Dysgwch fwy am ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwywyr personol
Beth yw cynorthwy-ydd personol?
Mae cynorthwy-ydd personol, y cyfeirir atyn nhw’n aml fel PA, yn berson a gyflogir i ddarparu gwasanaeth uniongyrchol i unigolyn neu grŵp bach.
Yr unigolyn neu’r grŵp bach sy’n penderfynu beth fydd y gweithiwr yn ei wneud i’w cynorthwyo.
Fel cyflogwr, mae gofynion cyfreithiol yn berthnasol, gan gynnwys cadw cyfrifon, gwneud y gyflogres a darparu tâl salwch, tâl gwyliau, a phensiwn.
Mae cymorth ar gael i helpu pobl i ddeall beth yw’r gofynion hynny a sut i gael cymorth gyda chyflawni rôl cyflogwr. Hefyd, mae gan gynorthwyydd personol yr hawl i fod yn aelod o undeb llafur.
Os oes angen i berson ddefnyddio asiantaeth i gyflogi cynorthwyydd personol, dylai’r awdurdod lleol dalu ffi’r asiantaeth os yw hyn yn fwy na’r taliad uniongyrchol.
Hyfforddi cynorthwywyr personol
Mae rhai gwasanaethau cymorth taliadau uniongyrchol yn darparu hyfforddiant ar gyfer cynorthwywyr personol, gan gynnwys dyfarniadau a diplomâu achrededig.
Nid yn unig y mae hyfforddiant yn cefnogi cynorthwywyr personol i wneud eu gwaith, ond hefyd mae’n darparu dilyniant gyrfaol a’r cyfle i ennill cymwysterau.
Mae hyfforddiant hefyd yn cyfrannu at ddiogelu derbynwyr taliadau uniongyrchol, gan ei fod yn hyrwyddo gweithlu medrus.
Bydd gan ddarparwyr gwasanaethau cymorth taliadau uniongyrchol bolisïau a thempledi enghreifftiol, a chanllawiau i gyflogwyr eu defnyddio.
Gall hyn gynnwys yswiriant, diogelu a gweithio gydag oedolion agored i niwed, a hyfforddiant iechyd a diogelwch.
Yn yr un modd, efallai byddai’n well gan rai unigolion hyfforddi cynorthwywyr personol eu hunain, neu ganfod gwasanaethau amgen.
Dylai ymarferwyr awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw un sy’n darparu ei hyfforddiant ei hun yn cael mynediad i’r cymorth a’r wybodaeth angenrheidiol i fodloni ei rwymedigaethau fel cyflogwr.
Mae’r pecyn offer i gynorthwywyr personol yn darparu gwybodaeth i gynorthwywyr personol am eu rôl a’r hyfforddiant a’r cymorth a all fod ar gael iddynt. (Saesneg yn unig)
Astudiaeth achos: sut defnyddiodd Sophie daliadau uniongyrchol i dalu am lanhawr
Mae gan Sophie gyflyrau iechyd sy’n achosi blinder.
Mewn ymgais i gadw ei hegni ar gyfer y tasgau sydd bwysicaf iddi, mae’n defnyddio ei thaliad uniongyrchol i dalu am lanhawr i lanhau a thacluso ei fflat am ddwy awr ddwy waith yr wythnos.
Heb y cymorth hwn, byddai fflat blêr yn mynd yn ormod i Sophie ac yn gwneud iddi deimlo’n isel.
Gydag ychydig oriau o gymorth bob wythnos, gall Sophie reoli ei hegni’n well bellach, a threulio amser yn gwneud yr hyn mae’n ei fwynhau, fel mynd am goffi gyda’i ffrindiau.
Astudiaeth achos: sut talodd David am arddwr drwy daliadau uniongyrchol
Mae David wedi ymfalchïo mewn cadw gardd daclus erioed, ond nid yw’n gallu ymdopi ar ei ben ei hun mwyach.
Trwy gyflogi garddwr un waith bob pythefnos, mae’n cael help i gynnal ei ardd i safon mae’n ei fwynhau, gan gyflawni rhai tasgau gyda chymorth a mwynhau’r cwmni a’r sgwrsio.
Felly, mae’r taliad uniongyrchol yn gallu cefnogi David i wella ei iechyd corfforol a meddyliol.
Mae David yn cael teimlad o falchder wrth gadw ei ardd mewn cyflwr da, ac mae’r cwmni wythnosol yn gwneud gwahaniaeth wrth fynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig.
Astudiaeth achos: sut mae Dylan yn defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer egwyliau byr a seibiant
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.