Jump to content
Cwestiynau cyffredin am ein llwybr cofrestru asesiad gan gyflogwr

Bydd ein llwybr asesiad gan gyflogwr ar gyfer cofrestru yn caniatáu i gyflogwyr gymeradwyo cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl eu hasesu yn erbyn rhestr o gymwyseddau.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin isod ynglŷn â’r llwybr asesiad gan gyflogwr.

1. Beth yw’r llwybr cofrestru asesiad gan gyflogwr?

Mae'r llwybr yma'n caniatáu i gyflogwyr gymeradwyo cais gan eu gweithwyr i gofrestru ar ôl asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd. Mae'r llwybr hwn ar gyfer pobl nad oes ganddynt gymhwyster gofynnol.

2. Sut penderfynon ni ar y rhestr o feysydd yn yr asesiad gan gyflogwr?

Wrth i’r gweithlu gofal cymdeithasol barhau i dyfu, rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw i wneud ein proses gofrestru’n symlach er mwyn helpu annog pobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Gwrandaom ar y sector a defnyddio’r adborth a gawsom i lunio’r rhestr hon. Mae’r rhestr wedi’i seilio ar ddeall egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru, y bydd eu hangen ar weithiwr gofal cymdeithasol i gyflawni ei rôl. Dylech gynnwys y meysydd hyn yn y sesiwn sefydlu yn y gweithle.

Ar ôl cofrestru, bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn datblygu eu dealltwriaeth ymhellach trwy gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan. Bydd hefyd angen iddynt gwblhau’r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau o fewn tair blynedd.

Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni’r cymhwyster o fewn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf, ond mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.

3. A fydd yr Egwyddorion a’r Gwerthoedd a Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gael o hyd?

Byddant ar gael o hyd mae'r egwyddorion a gwerthoedd yn rhan un a dau or llyfrau o fewn Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan. Ni fydd gweithwyr yn gallu eu defnyddio I gofrestru o fis Hyrdef 2022 ymlaen.

4. A oes angen i weithwyr gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan o hyd?

Oes, bydd angen i bob gweithiwr gofal cymdeithasol gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan, ond nid yw'n ofynnol ar gyfer cofrestru gyda ni.

5. Pwy all gofrestru gan ddefnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr?

Unrhyw un sydd eisoes yn cael ei gyflogi gan ddarparwr gofal cymdeithasol rheoleiddiedig yng Nghymru fel:

  • gweithiwr cartref gofal i oedolion
  • gweithiwr gofal cartref
  • gweithiwr gofal preswyl i blant
  • gweithiwr cymorth mewn canolfan breswyl i deuluoedd. 

Mae’n rhaid i’r rheolwr fod yn hyderus bod y gweithiwr yn meddu ar y ddealltwriaeth angenrheidiol, a amlinellir yn yr asesiad gan gyflogwr.

6. Beth fydd yn digwydd os nad yw fy nghyflogai’n meddu ar y ddealltwriaeth briodol?

Os nad ydych yn hyderus bod y gweithiwr yn meddu ar y ddealltwriaeth briodol, peidiwch â chymeradwyo ei gais i gofrestru. Yn lle hynny, dylech weithio gyda’ch cyflogai i ddatblygu ei ddealltwriaeth fel ei bod ar lefel briodol.

Os bydd hyn yn cymryd mwy o amser na’r cyfnod sydd ganddo i gofrestru, cysylltwch â’n tîm cofrestru.

7. A fydd angen i weithiwr gofal cymdeithasol sy’n cofrestru gan ddefnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr gwblhau cymhwyster cyn y gall adnewyddu ei gofrestriad?

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n defnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr gwblhau’r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Ond mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.

8. Os bydd rhywun yn cofrestru gan ddefnyddio’r llwybr hwn ac yn newid cyflogwr, a fydd ei gofrestriad yn ddilys o hyd?

Bydd. Mae asesiad gan gyflogwr yn fodd i weithwyr gofrestru, a bydd y cofrestriad hwn yn ddilys am dair blynedd. Nid yw cofrestriad yn gysylltiedig â sefydliad; cofrestriad personol ydyw.

9. Pa dystiolaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer yr asesiad gan gyflogwr?

Rydym wedi llunio rhestr o’r hyn y mae angen i weithwyr gofal cymdeithasol ei ddeall, ac y mae’n rhaid i’r rheolwr ei asesu.

Defnyddir y rhestr i gadarnhau bod y gweithiwr gofal cymdeithasol yn meddu ar y ddealltwriaeth briodol. Efallai byddwn yn archwilio samplau ac yn gofyn am gopïau o’r dystiolaeth a ddefnyddioch i wneud eich penderfyniad. Gwneir hyn er mwyn i ni fod yn fodlon bod gweithwyr yn addas i’w cofrestru.

Gallai rheolwyr sy’n rhoi gwybodaeth anwir fod yn destun achos addasrwydd i ymarfer ac fe allent gael eu dileu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol o ganlyniad. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhoi gwybod i ni os oes ganddi unrhyw bryderon am gymhwysedd unigolyn cofrestredig.

10. Sut mae rheolwr cofrestredig yn asesu a chadarnhau dealltwriaeth gweithiwr gofal cymdeithasol?

Pan fydd y rheolwr a’r gweithiwr yn fodlon bod pob maes wedi’i fodloni, a bod y dystiolaeth wedi cael ei hamlygu, gall y gweithiwr wneud cais i gofrestru.

Bydd angen i’r gweithiwr ddewis y llwybr asesiad gan gyflogwr ar ei gais a dethol ei reolwr cofrestredig.

Anfonir neges e-bost at y rheolwr yn gofyn iddo fewngofnodi i’w gyfrif GCCarlein a chwblhau’r datganiad yn electronig.

Dyma fideo canllaw cyflym i gyflogwyr i'w helpu i ddeall sut i reoli ceisiadau asesu cyflogwr rydym yn eu gwneud yn eu cyfrif GCCarlein.

11. Beth os nad oes rheolwr cofrestredig neu os yw’n absennol o’r sefydliad?

Yn absenoldeb rheolwr cofrestredig, mae’n rhaid i’r unigolyn cyfrifol ar gyfer eich sefydliad nodi unigolyn perthnasol i asesu a chadarnhau’r cais. Gallai hwn fod yn rheolwr Adnoddau Dynol neu hyfforddiant sydd â mynediad at gofnodion y gweithiwr gofal cymdeithasol. Nid oes angen i’r unigolyn perthnasol fod wedi’i gofrestru, ond bydd angen iddo ddod yn llofnodwr ar gyfer y sefydliad. Bydd ein tîm cofrestru yn gallu eich helpu gyda hyn.

12. A oes terfyn ar nifer y gweithwyr a all ddefnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr o unrhyw sefydliad unigol?

Nac oes.

13. A yw datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn berthnasol?

Ydyw. Mae’n rhaid i bob gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig gwblhau 45 awr o hyfforddiant a dysgu DPP bob tair blynedd.

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig gadw cofnod o’u hyfforddiant a’u dysgu yn eu cyfrif GCCarlein personol. Fe’u hanogwn i’w ddiweddaru wrth iddynt gwblhau eu hyfforddiant a’u dysgu. Bydd hyn yn gwneud y broses adnewyddu’n gyflymach ac yn haws o lawer iddynt.

Cyhoeddwyd gyntaf: 14 Chwefror 2022
Diweddariad olaf: 30 Awst 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (50.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch