Mae staff yng nghartref gofal Haulfryn yn Wrecsam,gogledd Cymru yn defnyddio'r Gymraeg yn fwy hyderus ar ôl mynychu cyrsiau dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, gyda chefnogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae tri aelod o staff yn Haulfryn wedi elwa o gynnig Cymraeg Nant Gwrtheyrn. Dywed y Perchennog a'r Unigolyn Cyfrifol Clare Roberts, y Rheolwr Cofrestredig Abbie Edwards, a'r Dirprwy Reolwr dan Hyfforddiant Elysia Sauvage, fod y profiad wedi eu helpu i wella eu sgiliau Cymraeg, magu hyder a chryfhau'r gofal maen nhw'n ei ddarparu.
Mae staff Haulfryn yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia. Wrth i ddementia fynd yn ei flaen, gall adael rhai pobl yn methu cyfathrebu yn Saesneg, felly gall siarad Cymraeg - hyd yn oed ychydig o eiriau - wneud gwahaniaeth. Dysgodd Abbie Gymraeg yn yr ysgol ond doedd hi erioed yn teimlo'n hyderus yn ei siarad. "Cyn y cwrs, doeddwn i ddim yn hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg, ond gallaf ddweud nawr fy mod i'n siaradwr Cymraeg rhugl," meddai Abbie.
I Elysia, roedd mynychu'r cwrs yn golygu mentro i dir newydd. "Roeddwn i'n nerfus iawn," meddai. "Doeddwn i erioed wedi gweithio oddi cartref o'r blaen, ac roedd yn rywbeth cwbl newydd i mi. Ond roeddwn i'n gwybod ei fod yn gyfle na allwn ei golli."
Er ei bod eisoes yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, roedd Elysia yn ddi-hyder yn ei ddefnyddio yn y gwaith. "Roeddwn i'n gwybod y gallwn wneud mwy. Mae gan rai o fy nghydweithwyr sgiliau Cymraeg rhagorol ac yn gallu cyfathrebu â siaradwyr Cymraeg mewn ffyrdd ystyrlon. Roeddwn i eisiau gwneud yr un peth. Roeddwn i'n teimlo bod fy Nghymraeg cyfyngedig yn fy nal yn ôl yn fy rôl."
Pan gynigiodd Gofal Cymdeithasol Cymru gyfle i staff Haulfryn fynychu cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn, bachon nhw ar y cyfle. Rhoddodd y cwrs gyfle i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd wrth ymgolli yn niwylliant, hanes a threftadaeth Cymru.
"Rwy'n deall pa mor bwysig yw cyfathrebu â phreswylwyr, teuluoedd a staff yn yr iaith maen nhw'n ei ddewis," meddai Abbie.
"Roeddwn i eisiau adeiladu fy hyder yn y Gymraeg mewn ffordd ymarferol," ychwanegodd Clare. "Roeddwn i hefyd eisiau dysgu ochr yn ochr â'n tîm a dangos pa mor bwysig yw Cymraeg i'n gwasanaeth."
Roedd lleoliad unigryw Nant Gwrtheyrn yn uchafbwynt arall.
Meddai Abbie, "Mae Nant Gwrtheyrn yn le arbennig i ddysgu. Mae'r lleoliad yn brydferth ac yn llawn diwylliant, hanes ac ysbryd cymunedol.
"Roedd y cwrs yn caniatáu i mi ymgolli'n llwyr yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Fe wnaeth fy helpu i ddarparu gwasanaeth mwy cynhwysol a sy’n canolbwyntio ar y person."
Rhoddodd y cwrs preswyl gyfle i gyfranogwyr gwrdd â gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru a oedd yn gweithio i wella eu sgiliau Cymraeg.
Dywedodd Clare fod yr awyrgylch gefnogol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. "Roeddwn i'n mwynhau gallu defnyddio'r Gymraeg heb boeni am wneud camgymeriadau. Roedd yn ysbrydoledig cwrdd â phobl o wahanol rannau o iechyd a gofal cymdeithasol sydd i gyd yn rhannu'r un nod."
Ers cwblhau'r cwrs, mae staff wedi gweld newidiadau cadarnhaol ar draws y cartref gofal. Mae Haulfryn wedi cryfhau ei ymrwymiad i'r Cynnig Rhagweithiol a darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Ym mis Chwefror 2025, cydnabuodd Arolygiaeth Gofal Cymru y cartref am y gwaith o ddarparu gwasanaethau drwy Gynnig Rhagweithiol Cymraeg.
Mae'r cwrs hefyd wedi agor cyfleoedd newydd i staff, sydd bellach yn gallu cwblhau cymwysterau yn y Gymraeg.
I Elysia, mae'r effaith wedi bod yn bersonol ac yn broffesiynol.
Dywedodd Elysia, "Rydyn ni wedi datblygu strategaeth glir i hyrwyddo'r Gymraeg ar draws y sefydliad ac wedi creu diwylliant dwyieithog cadarnhaol. Fel arweinydd, roeddwn i eisiau chwarae fy rhan a chefnogi'r daith honno.
"Rwy'n gallu siarad yn fwy hyderus gyda siaradwyr Cymraeg yn y cartref a deall yn well beth mae pobl yn ceisio ei ddweud wrtha i. Mae hynny'n fy helpu i gefnogi eu dewisiadau, eu hanghenion a'u dymuniadau.
"Rwyf hefyd yn gallu cynnwys mwy o wybodaeth yn Gymraeg yn eu cynlluniau personol, gan ein helpu i adlewyrchu pwy yw pobl a beth sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'r cwrs wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i mi yn bersonol ac yn broffesiynol."
Mae Abbie’n cytuno, "Mae Nant Gwrtheyrn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i mi. Mae wedi cynyddu fy hyder i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg ac wedi fy helpu i ddeall pwysigrwydd darparu gwasanaethau yn Gymraeg," meddai Abbie.
Dywedodd Clare fod y cwrs hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd iaith ym mywydau pobl. "Rhoddodd fwy o hyder i mi ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd ac mae’n fy atgoffa pa mor bwysig yw iaith i hunaniaeth, cysur a pherthyn. Mewn gofal dementia, gall clywed Cymraeg ddod â chysur mawr i rywun."
Wedi'i ysbrydoli gan eu profiadau, mae Haulfryn wedi cyflwyno mwy o weithgareddau yn Gymraeg ac wedi cynyddu'r defnydd o waith celf, arddangosfeydd ac arwyddion Cymraeg drwy’r cartref.
I'r tîm, roedd y cwrs yn llawer mwy na dysgu iaith. Fe'u helpodd i feithrin perthnasoedd cryfach â phreswylwyr, cefnogi eu llesiant a sicrhau bod pobl yn gallu cyfathrebu yn yr iaith sy'n teimlo fwyaf cyfforddus iddyn nhw. Mae eu profiadau'n dangos sut y gall dysgu Cymraeg feithrin hyder, cefnogi datblygiad proffesiynol a helpu pobl i gael gofal yn yr iaith o'u dewis.