Jump to content
Codau Ymarfer Proffesiynol

Gwybodaeth am ein Codau Ymarfer Proffesiynol, canllawiau ymarfer ac adnoddau defnyddiol.

Beth yw'r Codau Ymarfer Proffesiynol?

I wneud yn siŵr fod gweithwyr yng Nghymru yn rhoi gofal a chymorth da i chi, mae gennym ni ddau god ymarfer proffesiynol:

  • Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
  • Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Cyfogwyr Gofal Cymdeithasol

Safonau yw'r codau sy'n nodi'r hyn a ddisgwylir gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Rhaid i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni ddilyn y Cod Gweithwyr.

Mae'r codau wedi newid

Rydyn ni wedi diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol i'w gwneud yn gliriach ac yn haws i'w dilyn.

Dylai gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr nawr ddilyn y Codau Ymarfer Proffesiynol newydd. Nid yw'r codau blaenorol yn cael eu defnyddio bellach.

Beth sydd wedi newid?

Edrychwch ar ein canllawiau cyflym i weld beth sydd wedi newid yn y codau:

Mae'r codau, canllawiau ymarfer a gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl gan weithiwyr gofal cymdeithasol ar gael isod.