Jump to content
Sut gallwn ni eich cefnogi chi fel person cofrestredig

Beth mae'n ei olygu i fod yn weithiwr cofrestredig

Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru gofrestru gyda ni oherwydd ei fod yn ofyniad cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru.

Mae rheoleiddio yn diogelu'r cyhoedd trwy wneud yn siŵr bod y bobl sydd wedi'u cofrestru gyda ni yn ddiogel i weithio ym maes gofal.

Mae bod ar y Gofrestr yn golygu eich bod chi’n rhan o weithlu proffesiynol a gallwch chi ddangos bod gennych chi’r sgiliau a'r wybodaeth i ddarparu gofal a chefnogaeth dda i bobl Cymru.

✅ Mae gennym ni lawer o wybodaeth ac adnoddau i'ch cefnogi chi.

Eich cefnogi chi gyda'ch cofrestriad

  • Gallwch chi reoli eich cofrestriad trwy GCCarlein.
  • Mae gennym ni adnoddau i'ch tywys chi drwy'r broses gofrestru

Eich cefnogi chi i ddatblygu eich gyrfa a darparu gofal a chefnogaeth broffesiynol a diogel

Cefnogi eich iechyd a'ch llesiant

  • Ar ein tudalennau llesiant mae gwybodaeth i'ch cefnogi chi gyda'ch llesiant corfforol, meddyliol ac ariannol. Mae yna hefyd wybodaeth am gael mynediad at linell gymorth o'r enw Canopi.

Sut allwch chi gefnogi eraill sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol

  • Gallwch chi ddweud eich dweud trwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau, arolygon a digwyddiadau.
  • Dewch yn llysgennad ar gyfer gofal cymdeithasol trwy gynllun Llysgenhadon Gofalwn.