Efallai eich bod yn gyflogwr, yn gydweithiwr, yn chwythwr chwiban, yn rhywun sy’n defnyddio gofal a chymorth neu’n aelod o’u teulu.
Mae’r ymchwiliad yn cael ei reoli gan un swyddog addasrwydd i ymarfer. Os mai chi yw’r cyflogwr, bydd y swyddog achos yn gofyn am wybodaeth gennych chi ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am hynt yr achos.
Pan fydd pryderon wedi cael eu codi gan unrhyw un ar wahân i’r cyflogwr neu gorff proffesiynol, er enghraifft rheoleiddiwr arall, Arolygiaeth Gofal Cymru neu’r heddlu, ni fydd y swyddog achos yn gallu siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd yn yr achos.
Bydd swyddogion achos yn gallu egluro camau ymchwiliad i chi a’r gwahanol fathau o ganlyniadau ar gyfer ein hachosion. Mae ein hymchwiliadau’n gymhleth, felly maen nhw’n cymryd amser ac yn aml yn golygu casglu tystiolaeth tystion fel rhan o’r achos.