Jump to content
Beth yw gofal cymdeithasol?

Mae’r cynnwys canlynol yn egluro beth yw gofal cymdeithasol yng Nghymru, sut mae’n gweithio, pwy sy’n ei ddarparu, a’r ffyrdd y gall pobl gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Taflen beth yw gofal cymdeithasol

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael fel taflen pdf.

Taflen pdf: Beth yw gofal cymdeithasol?

Beth yw gofal cymdeithasol?

Mae gofal cymdeithasol yn darparu cymorth i bobl o bob oed sy’n byw mewn cymunedau ledled Cymru, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i lawer o bobl yng Nghymru, ond mae’n aml yn cael ei gamddeall. Mae’n derm eang sy’n disgrifio gofal a chymorth sy’n galluogi pobl o bob oed i reoli eu bywydau bob dydd, yn aml pan fyddan nhw’n wynebu heriau anodd a chymhleth. Mae’n wasanaeth statudol, sy’n golygu yn ôl y gyfraith bod yn rhaid i gynghorau ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol pan asesir bod angen hynny ar bobl.

Roedd gan mwy na 75,000 o oedolion, plant a gofalwyr gynllun gofal a chymorth ar waith ar 31 Mawrth 2023.

Beth mae gofal cymdeithasol yn ei wneud?

Mae pobl yn defnyddio gofal a chymorth am wahanol resymau. Gallai fod i gael cymorth, i sefydlu amgylcheddau diogel a sefydlog, i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol neu i fyw’n annibynnol.

Mae gofal cymdeithasol yn cwmpasu ystod o weithgareddau a gall gynnwys:

  • gweithio gyda phobl i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw, a datblygu cynlluniau i’w cefnogi pan fydd ei angen arnyn nhw
  • darparu gofal personol, fel helpu pobl i ymolchi, gwisgo neu gymryd eu meddyginiaeth
  • darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i helpu plant, oedolion a theuluoedd i reoli eu llesiant
  • cysylltu pobl â chymunedau lleol
  • darparu cyngor, gwybodaeth ac offer
  • cadw plant, oedolion a theuluoedd yn ddiogel.

Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?

Pam mae gofal cymdeithasol yn bwysig?

Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i’n cymdeithas oherwydd ei fod yn:

  • chwarae rhan bwysig wrth gefnogi llesiant ac annibyniaeth pobl
  • gweithio ochr yn ochr â’r GIG
  • cyfrannu’n sylweddol at yr economi
  • gwneud yn siŵr bod gan bawb, waeth beth fo’u cefndir neu’u gallu, fynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Ble mae gofal cymdeithasol yn digwydd?

Gall gofal cymdeithasol ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys:

  • cartrefi pobl
  • cartrefi gofal
  • canolfannau dydd
  • ysbytai
  • lleoliadau cymunedol eraill.

Pwy sy’n darparu gofal cymdeithasol?

Mae mwy na 1,200 o sefydliadau yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Maen nhw’n cynnwys:

  • cynghorau
  • cwmnïau preifat
  • sefydliadau di-elw, fel elusennau.

Mae sefydliadau gofal cymdeithasol yn gweithio gyda phroffesiynau eraill, fel iechyd, addysg a’r heddlu, i ddarparu gwasanaethau gydag uniondeb, empathi ac arbenigedd.

Mae llawer iawn o ofal hefyd yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl. Mae’r rhain yn bobl sy’n gofalu am aelodau o’u teulu a ffrindiau. Gall gofalwyr di-dâl hefyd gael mynediad at ofal cymdeithasol.

  • Mae mwy na 300,000 o bobl yn darparu gofal di-dâl yng Nghymru.
  • Mae 8,200 o ofalwyr di-dâl rhwng pump ac 17 oed.

Pwy sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol?

Mae mwy na 80,000 o bobl yn gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus iawn. Maen nhw’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol
  • gweithwyr gofal cartref, sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain
  • gweithwyr gofal preswyl, sy’n gweithio mewn lleoliadau, fel cartrefi plant neu gartrefi gofal i oedolion.

Mae’r gweithwyr hyn yn cefnogi pobl i:

  • fynegi beth sy’n bwysig iddyn nhw a gosod amcanion trwy adeiladu perthnasoedd ystyrlon sy’n gwerthfawrogi eu profiadau, eu hiaith a’u diwylliant
  • nodi a gwneud y gorau o’u cryfderau personol, eu sgiliau a’u rhwydweithiau cymorth, gan gynnwys teulu, ffrindiau ac adnoddau yn eu cymuned leol.

Maen nhw hefyd yn gweithio gyda phobl mewn sefyllfaoedd argyfwng byr dymor a gweithio gyda phobl dros y tymor hwy yn dibynnu ar eu hanghenion.

Sut mae pobl yn cael mynediad at ofal cymdeithasol?

Mae 22 cyngor yng Nghymru. Mae cynghorau yn chwarae rôl hanfodol wrth drefnu a chysylltu pobl â’r gofal a’r cymorth cywir.

Mae cynghorau yn defnyddio proses asesu i ddeall cryfderau pobl ac anghenion gofal a chymorth. Os yw’n briodol, byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i lunio cynllun gofal a chymorth.

Mae gan fwy nag 1 o bob 50 o bobl yng Nghymru gynllun gofal a chymorth.

Mae’r cynllun gofal a chymorth yn nodi’r hyn sy’n bwysig i’r person a sut y byddan nhw’n cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol.

Sut mae gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu?

Mae cynghorau yn asesu a yw anghenion pobl yn gymwys i gael cymorth a chyllid. Bydd yn rhaid i rai oedolion dalu tuag at eu gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan fod rhai gofal cymdeithasol i oedolion yn wasanaeth prawf modd.

Efallai y bydd yn rhaid i bobl sydd â lefelau uchel o incwm gwario neu sydd â chynilion a buddsoddiadau o fwy na £24,000 dalu hyd at £100 bob wythnos am ofal amhreswyl. Efallai y bydd yn rhaid i’r rhai sydd â chyfalaf o fwy na £50,000 dalu cost lawn unrhyw ofal preswyl.

Gall cynghorau hefyd ddarparu taliadau i bobl tuag at gost eu gofal a’u cymorth. Gelwir y rhain yn daliadau uniongyrchol. Mae llawer o bobl yn eu defnyddio i gyflogi eu gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain, sy’n cael eu hadnabod fel cynorthwywyr personol.

Mae cynghorau hefyd yn gweithio gydag ystod o sefydliadau gwirfoddol i roi gwasanaethau ataliol ar waith i gadw pobl yn iach ac yn annibynnol.

Sut mae safonau uchel yn cael eu cynnal mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol?

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae’n cofrestru, archwilio ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu graddio’n ‘dda’ neu’n ‘ardderchog’.

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio gennym ni. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr:

  • cofrestru
  • cyflawni cymwysterau penodol
  • dilyn Cod Ymarfer Proffesiynol.

Mae’r Cod Ymarfer hwn yn gosod safonau ymddygiad i gefnogi diogelwch a llesiant pobl.

A oes deddfwriaeth benodol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn rhwym i ddeddfwriaeth genedlaethol, fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r ddeddf yn sicrhau bod gwasanaethau yn gweithio gyda phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth i nodi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae hefyd yn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod wrth wraidd y gofal a’r cymorth y maen nhw’n eu derbyn.

Mae’r ddeddf wedi’i hadeiladu ar bum egwyddor:

  1. Llais a rheolaeth: rhoi pobl wrth wraidd eu gofal a’u cymorth
  2. Atal ac ymyrryd yn gynnar: gallu cael gafael ar gyngor a chymorth amserol i atal pethau rhag cyrraedd pwynt argyfwng
  3. Llesiant: gwneud yn siŵr bod pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl yn gallu mwynhau llesiant ym mhob rhan o’u bywydau
  4. Cydgynhyrchu: cynnwys a gweithio gyda phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, eu teulu, eu ffrindiau a’u gofalwyr wrth ddylunio’r gofal a’r cymorth y maen nhw’n eu defnyddio
  5. Aml-asiantaeth: meithrin perthnasoedd cryf rhwng asiantaethau partner, gan gynnwys gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, gwasanaethau prawf, tai, gwasanaethau cymunedol a’r sector gwirfoddol.