Jump to content
Y dogfennau y mae eu hangen arnom a sut i’w hanfon

Rydym ni angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom i brofi pwy ydych chi, eich cymwysterau ac i wneud yn siŵr eich bod yn addas i ymarfer.

Bydd y dogfennau y mae eu hangen arnom yn dibynnu ar eich swydd ac a ydych chi’n adnewyddu eich cofrestriad neu’n gwneud cais i’r Gofrestr am y tro cyntaf.

Bydd angen i chi anfon llungopïau neu sganiau o’ch dogfennau atom. Weithiau, byddwn yn gofyn bod eich dogfennau’n cael eu gwirio cyn i ni allu eu prosesu.

Dogfennau y bydd eu hangen arnoch i wneud cais i gofrestru

Os ydych chi’n cofrestru fel:

  • gweithiwr cymdeithasol a gymhwysodd cyn 2007
  • gweithiwr cymdeithasol a gymhwysodd gyda gradd yn y DU, ond y tu allan i Gymru
  • rheolwr (nid unigolyn cyfrifol) neu weithiwr gofal preswyl i blant
  • rheolwr (nid unigolyn cyfrifol) neu weithiwr gofal cartref
  • rheolwr (nid unigolyn cyfrifol) neu weithiwr cartref gofal i oedolion
  • rheolwr canolfan breswyl i deuluoedd
  • rheolwr gwasanaeth maethu
  • rheolwr lleoli oedolion
  • rheolwr gwasanaeth mabwysiadu
  • rheolwr eiriolaeth.

Ac os ydych wedi cael gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) o fewn y tair blynedd diwethaf neu rydych chi wedi ymuno â gwasanaeth diweddaru’r GDG ac rydych chi’n gwneud cais gyda chymhwyster, bydd angen copi wedi’i sganio arnom o dystysgrif eich cymhwyster.

Os nad ydych wedi cael gwiriad y GDG o fewn y tair blynedd diwethaf, bydd angen copi wedi’i gwirio arnom o’ch:

  • tystysgrif geni
  • tystiolaeth adnabod â ffotograff
  • tystysgrif eich cymhwyster, os ydych chi’n gwneud cais gyda chymhwyster.

Os ydych chi’n gwneud cais fel gweithiwr gofal cymdeithasol

Gall fod angen copïau arnom o dystysgrif eich cymhwyster. Bydd hyn yn dibynnu pa lwybr y byddwch chi’n ei ddefnyddio i gofrestru. Dysgwch fwy am ein llwybrau i gofrestru.

Os ydych chi’n gwneud cais fel gweithiwr cymdeithasol a gymhwysodd y tu allan i’r DU

Bydd angen copïau wedi’u gwirio arnom o:

  • dystysgrif eich cymhwyster
  • tystysgrif geni
  • tystiolaeth adnabod â ffotograff
  • trawsgrifiadau cymwysterau cwrs.

Mae'n bosib bydd angen i ni weld dogfennau eraill wedi'i dilysu. Os ydyn ni, byddwn yn esbonio beth sydd angen tra ein bod ni'n prosesu'ch cais.

Dyma fathau derbyniol o dystiolaeth adnabod â ffotograff:

  • tudalen tystiolaeth ffotograffig eich pasbort
  • trwydded yrru â ffotograff
  • cerdyn adnabod gwaith â ffotograff
  • cerdyn adnabod â ffotograff gan un o Luoedd Arfog Prydain
  • cerdyn adnabod â ffotograff (gwledydd yr UE yn unig).

Ni allwn dderbyn eich dogfennau os nad ydynt wedi cael eu gwirio.

Os ydych chi’n gwneud cais fel rheolwr a chi hefyd yw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, bydd angen copïau o’r canlynol arnom:

  • tystysgrif eich cymhwyster.

Os ydych chi’n gwneud cais fel:

  • myfyriwr gwaith cymdeithasol
  • gweithiwr cymdeithasol cymwysedig â gradd o brifysgol yng Nghymru. Nid oes arnom angen unrhyw ddogfennau wedi’u gwirio gennych. Mae eich prifysgol yn cadarnhau pwy ydych chi yn ystod y broses ymrestru.

Dogfennau y mae eu hangen arnoch i adnewyddu eich cofrestriad

Pan fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, gall fod angen i chi anfon copi wedi’i wirio atom o dystysgrif eich cymhwyster.

Os cofrestroch chi’n wreiddiol gan ddefnyddio:

  • Y Fframwaith Sefydlu ar gyfer Gofal Cymdeithasol (SCIF)
  • Y Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd
  • Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan
  • Asesiad gan gyflogwr neu
  • City & Guilds Lefel 2 iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster craidd

bydd angen i chi gwblhau’r cymhwyster gofynnol ar gyfer eich rôl cyn diwedd tair blynedd gyntaf eich cofrestriad.

Pan fyddwch yn gwneud cais i adnewyddu eich cofrestriad, bydd angen i chi anfon llungopi wedi’i wirio atom o dystysgrif eich cymhwyster i ddangos eich bod wedi bodloni ein gofynion hyfforddiant.

Sut i gael eich dogfennau wedi’u gwirio

Os bydd angen i chi anfon dogfennau wedi’u gwirio atom, bydd angen i chi ofyn i berson cymeradwy wirio’r llungopïau o’ch dogfennau cyn i chi eu llwytho i’ch cyfrif GCCarlein. Gall gwiriwr fod yn llofnodwr cymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae llofnodwyr cymeradwy yn bobl a enwebwyd gan gyflogwyr a phrifysgolion i weithio gyda ni i gefnogi’r broses gofrestru.

Os nad yw’r sawl sy’n gwirio’ch dogfennau yn llofnodwr cymeradwy, bydd angen i’r sawl sy’n cymeradwyo’ch cais gadarnhau ei fod yn berson addas i wirio’ch dogfennau.

Os ydych chi’n unigolyn cyfrifol sydd heb gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru eto neu nid ydych yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, gallwch ofyn i rywun arall wirio’ch dogfennau.

Mae angen i’r person hwn fod yn:

  • berson proffesiynol (er enghraifft, person cofrestredig)
  • rhywun sydd wedi’ch adnabod chi am o leiaf ddwy flynedd
  • rhywun sydd ddim yn berthynas
  • rhywun sydd ddim mewn perthynas bersonol â chi.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, ni ddylai’r sawl sy’n gwirio’ch dogfennau weithio i’r un sefydliad oni bai ei fod mewn rôl uwch na’ch rôl chi.


Beth mae angen i wirwyr ei wneud

Mae angen i chi ddangos y dogfennau gwreiddiol i’r person sy’n gwirio’ch dogfennau, fel y gall gadarnhau bod unrhyw lungopïau yn gopïau gwir.

Ar bob llungopi, bydd angen i’r person:

  • ysgrifennu ei enw llawn, teitl ei swydd, ei gyfeiriad e-bost a’r dyddiad
  • llofnodi ei enw
  • ysgrifennu “Rwyf wedi gweld y gwreiddiol ac mae hwn yn gopi gwir”.

Sut i anfon eich dogfennau

Wrth wneud cais neu adnewyddu, gallwch lanlwytho sganiau neu ffotograffau o’r dogfennau wedi’u gwirio i’ch cyfrif GCCarlein, naill ai fel rhan o’ch cais neu yn ddiweddarach.

I wneud hyn:

  • mewngofnodwch i’ch cyfrif GCCarlein
  • cliciwch ar eich enw ar y ddewislen yn y cornel uchaf
  • bydd hyn yn agor rhestr; cliciwch ar ‘Lanlwytho Dogfen’.

Gwyliwch ein fideo i ddysgu sut i lanlwytho dogfennau:

Cysylltu â ni

Os nad ydych yn siŵr pa ddogfennau y mae angen i chi eu hanfon na sut i’w cael nhw wedi’u gwirio, e-bostiwch y tîm cofrestru: ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 8 Mehefin 2022
Diweddariad olaf: 2 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (48.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch