Jump to content
Sut i adael y Gofrestr

Gwybodaeth am sut i adael y Gofrestr ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n dymuno tynnu'n ôl o'u cwrs.

Gofyn am gael tynnu eich enw oddi ar y Gofrestr

Os ydych chi wedi cofrestru gyda ni, gallwch chi ofyn i ni dynnu eich enw oddi ar y Gofrestr ar unrhyw adeg.

Os nad ydych chi’n bwriadu gweithio yng Nghymru, nid oes angen i chi gofrestru gyda ni a dylech chi ofyn i ni dynnu eich enw oddi ar y Gofrestr. 

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud
  • Mewngofnodi i'ch cyfrif GCCarlein 
  • Cliciwch 'Fy Nghofrestriad' 
  • Cliciwch 'Cais i Ddileu'.

Byddwn ni’n cysylltu i gadarnhau ein bod wedi tynnu eich enw oddi ar y Gofrestr.

Gweithio mewn rhannau eraill o'r DU

Os ydych chi'n bwriadu gweithio mewn rhan arall o'r DU, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'r sefydliad perthnasol. Cewch ragor o wybodaeth yma:

Os na fyddwch chi’n adnewyddu eich cofrestriad

Mae eich cofrestriad yn para hyd at dair blynedd. 

Os na fyddwch chi’n adnewyddu eich cofrestriad cyn diwedd y tair blynedd, neu os na fyddwch chi’n talu eich ffi flynyddol cyn iddi fod yn ddyledus, bydd eich cofrestriad yn dod i ben. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi bellach ar ein Cofrestr ac ni fyddwch chi’n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru sydd angen cofrestru ar ei chyfer. Byddwn ni’n rhoi gwybod i'ch cyflogwr.

Os ydych chi am gynnwys eich enw yn ôl ar y Gofrestr, bydd angen i chi gwblhau cais newydd. 

Rhagor o wybodaeth am adnewyddu eich cofrestriad 

Myfyrwyr sy'n tynnu'n ôl o'u cwrs

Os ydych chi wedi cofrestru gyda ni fel myfyriwr, bydd angen i'ch prifysgol roi gwybod i ni os nad ydych chi ar y cwrs mwyach. Gan na fydd angen i chi fod wedi'ch cofrestru gyda ni mwyach, byddwn ni’n tynnu eich enw oddi ar y Gofrestr ac yn rhoi gwybod i chi.

Tynnu eich enw drwy gytundeb

Os ydych chi’n mynd trwy ymchwiliad addasrwydd i ymarfer, gallwch chi ofyn i ni dynnu eich enw oddi ar y Gofrestr. Bydd ein tîm addasrwydd i ymarfer yn ystyried y ceisiadau hyn yn seiliedig ar natur ac amgylchiadau'r achos.

Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n delio â phryderon

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.