Jump to content
Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Mae angen i bob gweithiwr gofal cymdeithasol sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant neu ddysgu fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Eich cyfrifoldebau fel gweithiwr cofrestredig

Pan fyddwch chi'n cofrestru gyda ni, rydych chi'n cytuno i ddilyn a gweithio’n unol â safonau'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Mae'r Cod yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i helpu i gadw pobl yn ddiogel. 

Mae gweithio yn ôl safonau'r Cod yn golygu eich bod chi’n cymryd cyfrifoldeb am gynnal a datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau – sy'n cynnwys cynnal DPP rheolaidd.

Beth yw DPP?

Ystyr DPP yw dysgu a datblygu eich sgiliau ochr yn ochr â'ch gwaith o ddydd i ddydd. Mae'n cynnwys pethau fel: 

  • cwblhau cymhwyster perthnasol neu gwrs achrededig
  • mynychu hyfforddiant, gweithdai, seminarau neu gynadleddau
  • cwblhau modiwl e-ddysgu sy'n berthnasol i'ch ymarfer
  • mynychu fforwm proffesiynol neu grŵp rhwydweithio
  • cysgodi cydweithiwr mewn tîm, gwasanaeth neu broffesiwn cysylltiedig
  • cynnal ymchwil neu waith darllen strwythuredig sy'n gysylltiedig â'ch ymarfer
  • rhoi cyflwyniad neu arwain trafodaeth ar bwnc newydd rydych chi wedi ymchwilio iddo
  • cwblhau secondiad mewn maes perthnasol o waith newydd neu gysylltiedig
  • gwirfoddoli i weithio mewn gwasanaeth newydd
  • cymryd cyfrifoldebau newydd neu wahanol.

Dylai eich DPP:

  • gynnwys unrhyw hyfforddiant gorfodol neu addysg a dysgu proffesiynol parhaus
  • eich helpu chi i ddarparu gofal o ansawdd uchel
  • fod o gymorth gyda'ch datblygiad personol neu yrfa
  • bod yn berthnasol i'ch swydd
  • eich helpu chi i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, polisi, ymchwil ac ymarfer.

Anelwch at gynnwys amrywiaeth o wahanol weithgareddau dysgu yn eich DPP.

Cadw cofnod o'ch DPP

Beth sydd angen i chi ei wneud

Dylech chi gadw cofnod o'ch DPP a'i drafod yn rheolaidd gyda'ch rheolwr. 

Nid oes angen i chi ei anfon atom ni oni bai eich bod chi’n cael eich dewis fel rhan o sampl i'w wirio

Os cewch chi eich dewis, byddwn ni’n rhoi digon o amser i chi anfon yr hyn sydd ei angen arnom ni.

Gallwch chi ddefnyddio eich cyfrif GCCarlein i gadw cofnod o'ch DPP, ond ni fyddwn ni’n gofyn i'w weld oni bai eich bod wedi'ch dewis fel sampl i ni ei wirio. 

Cyfrifoldeb eich cyflogwr

Rydych chi'n gyfrifol am gynnal eich DPP, ac mae'n rhaid i'ch cyflogwr wneud yn siŵr eich bod chi’n cael eich cefnogi i wneud hynny. 

Mae hyn yr un peth i bawb – p'un a ydych chi'n gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser, neu os ydych chi'n gweithio i asiantaeth.

Rhaid i'ch cyflogwr:

  • roi cyfleoedd i chi gael mynediad at arfer gorau yn y gweithle, ei drafod, myfyrio arno a’i rannu 
  • gwneud yn siŵr bod gennych chi gyfleoedd sefydlu, hyfforddiant a dysgu sy'n eich cefnogi
  • neilltuo amser i chi gael eich goruchwylio a'ch gwerthuso
  • rhoi adborth defnyddiol i chi am eich perfformiad a'ch datblygiad.

Os ydych chi'n hunangyflogedig

Mae angen i chi gwblhau a chadw cofnod o'ch DPP.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.