymhellach, ar ôl eu hystyried yn y lle cyntaf.

Camddefnyddio teitl gweithwyr cymdeithasol

Os ydych chi’n meddwl bod person yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol neu’n galw ei hun yn weithiwr cymdeithasol, pan nad oes ganddynt y cymwysterau angenrheidiol neu os nad ydynt wedi cofrestru gyda ni, dylech godi pryder ar unwaith.

Cytundebau cyfaddawdu

Cytundeb cyfaddawd yw setliad rhwng cyflogwr a gweithiwr. Mae’n amlinellu’r telerau y cytunwyd arnynt rhwng y ddau er mwyn datrys anghydfod ynghylch a chyflogaeth a bydd yn arwain at daliad.

Pan fydd dyletswydd i gyfeirio gweithiwr atom, dylech wneud hynny hyd yn oed os yw cytundeb cyfaddawd wedi’i lofnodi. Nid oes angen i ni gael manylion am unrhyw arian a dalwyd ond mae angen i ni wybod y rhesymau dros y cytundeb cyfaddawd.

Pan fyddwch yn ysgrifennu cytundeb, dylech ei wneud yn glir na fydd unrhyw gymal cyfrinachedd yn berthnasol i’r wybodaeth a drosglwyddir i ni.

Y rheolau rydym yn eu defnyddio i ymchwilio i bryderon

Mae rheolau yn nodi sut y gallem ymateb i honiad bod rhywun ar y Gofrestr yn anaddas i ymarfer. Maent yn dangos yr opsiynau sydd ar gael i'n tîm addasrwydd i ymarfer yn ystod y cam ymchwilio, a'r broses o ddelio â honiad ar lefel swyddog neu wedi’i gyfeirio at banel addasrwydd i ymarfer.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Hydref 2019
Diweddariad olaf: 16 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (62.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch