Jump to content
Newid eich cofrestriad neu gwneud cais am gofrestriad arall

Os ydych chi'n gweithio mewn mwy nag un rôl neu'n newid rôl, efallai y bydd angen i chi newid eich cofrestriad.

Dim ond mewn rhai sefyllfaoedd y mae angen i chi wneud hyn, er enghraifft os ydych chi'n gweithio mewn lleoliad gwahanol neu fath gwahanol o rôl. 

Dim ond mewn rhai sefyllfaoedd y mae angen i chi wneud hyn, er enghraifft os ydych chi'n gweithio mewn lleoliad gwahanol neu fath gwahanol o rôl. 

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau y mae angen i chi roi gwybod i ni amdanynt.

Os ydych chi wedi newid o:

  • weithio mewn gofal cartref i weithio mewn cartref gofal (neu i'r gwrthwyneb)
  • gweithio gyda phlant i weithio gydag oedolion mewn cartref gofal (neu i'r gwrthwyneb)
  • bod yn weithiwr i fod yn rheolwr (neu i'r gwrthwyneb).

Nid oes angen i ddirprwy reolwyr bob amser newid eu cofrestriad, felly gofynnwch i’ch rheolwr llinell os nad ydych chi'n siŵr.

Bydd angen i chi hefyd newid eich cofrestriad os byddwch chi'n dechrau gweithio mewn mwy nag un math o rôl ofalu. Er enghraifft, os ydych chi'n weithiwr gofal cartref ac yn weithiwr cartref gofal.

Sut i newid eich rôl gofrestredig

Os oes angen i chi newid eich rôl gofrestredig, efallai bydd angen i chi gwblhau cymhwyster gwahanol. 

Gall eich rheolwr llinell eich helpu chi i wirio hyn. Mae rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i gofrestru ar ein tudalennau Fframwaith Cymwysterau.

Mewngofnodwch i'ch cyfrif GCCarlein yma i wneud cais i newid eich cofrestriad.