Gwybodaeth am pam rydyn ni'n cofrestru pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni’n cofrestru pobl mewn rolau penodol ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel. Pan fydd rhywun yn ymuno â'n Cofrestr, mae'n golygu eu bod yn fedrus ac yn gymwys i wneud eu gwaith, a bod ganddyn nhw’r gwerthoedd cywir i ddarparu gofal a chefnogaeth dda.
Rhaid i bawb ar ein Cofrestr hefyd ddilyn ein Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cytuno i weithio’n unol â safonau ymddygiad penodol.
Dysgwch fwy am bwy sydd angen cofrestru.
Pam fod cofrestru’n bwysig
Mae cofrestru o fudd i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a'r cyhoedd ehangach.
- Mae’n meithrin ymddiriedaeth a hyder – rhaid i bawb ar ein Cofrestr fod â'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith
- Mae'n helpu i gadw pobl yn ddiogel trwy amddiffyn hawliau pobl a gwneud yn siŵr eu bod yn cael llais
- Mae’n cefnogi pobl i fod yn annibynnol ac amddiffyn eu hunain
- Mae’n amddiffyn y cyhoedd. Os nad yw rhywun yn addas i ymarfer, gellir ei dynnu oddi ar y Gofrestr fel na all weithio mewn rôl gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru mwyach.
Manteision eraill i weithwyr cofrestredig
✅ Mae gweithwyr yn rhan o Gofrestr broffesiynol y gall y cyhoedd ei gweld.
✅ Maen nhw’n cael eu cefnogi gan eu cyflogwyr i gwblhau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
✅Gallan nhw gael mynediad at gymorth, gwybodaeth ac adnoddau i'w helpu yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae'r manteision hyn yn helpu gweithwyr i ddatblygu'n broffesiynol a darparu gofal o ansawdd uchel.
Dysgwch fwy am sut rydyn ni’n cefnogi gweithwyr cofrestredig.
Mwy o wybodaeth
Eisiau gwybod mwy am ofal cymdeithasol yng Nghymru a sut mae'n gweithio?