Gwybodaeth am y Fframwaith dysgu ac ymsefydlu ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Cyflwyniad
Mae'r fframwaith dysgu ac ymsefydlu ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant (y fframwaith) yn ymdrin â'r wybodaeth a'r ymarfer sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi cynefino i rôl reoli, yn ogystal â chefnogi dysgu parhaus a datblygiad proffesiynol drwy gydol gyrfa rheolwr.
Mae'r fframwaith hwn yn disodli Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Beth yw e?
Mae'r fframwaith yn broses ddysgu ac ymsefydlu genedlaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'ch helpu i adeiladu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol ym maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Mae'n cefnogi ymsefydlu i rolau rheoli yn ogystal â datblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol gyrfa rheolwr.
Mae dwy ran i’r fframwaith:
Rhan A – Gwybodaeth
Mae Rhan A yn seiliedig ar dair prif safon sy'n canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i chi ei wybod fel rheolwr:
- Safon 1: Arwain ymarfer plentyn-ganolog
- Safon 2: Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli
- Safon 3: Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
Rhan B – Cymhwysedd
Mae Rhan B yn seiliedig ar chwe phrif safon sy'n canolbwyntio ar y cymwyseddau a enillwyd wrth weithio fel rheolwr:
- Safon 1: Arwain a rheoli ymarfer plentyn-ganolog
- Safon 2: Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
- Safon 3: Arwain a rheoli ansawdd y gweithle/lleoliad
- Safon 4: Ymarfer proffesiynol
- Safon 5: Arwain a rheoli ymarfer sy'n hybu'r broses o ddiogelu plant
- Safon 6: Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle/lleoliad
Dogfennau'r fframwaith
Bydd angen y dogfennau canlynol arnoch i gwblhau'r fframwaith:
Cofnod tystiolaeth: Rhan A (Gwybodaeth)
Cofnod tystiolaeth: Rhan B (Cymhwysedd)
Cyn i chi ddechrau'r fframwaith, neu gefnogi rhywun arall i'w gwblhau, rydym yn argymell eich bod yn darllen yr arweinlyfr yn gyntaf.
Pwy ddylai gwblhau’r fframwaith?
Os ydych chi'n newydd i rôl rheolwr blynyddoedd cynnar a gofal plant, rydyn ni'n argymell cwblhau Rhan A a Rhan B o'r fframwaith fel rhan o'ch cyfnod ymsefydlu. Bydd y fframwaith yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i arwain a rheoli gwasanaethau blynyddoedd cynnar a gofal plant yn effeithiol.
Os ydych chi'n rheolwr profiadol, rydyn ni'n argymell defnyddio'r fframwaith fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol parhaus. Gall cwblhau Rhan A a Rhan B eich helpu i adnewyddu a chryfhau eich gwybodaeth, myfyrio ar eich ymarfer a nodi meysydd i'w datblygu ymhellach.
Gall Rhan A hefyd helpu pobl sy'n ystyried symud i rôl reoli drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector.
Sut fyddwch chi'n cwblhau’r fframwaith?
Mae dwy ddogfen i'w cwblhau:
- Cofnod tystiolaeth: Rhan A (Gwybodaeth) - i gwblhau Rhan A o'r fframwaith
- Cofnod tystiolaeth: Rhan B (Cymhwysedd) - i gwblhau Rhan B o'r fframwaith
Byddwch yn cwblhau'r fframwaith trwy gofnodi tystiolaeth yn yr ardal log tystiolaeth ym mhob dogfen. Mae'r fframwaith yn annog dull holistaidd, lle gellir mapio darnau unigol o dystiolaeth ar draws sawl safon.
Beth mae'r fframwaith yn ei gwmpasu?
Mae'r fframwaith hwn yn nodi safonau sy'n cyfateb i'r deilliannau dysgu gorfodol ar gyfer y cymwysterau Ymarfer canlynol:
- Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
- Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Mae’r safonau hyn yn egluro’r wybodaeth a’r ymarfer gofynnol ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Er bod y fframwaith yn defnyddio’r un deilliannau dysgu â’r cymwysterau hyn, fframwaith gweithle ydyw, nid cymhwyster a asesir. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n ei gwblhau drwy gasglu a chyflwyno tystiolaeth o’ch gweithle i ddangos eich cymhwysedd. Bydd hyn wedyn yn cael ei adolygu a’i ddefnyddio i benderfynu a ydych chi’n bodloni’r safonau.
Rolau a chyfrifoldebau
Unigolion sy'n cwblhau'r fframwaith
Os ydych chi'n cwblhau'r fframwaith, chi sy'n gyfrifol am gwblhau'r rhannau perthnasol a chofnodi tystiolaeth sy'n dangos eich bod yn deall y safonau a sut rydych yn eu defnyddio yn eich rôl.
Person a enwebwyd
Mae person a enwebwyd yn cefnogi’r rheolwr ac yn ei arwain drwy rannau A a B y fframwaith, gan adolygu a chadarnhau ei fod wedi bodloni’r safonau.
Bydd y person a enwebwyd yn cefnogi'r rheolwr drwy gydol y broses trwy drafod cynnydd, arsylwi arfer a rhoi adborth. Unwaith y bydd yr holl safonau wedi'u bodloni, bydd y rheolwr a'r person a enwebwyd yn llofnodi'r dystiolaeth, ac yn lawrlwytho tystysgrif cwblhau.
Adnoddau ychwanegol i'ch helpu
Gall y dogfennau canlynol hefyd fod yn ddefnyddiol wrth i chi gwblhau'r fframwaith:
- Atebion sampl ar gyfer Rhan A
- Blwyddyn gyntaf fel rheolwr: canllawiau ymarfer – adnodd ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant- mae'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth a deunydd cyfeirio i gefnogi rheolwyr newydd ym maes y blynyddoedd cynnar
Tystysgrif gwblhau
Pan fydd yr holl safonau wedi'u bodloni, bydd bydd y person a enwebwyd yn lawrlwytho'r dystysgrif gwblhau isod. Bydd angen i'r person a enwebwyd a'r rheolwr lofnodi'r dystysgrif.
Cadwch y dystysgrif gwblhau a'r logiau tystiolaeth wedi'u cwblhau yn ddiogel fel tystiolaeth.
Cysyltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.