Jump to content
Cynorthwyydd personol

Gwybodaeth ac adnoddau i gefnogi cynorthwywyr personol.

Diolch, Cynorthwywyr Personol

Heddiw, ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Cynorthwywyr Personol (13 Tachwedd), rydyn ni’n dathlu'r cyfraniad hanfodol y mae Cynorthwywyr Personol yn ei wneud wrth helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel.

Mae Cynorthwywyr Personol yn darparu gofal a chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y person i unigolion yn eu cartrefi a'u cymunedau. Maen nhw’n helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth a'u llesiant trwy eu cefnogi gyda thasgau bob dydd ac, mewn rhai achosion, darparu gofal personol.

Mae'r cymorth a ddarperir gan Gynorthwywyr Personol yn caniatáu i bobl fyw'r bywydau maen nhw'n eu dewis, cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysicaf iddyn nhw.

Wrth nodi'r diwrnod, dywedodd Delyth Jewell AS, y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: 

"Mae Diwrnod Cenedlaethol y Cynorthwywyr Personol yn rhoi cyfle i gydnabod a dathlu'r cyfraniad pwysig y mae Cynorthwywyr Personol yn ei wneud ledled Cymru. Trwy eu hymroddiad a'u cefnogaeth, mae Cynorthwywyr Personol yn helpu pobl i fyw'n annibynnol a chynnal mwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. 

"Hoffwn ddiolch i'r holl Gynorthwywyr Personol am y rôl werthfawr y maen nhw’n ei chwarae wrth gefnogi unigolion a chymunedau ledled Cymru."

Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: "Diolch i Gynorthwywyr Personol ledled Cymru am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a'u hymroddiad i gefnogi pobl i fyw mor annibynnol a diogel â phosibl. Mae'r gefnogaeth maen nhw'n ei ddarparu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.

"Os ydych chi eisiau gwybod mwy am rôl Cynorthwyydd Personol, neu os ydych chi'n edrych i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth, mae gennym ystod o adnoddau i'ch cefnogi." 

Darganfyddwch fwy isod.

  • Rôl Cynorthwyydd Personol

    Mae cynorthwyydd personol yn rhoi gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar y person i unigolion, er mwyn gallu sicrhau canlyniadau llesiant personol yn y lle y maen nhw'n byw.

    • Cynorthwyydd personol
  • Canllaw ar-lein i Gynorthwywyr Personol

    Nod yr adnoddau arlein yma yw rhoi i unrhyw un sydd naill ai eisoes yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol mewn gofal cymdeithasol neu sy’n ystyried ymuno â’r proffesiwn, i ddysgu mwy am rôl y Cynorthwyydd Personol mewn ffordd hygyrch sy’n rhoi’r holl wybodaeth ddiweddaraf. 

    • Cynorthwyydd personol
  • Codau Ymarfer Proffesiynol

    Gwybodaeth am ein Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr gofal cymdeithasol, canllawiau ymarfer ac adnoddau defnyddiol. 

    • Cynorthwyydd personol
  • Fframwaith cymwysterau

    Darganfyddwch fwy am y cymwysterau a argymhellir ar gyfer ymarfer fel cynorthwyydd personol.

    • Cynorthwyydd personol
  • Defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwywyr personol

    Dysgwch fwy am ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwywyr personol.

    • Cynorthwyydd personol
  • Cymorth gyda thaliadau uniongyrchol

    Darganfyddwch fwy o wybodaeth a'r cymorth lleol a rhanbarthol sydd ar gael ar gyfer taliadau uniongyrchol a chynorthwywyr personol.

    • Cynorthwyydd personol