Jump to content
Beth yw cofrestru a phwy sydd angen cofrestru

Gwybodaeth am pwy sy'n gorfod cofrestru i weithio yng Nghymru, pam rydyn ni'n cofrestru gweithwyr a manteision cofrestru.

Beth yw cofrestru?

eicon o berson yn derbyn gofal a llaw yn dal siâp calon

Rydyn ni’n cofrestru pobl sy'n gweithio mewn rolau penodol ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel. Pan fydd rhywun yn ymuno â'n Cofrestr mae'n golygu eu bod yn fedrus ac yn gymwys i weithio ym maes gofal cymdeithasol, a bod ganddynt y gwerthoedd cywir i ddarparu gofal a chefnogaeth dda i bobl Cymru. 

Mae mwy na 66,000 o bobl wedi'u cofrestru gyda ni ar hyn o bryd. Maen nhw’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes gofal cymdeithasol. Maen nhw wedi'u rhestru isod. 

Rhaid i bawb ar y Gofrestr:

Pwy sydd angen cofrestru gyda ni

Mae angen i bobl sy'n gweithio yn y rolau canlynol gofrestru gyda ni. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.

✅ Gweithwyr cymdeithasol 

Rhaid i chi gofrestru cyn i chi ddechrau gweithio fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru. Mae 'gweithiwr cymdeithasol' yn deitl gwarchodedig. Mae hyn yn golygu ei bod yn anghyfreithlon defnyddio'r teitl oni bai eich bod wedi cofrestru gyda ni.

✅ Myfyrwyr gwaith cymdeithasol

Rhaid i chi wneud cais i gofrestru ar ôl i chi gael eich derbyn ar eich cwrs, a bod wedi cofrestru cyn i chi ddechrau yn lleoliad eich ymarfer cyntaf,

✅ Gweithwyr gofal cymdeithasol: 

  • gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
  • gweithwyr gofal cartref
  • gweithwyr gofal plant preswyl
  • gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
  • gweithwyr gwasanaeth llety diogel
  • gweithwyr preswyl ysgolion arbennig (gellir gwneud cais i gofrestru o 1 Ebrill 2025. Bydd cofrestru yn orfodol ar 30 Medi 2026).

Mae gennych chwe mis i gofrestru o'r dyddiad y byddwch chi'n dechrau gweithio yn eich rôl. 

✅ Rheolwyr gofal cymdeithasol:

  • rheolwyr gwasanaeth mabwysiadu
  • rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
  • rheolwyr lleoliadau i oedolion
  • rheolwyr eiriolaeth (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)
  • rheolwyr gofal cartref
  • rheolwyr gwasanaeth maethu
  • rheolwyr gofal plant preswyl
  • rheolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
  • rheolwyr gwasanaeth llety diogel
  • rheolwyr preswyl ysgolion arbennig.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru cyn eich diwrnod cyntaf mewn swydd newydd. 

Gweithio mewn mwy nag un rôl neu newid eich rôl

Os ydych chi'n gweithio mewn mwy nag un o'r rolau a restrir uchod, er enghraifft, fel gweithiwr cartref gofal oedolion a gweithiwr gofal cartref, neu os byddwch chi'n newid y math o rôl rydych chi'n gweithio ynddi, bydd angen i chi wneud cais am gofrestriad ychwanegol neu newid eich cofrestriad trwy eich cyfrif GCCarlein.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi gofrestru gyda ni neu erbyn pryd y dylech chi gofrestru, cysylltwch â ni yn cofrestru@gofalcymdeithasol.cymru a byddwn yn hapus i helpu.

Sut rydyn ni’n rheoli'r Gofrestr

Rydyn ni’n defnyddio Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2024 i reoli'r Gofrestr. Mae'r rheolau hyn yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw’n sail i gofrestru'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Faint o bobl sydd ar y Gofrestr?

Ers Mehefin 2026, y nifer o bobl gofrestredig yw:

  • 6,943 – gweithwyr cymdeithasol
  • 6 – rheolwr gwasanaeth mabwysiadu 
  • 1,363 – rheolwyr cartrefi gofal i oedolion 
  • 27,324 – gweithwyr cartrefi gofal i oedolion 
  • 13 – rheolwyr lleoli oedolion 
  • 3 – rheolwr eirioli i blant a phobl ifanc 
  • 1,082 – rheolwyr gofal cartref
  • 24,073 – gweithwyr gofal cartref 
  • 23 – rheolwyr gwasanaeth maethu 
  • 516 – rheolwyr gofal preswyl i blant (gan gynnwys gofal preswyl diogel)
  • 5,549 – gweithwyr gofal preswyl i blant (gan gynnwys gofal preswyl diogel) 
  • 6 – rheolwyr canolfan preswyl i deuluoedd
  • 100 – gweithwyr canolfan preswyl i deuluoedd
  • 4 - rheolwr ysgol breswyl arbennig
  • 32 - gweithiwr ysgol breswyl arbennig
  • 799 – myfyrwyr gwaith cymdeithasol. 

Bob blwyddyn, rydyn ni'n cyhoeddi adroddiadau data ar y wybodaeth a roddir i ni gan ymgeiswyr a phobl cofrestredig.

Gweld holl adroddiadau data cofrestru

Chwilio'r Gofrestr