Jump to content
Digwyddiadau cymwysterau a safonau iechyd a gofal cymdeithasol

Dyma restr o ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer darparwyr dysgu, cyflogwyr a rheolwyr sydd eisiau cefnogi staff gyda'u cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydyn ni'n cynnal:

  • gweithdai ar gyfer darparwyr dysgu sy'n cefnogi dysgwyr ar y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol L2, L3, L4 a L5
  • gweithdai ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr sy'n cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau.
Gweithdai datblygiad proffesiynol ar gyfer darparwyr dysgu

Fe fydd y gweithdai yma yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) darparwyr dysgu sy’n cefnogi’r cymwysterau gofal plant, chwarae, dysgu a datblygu (CCPLD) ac iechyd a gofal cymdeithasol (HSC).

Gweithdai ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr

Helpu rheolwyr a chyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr i ennill eu cymwysterau

Mae'r gweithdai yma ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr lleoliadau gofal cymdeithasol sy'n cefnogi gweithwyr i gwblhau’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) ac i ennill eu cymwysterau Lefel 2 a 3 iechyd a gofal cymdeithasol.

  • Dydd Iau, 21 Tachwedd, 1.30pm i 4.30pm, arlein.
  • Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025, wyneb yn wyneb (i'w gadarnhau).
  • Dydd Iau, 13 Mawrth 2025, wyneb yn wyneb (i'w gadarnhau).

    Mae'r gweithdai yma ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr sy'n cefnogi’r gweithlu i gwblhau’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol ac i ennill eu cymwysterau Lefel 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Dydd Iau 5 Rhagfyr, 1.30pm i 4.30pm, arlein.
  • Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025, 9.30am i 12.30pm, arlein.
Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Hydref 2023
Diweddariad olaf: 28 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (24.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch